Trosolwg

Mae Pentre Jane Morgan (PJM), y 'Pentre Myfyrwyr', i'w gael wrth ymyl Fferm Penglais, ar ochr arall y ffordd i Gampws Penglais, ac mae modd cyrraedd y campws yn ddiogel dros y bont droed. Mae gan lawer o'r ystafelloedd lan y grisiau yn y tai olygfeydd braf ar y dref a'r bae, sydd ryw gwta ddeng munud o dro i ffwrdd ar droed.

Llety

Mae Pentre Jane Morgan yn gartref i ryw 1000 o fyfyrwyr rhwng 177 o dai.

Mae pob tŷ yn cynnwys naill ai 5 neu 6 ystafell wely sengl. Bydd y preswylwyr yn rhannu ystafell ymolchi, tai bach, cegin ac mewn rhai ohonynt byddant yn rhannu man seddi esmwyth.

Arlwyo

Llety hunanarlwyo yw PJM, gyda’r myfyrwyr yn rhannu ceginau yn eu tai hunangynhwysol. 

Mae Pentre Jane Morgan wedi’i leoli o fewn 5 munud o gerdded o archfarchnad CK’s, neu gall preswylwyr siopa yn yr archfarchnadoedd mwy o faint yn y dref.

Ond, os hoffech ddefnyddio ein cyfleusterau arlwyo gallwch roi arian ar eich Cerdyn Aber, neu gall teulu/ffrindiau ychwanegu ato ar eich rhan, i’w ddefnyddio yn unrhyw un o’r bwytai ar y campws – mi gewch ostyngiad o 10% yn ogystal!

Adnoddau

Dyma rai o'r brif gyfleusterau Pentre Jane Morgan:

Beth sydd yn eich ystafell?

  • Gwely sengl (3 troedfedd) a matres.
  • Cabinet ochr y gwely.
  • Cwpwrdd dillad.
  • Desg a chadair cyfrifiadur.
  • Lamp desg.
  • Silffoedd llyfrau.
  • Hysbysfwrdd.
  • Bin gwastraff.

 

Beth sydd yn eich Lle Cymunedol?

Cegin

  • 1 Oergell/Rhewgell.
  • Ffwrn gyda gril a hob.
  • Popty ping.
  • Tegell.
  • Tostiwr.
  • Hwfer.
  • Bwrdd cinio a chadeirio.
  • Soffa (mewn rhai tai).
  • Haearn.
  • Bwrdd smwddio.
  • Bwced a mop.
  • Padell lwch a brwsh.
  • Brwsh llawr.
  • Hysbysfwrdd.
  • Biniau – Ailgylchu sych cymysg, gwydr, bwyd a gwastraff cyffredinol.

Ystafelloedd ymolchi

Ystafell gawod i lawr y grisiau:

  • Cawod.
  • Toiled.
  • Basn ymolchi.
  • Drych.

Ystafell ymolchi i fyny’r grisiau:

  • Bath.
  • Basn ymolchi.
  • Drych.
  • Toiled.

Lleoliad

map Cliciwch ar y map i weld union leoliad Pentre Jane Morgan

O fewn pum munud o gerdded o Bentre Jane Morgan gallwch gyrraedd:

Oriel

Sylwer bod rhain yn luniau cynrychiadol o ystafelloedd nodweddiadol ym Mhentre Jane Morgan. (Cliciwch i weld llun mwy)

Golygfa allanol
Golygfa allanol
Golygfa allanol
Ystafell Wely
Cegin
Cegin
Ystafell Ymolchi
Ystafell Ymolchi

Ffioedd

Math o ystafell

Cost Wythnosol 2023/ 2024

Hyd y Contract 2023/ 2024

Cost Wythnosol 2024/ 2025

Hyd y Contract 2024/ 2025

Sengl £121.99 39 wythnos* £130.55 39 wythnos**

*O 10.00yb ar 22/09/2023 - 10.00yb ar 21/06/2024

**O 10.00yb ar 20/09/2024 - 10.00yb ar 20/06/2025

Darganfyddwch beth sydd wedi'i gynnwys yn y Ffioedd Llety