Heriau 2030

A view of Aberystwyth from Constitution Hill.

Cyfres o weminarau: Heriau 2030

Cyfres o weminarau newydd, 'Heriau 2030', sy'n edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau fel Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Hanes a Busnes.

Mewn partneriaeth â Channel Talent, ein nod yw rhoi cipolwg i chi ar ddulliau addysgu ac ymchwil ein darlithwyr wrth drafod y problemau y bydd y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y degawd nesaf.

Daearyddiaeth Mewn Oes Ddigidol

Yn y gyfres ‘Heriau 2030’, gan Brifysgol Aberystwyth, buom yn rhoi cyflwyniad beirniadol i’r ffyrdd y mae technoleg glyfar yn newid ein bywydau.

Rhoddir sylw arbennig i’r ffyrdd y mae technoleg glyfar yn ail-lunio ein bywydau cymdeithasol a gwaith.

Wnaeth y sesiwn hefyd yn archwilio materion gwyliadwriaeth ac anghyfiawnder sy’n gysylltiedig â’r chwyldro technoleg glyfar.

Rhennir y sesiwn yn 4 rhan o tua 10 munud yr un. 

Gwleidyddiaeth: Ydy’r Cyfryngau Cymdeithasol Yn Hybu Neu’n Tanseilio Democratiaeth?

Yn ystod y sesiwn yma, ystyriodd yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ddylanwad cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook a Twitter) ar ddemocratiaeth.

Buom yn ystyried y gwahanol ddadleuon am ddylanwad y platfformau yma ar ddemocratiaeth, gan dynnu ar esiamplau cyfoes o wleidyddiaeth ryngwladol (gan gynnwys y Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau ac eraill).

Sesiwn rhyng-weithiol fydd hon, gyda’r arweinydd yn cyflwyno’r thema a’r dadleuon, a cyfle i fyfyrwyr gwblhau tasgau ar y thema a gofyn cwestiynau.

Hanes: Newyddion Ffug, Damcaniaethau Cynllwyn A Twyllwybodaeth

Yn nesaf yn ein cyfres ‘Heriau 2030’ ystyriwyd yr adran Hanes pynciau fel newyddion ffug, damcaniaethau cynllwyn a twyllwybodaeth.

Mae newyddion ffug, damcaniaethau cynllwyn a thwyllwybodaeth yn nodweddion peryglus o’r gymdeithas cyfoes.

Mae eu heffaith ar wleidyddiaeth yn ddinistriol, maent yn amharu ar ymddiriedaeth ac yn creu rhaniadau peryglus mewn cymdeithas.

Perir hefyd her fawr i’r dyfodol – ond nid yw newyddion ffug yn ffenomen newydd. Gellir cyfeirio at nifer o achosion hanesyddol pan roedd twyllwybodaeth a damcaniaethau cynllwyn wedi niweidio’r gymdeithas a gwleidyddiaeth.

Yn y sesiwn hon, trafodir effaith niweidiol twyllwybodaeth ar yr Almaen yn ystod y Drydedd Reich. Dangosir hefyd sut mae sgiliau’r hanesydd wrth feddwl yn feirniadol, trwy gwirio ffeithiau a dadansoddi yn ganolog i wrthsefyll twyllwybodaeth yn y dyfodol.

Cyflwyniad i'r Ysgol Fusnes

Busnes: Cyflwyniad i Ysgol Fusnes Aberystwyth a Chwis Rhyngweithiol

Mae’r sesiwn anffurfiol yma wedi ei drefnu er mwyn i ddisgyblion ysgolion uwchradd gwrdd â staff Ysgol Fusnes Aberystwyth ac i glywed Dr Rhianedd Jewell yn sôn am y radd gyd-anrhydedd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a’r Ysgol Fusnes (Cymraeg y Gweithle Proffesiynol gyda Busnes a Rheolaeth neu Chyfrifeg a Chyllid).

Bydd yna gwis rhyngweithiol gyda gwobrau i’w hennill!