Gweminarau Gwyddor Filfeddygol

Ysgol Filfeddygol Aberystwyth yw'r gyntaf o'i math a'r unig Ysgol Filfeddygol yng Nghymru.

Crëwyd y gweminarau hyn i gyflwyno Gwyddoniaeth Filfeddygol i fyfyrwyr Safon Uwch. Byddant yn rhoi cyfle ichi ddysgu mwy am yr hyn sydd gan yr Ysgol Filfeddygol yn Aberystwyth i'w gynnig, a’r hyn sydd ei angen i ddod yn Filfeddyg, ynghyd â’r ffyrdd y gallech wella'ch siawns o lwyddo yn eich cais i fynd i’r Ysgol Filfeddygol, ac yn gyffredinol yr hyn y mae Milfeddygon yn ei wneud.

Mewn partneriaeth a Channel Talent mae academyddion o'r radd flaenaf o'r Ysgol Gwyddor Filfeddygol wedi bod yn cynnal gweminarau byw i gyflwyno'r cyrsiau sydd ar gael ynghyd ag amryw o faterion sy’n ymwneud â Gwyddor Filfeddygol. Mae recordiadau o'r gweminarau hyn ar y dudalen hon.

Recordiadau Blaenorol

Cyflwyniad i astudio Gwyddoniaeth Filfeddygol

Mae'r digwyddiad rhyngweithiol ar-lein hwn, dan arweiniad yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth, yn cyflwyno gwaith llawfeddyg milfeddygol i fyfyrwyr ac yn cynnig cyngor ar sut i wneud cais i astudio.

Mae'r cyflwyniad wedi'i rannu'n ddwy ran. Mae Rhan 1 yn ymdrin â'r hyn y mae Milfeddygon yn ei wneud, yr hyn sydd ei angen i ddod yn Filfeddyg, sut i wella'ch siawns o lwyddo wrth wneud cais a pham y dylech astudio y Gwyddorau Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

Yn Rhan 2 gallwch wrando ar yr adran Holi ac Ateb lle cafodd y rhai sy'n cymryd rhan yn y weminar gyfle i ofyn cwestiynau ynghylch y cwrs Gwyddor Filfeddygol newydd, ynghyd â'r pwnc yn gyffredinol:

Cyrsiau Biowyddorau Milfeddygol a Gwyddor Anifeiliaid

Cyrsiau Biowyddorau Milfeddygol a Gwyddor Anifeiliaid

Cymerwch gip ar y amryw o gyrsiau sydd gan yr Ysgol Filfeddygol i'w cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth: https://cyrsiau.aber.ac.uk/subjects/#ymddygiad-anifeiliaid-cadwraeth-bywyd-gwyllt-a-soleg