Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Prifysgol Aberystwyth yn trafod Materion Cyfoes mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cychwyn ar gyfnod hynod ddiddorol a chythryblus ac o bosib anodd gyda llawer o’r prif gymeriadau, materion, heriau a bygythiadau yn cael eu trawsnewid yn radical.
Mae yna nifer o weminarau ar amrywiaeth o bynciau gwleidyddol yn y Gymraeg a'r Saesneg isod. Mae'r recordiadau hyn yn berffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio Gwleidyddiaeth a byddant yn eich helpu gyda'ch astudiaethau presennol tra hefyd yn rhoi cipolwg i chi ar y math o addysg sy'n aros amdanoch yn y Brifysgol.
Recordiadau Cyfrwng Cymraeg
Dylanwad Covid-19 ar Wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig
Yn y sesiwn hon buom yn canolbwyntio ar ddylanwad Covid-19 ar wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.
Cyflwyniad gan Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Etholiad Arlywyddol America 2020
Yn y sesiwn hon buom yn trafod yr etholiad arlywyddol yn America, yn cynnwys yr etholiad diweddar ac wedyn rhoi ychydig mwy o gyd-destun i'r etholiad.
Byddwn yn trafod cwestiynau fel -
Sut mae America yn ethol arlywydd?
Y Coleg Etholiadol: sut mae'n gweithio?
Sut mae'r Coleg Etholiadol wedi newid dros amser?
Cryfderau a gwendidau system y Coleg Etholiadol
Cyflwyniad gan - Dr Huw Lewis, Darlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Edrych ymlaen at Etholiadau Senedd Cymru 2021
Yn y sesiwn yma buom yn edrych ymlaen at Etholiadau Senedd Cymru yn 2021 wrth edrych ar etholiadau allweddol yng Nghymru i helpu ni ddeall cyd-destun gwleidyddiaeth etholiadol a bleidiol yng Nghymru.
Pwrpas y sesiwn yma yw rhoi well dealltwriaeth i chi ar rhai o'r prif nodweddion a thueddiadau mewn gwleidyddiaeth pleidio Cymru trwy edrych ar 9 etholiad allweddol.
Cyflwyniad gan Dr Elin Royles, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Sesiwn Holi ac Ateb: Gwleidyddiaeth Cymru yn 2020
Yn y sesiwn hon croesawyd tri chyn-fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb er mwyn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar fyd gwleidyddiaeth Cymru.
Bu Dr Anwen Elias o'n hadran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn croesawu -
Elin Jones - AS Ceredigion a Llywydd Senedd Cymru
Carwyn Jones - AS Pen-y-bont ar Ogwr a cyn Prif Weinidog Cymru
Owain Phillips - Gohebydd Gwleidyddol ITV Cymru
Recordiadau Cyfrwng Saesneg
Y Wleidyddiaeth Ryngwladol o Covid-19
Mae COVID19 yn argyfwng iechyd cyhoeddus, sy’n effeithio ar fywydau, ffyrdd o fyw a bywoliaeth i bobl ledled y blaned.
Ond mae’n fwy na hynny hefyd. Mae'n argyfwng gwleidyddiaeth ryngwladol.
Mae rheoli’r argyfwng ar lefel byd-eang yn fater gwleidyddol - o gyfyngiadau teithio, i fynediad at frechlynnau, o gydweithio ar atebion gwyddonol i bryderon o safbwynt sut i fonitro afiechydon.
Ddaeth y dadleuon hyn ar COVID19 ddim i’r golwg ar amrantiad, ond maent yn gynnyrch dau ddegawd o gydweithuio ym maes ‘iechyd byd-eang’.
Mae'r weminar hon yn ceisio dadansoddi beth yw gwleidyddiaeth iechyd byd-eang - sut y datblygodd, beth mae'n ei olygu a beth yw'r problemau gyda gwleidyddiaeth iechyd byd-eang.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres Materion Cyfoes mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth.
Materion Cyfoes Gwleidyddieath yr UDA
Ymunwch â Dr Warren Dockter a Dr Jenny Mathers wrth iddynt dreiddio i Faterion Cyfoes Gwleidyddiaeth yr UDA.
Mae Gwleidyddiaeth yr UDA yn swyno’r holl fyd.
Gydag etholiad Arlywyddol 2020 yr Unol Daleithiau ar y gorwe, a hynny yng nghanol rhaniadau, tensiynau ac anghydraddoldebau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cynyddol, mae hwn yn gyfle amserol gwych i archwilio rhai o'r cwestiynau pwysig sy'n siapio bywyd gwleidyddol America.
Pa mor gynrychioliadol yw gwleidyddiaeth yr UDA? Pwy sy'n siapio materion a pholisïau ymgyrchu a sut? Pa rôl fydd mewnfudo yn ei chwarae yn yr etholiad? Beth sy'n gwneud Arlywydd yn boblogaidd? Beth mae'r materion hyn yn ei ddweud wrthym am gymdeithas ehangach yr UDA?
Yn y weminar hon byddwn yn defnyddio cwis, dadl a thrafodaeth i hel syniadau ac ystyriaethayu a fydd yn cyfoethogi astudiaethau Safon Uwch, yn dyfnhau dealltwriaeth o faterion cyfredol a dadleuol, ac yn rhoi rhagflas o ddulliau astudio ar lefel prifysgol.
Mae’r weminar hon yn rhan o gyfres Materion Cyfoes mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth.