Eich canllaw i Addysg Uwch

Eich canllaw i Addysg Uwch: Gwneud y cam o Ymgeisio i Lwyddo

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ein Tîm Denu Myfyrwyr yn gweithio’n ddiwyd i  gynnig gwybodaeth o’r hyn yw addysg uwch i ddarpar fyfyrwyr, athrawon a rhieni.

Ymunwch â ni wrth i ni ymchwilio i amryw o faterion sydd yn ymwneud â'r siwrnai o lunio eich cais i gyrraedd y brifysgol.

Mewn partneriaeth â Channel Talent, mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn cynnal gweminarau wythnosol byw. Mae'r gweminarau hyn yn trafod amryw o faterion a fydd yn eich helpu i wneud eich taith i'r brifysgol ychydig yn haws. Mae recordiadau o'r trafodaethau hyn hefyd yn cael eu cadw ar y tudalennau hyn.

Recordiadau Blaenorol

Dewis y Cwrs a Chwblhau’r Datganiad Personol: Gwneud y Penderfyniadau Cywir

Mae'r sesiwn wedi’i rannu’n ddau – y rhan gyntaf wedi’i anelu at gynorthwyo darpar-fyfyrwyr i ddeall pa rinweddau sydd i gael gradd a sut i ddewis y cwrs a phrifysgol iawn. Byddwn yn trafod:

  • Budd cael gradd
  • Sut i ddewis y cwrs perffaith
  • Sut i ddewis y prifysgol perffaith

Bydd ail ran y sesiwn yn edrych ar bwysigrwydd datganiad personol gwych a sut i’w ysgrifennu.

Bydd y sesiwn wedi’i rannu fel isod:

  • Disgrifiad byr o’r datganiad personol, a’i rol a’i bwysigrwydd o fewn y cais i brifysgol
  • Gorolwg o strwythur y Datganiad Personol
  • Ysgrifennu’r Rhagymadrodd
  • Beth i feddwl amdano pan yn siarad am eich pwnc dewisol
  • Pam bod ysgrifennu am eich llwyddiannau allgyrsiol yn bwysig
  • Ysgrifennu clo i’r datganiad.

Blas ar Fywyd Myfyriwr : Gwneud yr Dewisiadau Cyllido Cywir

 Mae'r sesiwn yma wedi’i rannu’n ddau, gyda’r rhan gyntaf yn edrych ar gyllid myfyrwyr, a’r ail yn edrych ar fywyd myfyrwyr. Bydd y rhan gyntaf yn edrych ar:

  • Beth yw’r system gyllido sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru
  • Pa fath o gefnogaeth gaiff myfyrwyr – Ffioedd a Chynhaliaeth – esboniad o hwn
  • Sut mae’r system yn gweithio, a phryd mae gwneud cais
  • Sut mae ad-dalu’r benthyciad myfyrwyr
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau – esbonio sut mae’r rhain yn gweithio
  • Unrhyw gymorth pellach sydd ar gael i fyfyrwyr

Mae ail ran y sesiwn yn edrych ar fywyd myfyrwyr:

  • Sut brofiad yw symud o adre am y tro cynta
  • Wythnos y Glas
  • Astudio ar lefel prifysgol
  • Gwneud y mwyaf o fywyd myfyrwyr
  • Cyllido