Trosolwg
Saif Trefloyne ar ben uchaf Campws Penglais, ger neuaddau preswyl Cwrt Mawr a Rosser - sydd yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr i gyd. Mae llawer o’r ystafelloedd yn cynnwys golygfeydd arbennig o’r dref a’r bae, sydd ond 10 munud i ffwrdd ar droed.
Llety
Ystafelloedd sengl sydd gan Trefloyne, wedi’u trefnu’n fflatiau hunangynhwysol gan rannu ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Mae pob fflat yn lletya 7 o fyfyrwyr a cheir ystafell gawod, ystafell ymolchi ac ystafell toiled ar wahân gyda basn ymolchi. Ceir basn ymolchi yn yr ystafelloedd gwely/astudio hefyd.
Arlwyo
Neuadd hunanarlwyo yw Trefloyne, gyda’r myfyrwyr yn rhannu ceginau mewn fflatiau hunangynhwysol. Yn y ceginau ceir oergell/rhewgell, ffwrn â gril a phentan, ffwrn microdon, tegell, peiriant tostio, bwrdd a chadeiriau, hoover, haearn smwddio, bwrdd smwddio, mop a bwced a brwsh a phan ac ardal eistedd feddal fel eitemau safonol
Mae Trefloyne wedi’i lleoli o fewn 5 munud o gerdded i archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.
Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!
Adnoddau
Dyma rai o'r brif gyfleusterau Trefloyne:
- Llety hunanarlwyo.
- Cyswllt Di-wifr a Gwifredig.
- Cyfleusterau Golchdy.
- Gwasanaeth glanhau yn y mannau cyhoeddus tu allan i'ch fflat - mynedfeydd, pen y grisiau, y grisiau a choridorau.
- Mynediad i'r canolfan ddysgu (Lolfa @ Rosser neu Lolfa @ PJM).
- Storfa ddiogel i gadw beiciau.
- Mannau casglu sbwriel ac ailgylchu.
- Parcio (cyfyngedig, angen trwydded).
- Mae Cynorthwywyr Preswylfa'n darparu cymorth a chyngor.
Beth sydd yn eich ystafell?
- Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
- Cabinet ochr y gwely.
- Cwpwrdd dillad.
- Desg a chadair cyfrifiadur.
- Lamp desg.
- Silffoedd llyfrau.
- Hysbysfwrdd.
- Bin gwastraff.
- Basn ymolchi gyda drych.
Beth sydd yn eich Lle Cymunedol?
Cegin
- 1 Oergell ac 1 Rhewgell, neu 2 Oergell/Rhewgell.
- 2 ffwrn â gril/hob.
- Popty ping.
- Tegell.
- Tostiwr.
- Hwfer.
- Bwrdd cinio a chadeiriau.
- Soffa.
- Haearn.
- Bwrdd smwddio.
- Bwced a mop.
- Padell lwch a brwsh.
- Brwsh llawr.
- Hysbysfwrdd.
- Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.
Ystafell ymolchi
- Toiled.
- Basn ymolchi.
- Baddon.
- Cawod.
Lleoliad
Cliciwch ar y map i weld union leoliad Trefloyne.
O fewn pum munud o gerdded o Trefloyne gallwch gyrraedd:
- Archfarchnad CK’s
- Siop pysgod a sglodion
- Arhosfan bws
- Y mwyafrif o’r Adrannau Academaidd
- Llyfrgelloedd y Brifysgol
- Undeb y Myfyrwyr
- Canolfan Celfyddydau Aberystwyth
- Canolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oriel
Ffioedd
Math o ystafell |
Cost Wythnosol 2023 / 2024 |
Hyd y Contract 2023 / 2024 |
Cost Wythnosol 2024 / 2025 |
Hyd y Contract 2024 / 2025 |
---|---|---|---|---|
Sengl | £110.31 | 39 wythnos* | TBC | 39 wythnos** |
*O 10.00yb are 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024