Gwaith Allanol i Ysgolion a Cholegau

 

Rhagor o wybodaeth am rai o'r gweithgareddau a gyflwynir mewn partneriaeth â'n tîm Ehangu Cyfranogiad.

Mentora Brightside (Cyfnod Allweddol 3)

Gan ddefnyddio gwefan Brightside, bydd mentoriaid (myfyrwyr PA), yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad â phobl ifanc i’w helpu nhw i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli (Cyfnod Allweddol 3 a 4)

Prifysgol Aberystwyth sy'n cynnal Taith Sgriblwyr Gŵyl y Gelli sydd a’i nod yw ymgysylltu â’r genhedlaeth newydd a’i hannog i adrodd straeon a sgwrsio, gan ysgogi empathi a chreadigrwydd.

Gwyl Gyrfaoedd Ceredigion (Cyfnod Allweddol 4 & 5)

Am y pum mlynedd diwethaf, mae Gyrfa Cymru a Phrifysgol Aberystwyth wedi gweithio mewn partneriaeth i gyflwyno digwyddiad gyrfaoedd effaith uchel o’r enw ‘Dewis Eich Dyfodol’ ar gyfer disgyblion blynyddoedd 10 i 13 yng Ngheredigion. Nod y digwyddiad hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yn economi Cymru yn y dyfodol a’u hannog i gysylltu â chyflogwyr.

Mae’r brifysgol hefyd yn cefnogi ysgolion lleol i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau eraill megis rhaglenni ffug gyfweliadau, gweithdai CV, a digwyddiadau opsiynau ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac 11.