Aberystwyth a Newid Hinsawdd

"Fedrwch chi ddim byw un diwrnod heb gael effaith ar y byd o'ch cwmpas”, meddai'r primatolegydd byd-enwog Jane Goodall. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cydnabod hyn, ac yn unol â hynny rydym wedi datblygu nifer o raddau yn benodol i sicrhau bod myfyrwyr yn deall ac yn gallu helpu i gynnig atebion ar gyfer yr her fwyaf sy'n wynebu'r blaned a'i phobl heddiw, sef Newid Hinsawdd.

Nid her i wyddonwyr yn unig yw hon, felly rydym wedi datblygu ystod eang o raddau sy'n gysylltiedig â Newid Hinsawdd ar draws meysydd pwnc amrywiol, sy'n rhychwantu'r Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau:

Cyrsiau Newid Hinsawdd

Cyrsiau Newid Hinsawdd

Bioleg a Newid Hinsawdd: dyma gwrs sydd yn edrych ar sut mae bodau dynol wedi effeithio ar y prosesau sy'n sail i newid yn yr hinsawdd, ac mae’r cwrs hefyd yn edrych ar effaith newid yn yr hinsawdd ar fioamrywiaeth ar lefel rhywogaeth, cynefin ac ecosystem.

Economeg a Newid Hinsawdd: mae’r cwrs hwn yn cyfuno gwybodaeth o'r wyddoniaeth sy'n sail i newid yn yr hinsawdd, ac yn cynnig technegau economaidd i’n caniatáu i ddeall a datblygu polisïau a chymhellion sy'n hyrwyddo’r newid i economi carbon-niwtral.

Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd: dyma gwrs sy'n cyfuno gwybodaeth o wyddoniaeth hinsawdd â dealltwriaeth feirniadol o'r dadleuon sy'n ymwneud â'r pwnc. Byddwn hefyd yn ymchwilio i sut mae newid yn yr hinsawdd a diraddiad amgylcheddol wedi cael eu cyfleu mewn llenyddiaeth o'r 19eg ganrif hyd heddiw.

Busnes a Newid Hinsawdd: Bydd y cwrs yma yn paratoi arweinwyr busnes y dyfodol i fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd, trwy eu hannog i ddatblygu strategaethau ac arferion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ystyrlon, a hynny trwy gyflwyno adnabyddiaeth o'r wyddoniaeth berthnasol a datblygu’r sgiliau i arwain busnes cynaliadwy llwyddiannus.

 

Mewn partneriaeth â Channel Talent, mae academyddion o’r radd flaenaf o Aberystwyth wedi bod yn cynnal gweminarau wythnosol byw, awr o hyd, er mwyn trafod Newid Hinsawdd mewn perthynas â'u maes pwnc. Mae recordiadau o'r trafodaethau hyn hefyd yn cael eu cadw ar y tudalennau yma.

Rocordiadau Blaenorol

Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Newid Hinsawdd

Fedrwn ni ddim mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd byd-eang hyd nes y byddwn yn cydweithio ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol, felly mae'r radd arloesol hon yn edrych ar sut mae gwladwriaethau a chymdeithasau yn rheoli adnoddau a systemau ecolegol y blaned, a sut y gallant ddatblygu atebion cymdeithasol a gwleidyddol yn effeithiol.

 

 

 

 

 

 

Daearyddiath a Newid Hinsawdd

Mae’r ddarlith ryngweithiol hon yn trafod pwyslais cynaliadwyedd ar geisio creu dyfodol tecach ac un lle mae’r amgylchedd yn cael ei amddiffyn. Trafodir rhai o’r prif heriau sydd yn wynebu’r byd, gan gynnwys twf poblogaeth, y defnydd o ynni, cyflenwadau bwyd a dwr, a newid hinsawdd.

Yn ogystal â bod yn heriau byd-eang, mae’n nodweddiadol hefyd bod Cymru yn cael ei hystyried fel gwlad blaengar yn y cyswllt hwn, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Trafodir rhai o brif nodweddion y Ddeddf. Gofynnir cwestiynau yn gyson i’r myfyrwyr fel rhan o’r sesiwn, a bydd gofyn iddynt hefyd i gwblhau tasg fer o 5 munud yn gysyllitedig â nodau llesiant Cymru.

Prif amcanion y sesiwn:

-Deall y prif heriau sy’n wynebu’r ddaear o ran cynaliadwyedd.

-Diffinio cynaliadwyedd.

-Deall a dehongli ymgais arloesol Cymru i greu gwlad mwy cynaliadwy.

Troseddeg a Newid Hinsawdd

Nid oes amheuaeth bod y byd yn wynebu argyfwng hinsawdd sylweddol a chymhleth. Mae dadleuon cyfredol o fewn Troseddeg yn mabwysiadu persbectif Gwyrdd, a mae'r sesiwn yma yn cyflwyno myfyrwyr i’r prif ddulliau damcaniaethol sy’n gysylltiedig â Throseddeg Werdd, gan roi pwyslais arbennig ar safbwyntiau rhyngwladol ac atebion i’r argyfwng hinsawdd. Yn ogystal, bydd y sesiwn yn cyflwyno cysyniadau o ‘niwed amgylcheddol,’ yn erbyn cyfraith amgylcheddol.

Mae Troseddeg Werdd yn ganolog i ddealltwriaeth myfyrwyr o fyd sy’n newid, a mae'r sesiwn yn archwilio’r ddibyniaeth gymhleth rhwng bodau dynol, natur, yr hinsawdd sy’n newid a’i berthynas â niwed a throsedd.