Trosolwg
Saif Rosser ar ben uchaf y prif gampws, Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Trefloyne - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae gan lawer o'r ystafelloedd olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.
Llety
Mae Rosser yn gartref i ryw 350 o fyfyrwyr mewn 4 bloc gwahanol (heb gyfrif Rosser G). Mae pob bloc yn cynnwys naill ai 6 neu 12 fflat hunangynhwysol, ac 8 ystafell wely sengl ym mhob un. Bydd gan y preswylwyr eu hystafell ymolchi eu hunain, a byddant yn rhannu cegin a man seddi esmwyth.
Arlwyo
Llety hunanarlwyo yw Rosser; mae'r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol.
Mae Rosser wedi’i leoli 5 munud ar droed o archfarchnad CK's, neu gall myfyrwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mawr yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o brif gyfleusterau Rosser:
- Llety hunanarlwyo.
- Ystafelloedd en-suite.
- Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
- Adnoddau golchi dillad.
- Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
- Mynediad i'r canolfan Ddysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
- Storfa ddiogel i gadw beiciau.
- Mannau casglu Sbwriel ac Ailgylchu.
- Parcio (cyfyngedig, rhaid cael trwydded).
- Mae Cynorthwywyr Preswlfa'n darparu cymorth a chyngor.
Beth sydd yn eich ystafell?
- Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
- Cabinet ochr y gwely.
- Cwpwrdd dillad.
- Desg a chadair cyfrifiadur.
- Lamp ddesg.
- Silffoedd llyfrau.
- Hysbysfwrdd.
- Bin gwastraff.
Ystafell ymolchi en-suite:
- Cawod.
- Toiled.
- Basn ymolchi (sinc) a drych.
- Rheilen tywel poeth.
Beth sydd yn eich ardaloedd cymunedol?
Cegin
- 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
- 2 ffwrn â gril/hob.
- Popty ping.
- Tegell.
- Tostiwr.
- Bar brecwast gyda stolion.
- 2 Soffa.
- Bwrdd coffi.
- Haearn.
- Bwrdd smwddio.
- Bwced a mop.
- Padell lwch a brwsh.
- Brwsh llawr.
- Hysbysfwrdd.
- Hwfer.
- Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Rosser.
Mae Rosser o fewn pum munud ar droed i:
- Archfarchnad CK’s
- Siop Pysgod a Sglodion
- Safle Bws
- Y rhan fwyaf o’r Adrannau academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan y Celfyddydau
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oriel
Ffioedd
Math o ystafell |
Cost Wythnosol 2022/ 2023 |
Hyd y Contract 2022/ 2023 |
Cost Wythnosol 2023/ 2024 |
Hyd y Contract 2023/ 2024 |
---|---|---|---|---|
Sengl, en-suite | £123.62 | 39 wythnos* | £138.45 | 39 wythnos** |
*O 10.00yb ar 23/09/2022 - 10.00yb ar 23/06/2023
**O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024