Yr Hyn Mae Tiwtoriaid Derbyn Yn Edrych Amdano

Gyfres o weminarau ‘Beth mae Tiwtoriaid Derbyn yn edrych amdano pan yn derbyn ceisiadau i Brifysgol’

Yn y gyfres ‘Beth mae Tiwtoriaid Derbyn yn edrych amdano pan yn derbyn ceisiadau i Brifysgol’, gan Brifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig 3 digwyddiad 30 munud rhyngweithiol fydd yn cefnogi myfyrwyr wrth iddynt lunio eu ceisiadau prifysgol bresennol neu rai yn y dyfodol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar gyfadran benodol a bydd yn cynnwys sgwrs fyw gyda swyddog denu myfyrwyr, tiwtor derbyn a myfyriwr presennol, gydag amser wedi penodi er mwyn i gyfranwyr fedru bod yn rhan o’r drafodaeth.

Gweminarau Blaenorol

CELFYDDYDAU A'R GWYDDORAU CYMDEITHASOL

Yn y sesiwn hwn buom yn edrych ar wneud cais i’r Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, gan drafod:

  • Sut brofiad yw astudio’r Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (yn gyffredinol ac yn Aberystwyth)
  • Pa fath o fyfyrwyr sy’n rhagori ac yn blodeuo, a beth fedr myfyrwyr ei ddysgu ar gwrs yn y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
  • Pa fath o brofiad yw’r broses ymgeisio, ac ydy hi’n wahanol iawn i brifysgolion eraill;
  • Pa fath o rinweddau ydy’r brifysgol yn edrych amdanynt yn y cais, a cheir rhai awgrymiadau ynglŷn â sut i ysgrifennu cais rhagorol, gyda ffocws pendant ar y Datganiad Personol.

 Mae hwn yn gyfle gwych i glywed oddi wrth bobl fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar geisiadau, ac sy’n gwybod pa fath o rinweddau sy’n caniatáu i fyfyrwyr fwynhau a ffynnu yn y brifysgol.

Yn faes y Gwyddorau Cymdeithasol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyrsiau Astudiaethau Ffilm, Theatr a Theledu, Celf, Saesneg, Ieithoedd Modern, Cymraeg, Y Gyfraith, Addysg, Gwleidyddiaeth a Hanes.

Y GWYDDORAU

Yn y sesiwn hwn buom yn edrych ar wneud cais i’r Gwyddorau, gan drafod:

  • Sut brofiad yw astudio’r Gwyddorau (yn gyffredinol ac yn Aberystwyth)
  • Pa fath o fyfyrwyr sy’n rhagori ac yn blodeuo, a beth fedr myfyrwyr ei ddysgu ar gwrs yn Y Gwyddorau
  • Pa fath o brofiad yw’r broses ymgeisio, ac ydy hi’n wahanol iawn i brifysgolion eraill;
  • Pa fath o rinweddau ydy’r brifysgol yn edrych amdanynt yn y cais, a cheir rhai awgrymiadau ynglŷn â sut i ysgrifennu cais rhagorol, gyda ffocws pendant ar y Datganiad Personol.

Mae hwn yn gyfle gwych i glywed oddi wrth bobl fydd yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar geisiadau, ac sy’n gwybod pa fath o rinweddau sy’n caniatáu i fyfyrwyr fwynhau a ffynnu yn y brifysgol. Mae hefyd yn gyfle delfrydol, trwy gyfrwng fforwm cyfeillgar a hamddenol, i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ynglŷn â’r broses ymgeisio.

Yn faes y Gwyddorau, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyrsiau Daearyddiaeth, Bioleg, Milfeddygaeth, Cyfrifiadureg, Mathemateg & Ffiseg.

BUSNES A RHEOLAETH

Yn y sesiwn hwn buom yn edrych ar wneud cais i’r Busnes a Rheolaeth, gan drafod:

  • Sut brofiad yw astudio’r Busnes a Rheolaeth (yn gyffredinol ac yn Aberystwyth)
  • Pa fath o fyfyrwyr sy’n rhagori ac yn blodeuo, a beth fedr myfyrwyr ei ddysgu ar gwrs yn Busnes a Rheolaeth