Cefnogaeth Bagloriaeth Cymru

Dewch i edrych ar y dudalen ganlynol wedi'i anelu at fyfyrwyr sydd yn astudio'r Fagloriaeth Cymru.

Manteisiwch ar ein cwrs ar-lein am ddim sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Prosiect Unigol Bagloriaeth Cymru. Fodd bynnag, bydd y cwrs “Sut i Lwyddo yn dy Fagloriaeth: Hanfodion y Prosiect Unigol” yn ganllaw da i bob myfyriwr ôl-16 wrth iddynt baratoi i gwblhau'r prosiect WBQ, prosiect EPQ neu hyd yn oed traethawd / traethawd hir yn null prifysgol.

 

Cwrs Ar-Lein

Cwrs Ar-lein Agored : Sut i lwyddo ym Mhrosiect Unigol Bagloriaeth Cymru

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cefnogaeth ymarferol i ddisgyblion, a bydd yn cymryd pythefnos i'w gwblhau (tua tair awr o astudio yr wythnos). Mae'n hollol rhad ac am ddim ac yn cael ei gynnig ar FutureLearn.

Bydd cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer ymchwil a thraethodau yn null prifysgol hyd yn oed os ydynt wedi cwblhau eu Prosiectau Unigol yn y Fagloriaeth a bydd yn fodd iddynt achub y blaen o safbwynt eu hastudio.

Ar wahân i wybod am yr hyn y mae'r aseswyr yn chwilio amdano, byddwch yn datblygu nifer o sgiliau trosglwyddadwy ychwanegol, megis rheoli amser ac ymchwilio’n effeithiol, fydd o gymorth yn eich prosiectau.

I grynhoi, byddwch chi'n mabwysiadu y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau unrhyw brosiect.

Cwrs Ar-lein Agored : Sut i lwyddo ym Mhrosiect Unigol Bagloriaeth Cymru: https://www.futurelearn.com/courses/bagloriaethcymru

Adnoddau i lawrlwytho: 

Cyfnod / Dyddiadur Ymchwil Prosiect Unigol Bagloriaeth Cymru

Weminarau Blaenorol

Rhan 1 - Cyflwyno’r Prosiect Unigol: Dewis Cwestiwn Ymchwil

Prifysgol Aberystwyth: Bydd gweithdy’r Brifysgol yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr i ofyn y cwestiynau cywir yn eu prosiectau. Bydd yn cynnwys edrych ar wahanol deitlau ar gyfer pynciau dewis gwahanol a bydd y gweithdy yn annog myfyrwyr i feddwl am y sialensiau ynghlwm a dewis cwestiynau ymchwil. Bydd hyn yn cael ei wneud wrth ddefnyddio esiamplau o ymchwilwyr academaidd blaenllaw’r byd, yn egluro’r manteision o’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i ymchwilio.

Rhan 2 - Cyflwyno’r Prosiect Unigol: Ffynonellau Gwybodaeth Dibynadwy

Senedd Cymru: Bydd sesiwn Tîm Addysg y Senedd yn canolbwyntio’n bennaf ar sut i ddewis pwnc addas ar gyfer y Prosiect Unigol a sut i gael gafael ar ffynonellau dibynadwy o gwmpas y pwnc. Bu'r sesiwn yn edrych yn fras ar:

  • Sut i ddewis testun addas o gyd-destun Cymreig a’r pynciau sydd wedi eu datganoli.
  • Pa ffynonellau gwybodaeth sy’n ddibynadwy, a sut i werthuso dibynadwyedd ffynonellau yn feirniadol.
  • Ble i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy o safbwyntiau Cymreig a Phrydeinig.

Rhan 3 - Cyflwyno’r Prosiect Unigol: Pwysigrwydd Cyfeirio'n Gywir

Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell Genedlaethol yn ffocysu ar bwysigrwydd cyfeirio a chydnabod gwaith eraill, un o’r disgyblaethau sy’n hanfodol ar gyfer llunio Prosiect Unigol cynhwysfawr. Bydd y sesiwn yn edrych yn benodol ar ddefnyddio Dull Cyfeirio Harvard, a bydd yn cynnwys enghreifftiau o sut i gywain gwybodaeth o amryw ffynonellau, a’i gyflwyno’n gywir yn y Llyfryddiaeth neu Restr gyfeirio. Rhoddir cyfle yn ystod y webinar i ymarfer cyfeirio, ac hefyd amser i glywed am lyfryn a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol i gynorthwyo myfyrwyr gyda’r weithdrefn.