Llais y Myfyrwyr - Cyfres o Weminarau

Yn ein cyfres newydd o weminarau - Llais y Myfyrwyr - rydym yn cynnig 2 ddigwyddiad wythnosol rhyngweithiol 45 munud.

Rhoddir pwyslais ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ynghyd ag ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth.

Byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer y dyfodol.

Gweminarau Blaenorol

Llais y Myfyrwyr – Llety a Lleoliad

Bu'r weminar yma’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Yr amrywiaeth o opsiynau llety sydd ar gael.
  • Costau byw.
  • Profiadau myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol.
  • Ystyried costau byw Aberystwyth o gymharu â lleoliadau dinasoedd mawr.
  • Harddwch naturiol Aber a thu hwnt. 
  • Pwysleisio’r ffaith bod y dref yn un cosmopolitaidd a chyfeillgar gyda nifer o aelodau staff y Brifysgol a’r myfyrwyr yn dod o dros 100 o wledydd.
  • Weithgareddau i wneud y tu mewn a thu allan i Aberystwyth.

Llais y Myfyrwyr – Chwaraeon a Chymdeithasau

Bu'r weminar hon yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Ysgoloriaethau Chwaraeon: Esbonio’r gwahanol fathau o Ysgoloriaethau Chwaraeon sydd ar gael.
  • Ganolfan a’r Cyfleusterau Chwaraeon: Aelodaeth Blatinwm Am Ddim i’r Gampfa ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol.
  • Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau: Cyflwyniad i’r gwahanol glybiau a chymdeithasau sydd ar gael.
  • Crybwyll yr ystod eang o gymdeithasau sydd ar gael e.e; cymdeithasau academaidd, cymdeithasau sy’n seiliedig ar sgiliau ayyb.

Llais y Myfyrwyr - UMCA

Bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw bod yn aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA).

Byddwch yn clywed gan fyfyrwyr 1af, 2il a 3edd flwyddyn a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr a diddorol i chi ar fywyd fel myfyriwr sy'n siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.