Telerau ac Amodau Ysgoloriaeth Emily Price

  1. Mae’r Ysgoloriaeth Emily Price ar gael i fyfyrwraig israddedig sy’n dechrau Rhan 1 gradd anrhydedd mewn Mathemateg neu Ffiseg, neu anrhydedd gyfun Mathemateg a Ffiseg.
  2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr wneud cais i Brifysgol Aberystwyth drwy UCAS erbyn eu dyddiad cau mis Ionawr ac mae’n rhaid iddynt fod wedi cael cynnig cwrs cymwys ym Mhrifysgol Aberystwyth fel dewis Cadarn drwy UCAS er mwyn cael eu hystyried.
  3. Cynigir yr Ysgoloriaeth Emily Price i fyfyrwragedd sy’n dangos addewid academaidd ac angerdd dros ddenu mwy o fenywod i faes mathemateg a/neu ffiseg; bydd gofyn i ymgeiswyr lenwi a chyflwyno ffurflen gais am yr ysgoloriaeth erbyn 31 Ionawr.
  4. Mae’n bosib y gofynnir i ymgeiswyr ddod am gyfweliad byr i drafod eu cais yn ystod Diwrnod Ymweld i Ymgeiswyr ym mis Chwefror neu fis Mawrth.
  5. Bydd y Panel Dyfarnu’n cwrdd i benderfynu ar y dyraniadau ym mis Ebrill; mae penderfyniad y Panel Dyfarnu’n derfynol.
  6. £500 yw gwerth yr Ysgoloriaeth. Bydd yr Ysgoloriaeth yn para am flwyddyn yn unig. Telir yr arian mewn dau randaliad cyfartal yn uniongyrchol i gyfrif banc yr ymgeisydd llwyddiannus.  Telir £250 ym mis Rhagfyr, a £250 ym mis Mawrth.
  7. Un Ysgoloriaeth sydd ar gael i ymgeiswyr a fydd yn dechrau eu cwrs yn 2023.
  8. Ni chaiff ymgeiswyr fod wedi bod yn fyfyrwyr gradd mewn sefydliad addysg uwch o’r blaen.
  9. Caiff yr ymgeisydd llwyddiannus ddal yr Ysgoloriaeth ynghyd ag unrhyw un o Ysgoloriaethau neu Fwrsariaethau eraill Prifysgol Aberystwyth.
  10. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fynd i bob darlith a chynnal safon gyson uchel o ran perfformiad academaidd a phresenoldeb, fel y penna’r Panel Dyfarnu.
  11. Mae’n bosib y bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda thiwtor penodedig, adrannau academaidd y Brifysgol, a’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni i hybu’r Ysgoloriaeth a’r effaith a gafodd ar ei hastudiaethau.
  12. Bydd deiliad yr Ysgoloriaeth yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngweithgareddau estyn allan yr adran Ffiseg a/neu Fathemateg mewn ysgolion ac yn y gymuned leol; a gweithgareddau i ddenu mwy o fenywod i faes mathemateg a/neu ffiseg.
  13. Bydd gofyn i ddeiliad yr Ysgoloriaeth gael cyswllt rheolaidd â’r tiwtor personol penodedig er mwyn sicrhau ei bod yn datblygu hyd eithaf ei gallu.
  14. Bydd methu â bodloni unrhyw un o’r gofynion uchod yn peri i’r Ysgoloriaeth gael ei diddymu.

 

Diweddariad 24/04/2024