Dysgu sut mae brechlynnau yn helpu ymladd yn erbyn y Coronafeirws

Croeso i Wythnos Wyddoniaeth Prydain yma o Brifysgol Aberystwyth!

Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers canfod feirws newydd, ac mae ein bywydau wedi newid. Teimlwyd am amser hir y byddai’n rhaid i ni hunanynysu am gyfnod hir iawn, fodd bynnag, cafwyd llygedyn o obaith pan gymeradwywyd y brechlyn cyntaf. Ar hyn o bryd, mae tri brechlyn yn cael eu dosbarthu yn Ewrop, ac mae’r nifer y bobl sydd wedi eu brechu’n cynyddu’n raddol. Ond, sut mae'r brechiadau’n gweithio go iawn yn erbyn coronaferiws?

CWESTIWN CWIS!

Pa gelloedd gwaed sy’n gyfrifol am greu gwrthgyrff (‘antibodies’) sy’n ymladd yn erbyn clefydau?