'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres newydd hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Gweminarau Blaenorol

Sesiwn Blasu: Cymraeg - “Preseli”: Cerdd Gadarn Waldo Williams

Cyflwniad gan Yr Athro Mererid Hopwood.

Mae Waldo Williams yn cael ei gyfrif drwy Gymru a thu hwnt fel bardd o bwys. Efallai dy fod eisoes wedi clywed am rai o’i gerddi fel ‘Y Tangnefeddwyr’ a ‘Cofio’. Ond a oeddet ti’n gwybod am ei hanes fel ymgyrchydd dros heddwch?

Drwy edrych yn arbennig ar y gerdd ‘Preseli’, bydd y sesiwn hon yn gyfle i ni guro’r Clo Mawr ac ymweld ag ardal fynyddig gogledd Sir Benfro, a hynny heb symud cam o’n hystafelloedd adref. Bydd hefyd yn gyfle i ddysgu am gyfraniad y gerdd yn yr ymgyrch i ddiogelu ffordd o fyw pobl yr ardal, a hynny dros 75 o flynyddoedd yn ôl.

Ar ddiwedd y sesiwn, byddwn wedi trafod y gerdd ei hun, ac wedi ystyried sut y mae gwaith Waldo Williams yn ceisio ein hysbrydoli i drefnu cymdeithas sydd yn fwy cyfartal a theg.

Sesiwn Blasu: Ffiseg - Astroffiseg gyda Liam Edwards, Myfyriwr PhD

Yn y sesiwn hon, bu ffisegydd o Brifysgol Aberystwyth yn trafod ei siwrne o TGAU i’r brifysgol ac yn rhoi cip olwg o sut mae bywyd fel ymchwilwr ffiseg, a sut mae’r gwaith a ddysgodd yn TGAU/Lefel-A yn bwysig i’w ymchwil.

Mae gan archwilio’r gofod, yn lleol yn ein system solar ac ymhellach i ffwrdd, gysylltiadau â themâu Lefel-A cyffredin. Mi fydd y ddarlith hon yn dangos yn glir sut mae’r pynciau sydd yn cael ei ddysgu yn ystod TGAU/Lefel-A yn ffitio mewn i’r gwaith ymchwil blaengar sydd yn cael ei wneud yn y brifysgol.

Yn ogystal â'r gweminar, cawsom gyfle hefyd i gynnal sesiwn cwestiwn ac ateb ychwanegol gyda Liam Edwards, myfyriwr PhD Astroffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy fformat sgwrs anffurfiol, bydd y sesiwn hon yn dangos i chi sut beth yw dysgu Astroffiseg a'r manteision a heriau o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sesiwn Blasu: Mathemateg - Algebra a Chalcwlws

Rhagflas o’r modiwl Algebra, sy’n eich cyflwyno i gysyniadau a dulliau sy’n treiddio trwy fathemateg a’r gwyddorau.  Trafodwn sylfeini mathemateg ei hun (beth yw rhif a sut gallwn eu cynrychioli?) ynghŷd â chyffwrdd ar resymeg a dulliau profi, polynomialau, rhifau cymhlyg a’u pwysigrwydd i fathemateg a’r byd o’n cwmpas.

Byddwn hefyd yn rhoi rhagflas o Galcwlws, sef yr offeryn mathemategol ar gyfer delio gyda chyfraddau newid (differu) a chroniad (integru). Cawn edrych ar hanes y pwnc a’r helynt dros pwy oedd dyfeisiwr calcwlws, cyn ystyried pam ei fod yn declyn mor bwysig mewn mathemateg a gwyddoniaeth yn ehangach. Byddwn yn ystyried hefyd sut y caiff ei ddefnyddio yn y byd o’n cwmpas, er enghraifft ar gyfer optimeiddio.

Sesiwn Blasu: Hanes - ‘Cerddi fel arfau yn y frwydr’ - Cerddoriaeth yn y Mudiad Hawliau Sifil

Mae’r sesiwn hon yn ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd gan y mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn y 1960au a’r 1970au.

Mae’n rhoi sylw i’r ffyrdd y defnyddiwyd caneuon yn y gorymdeithiau a’r ralïau protest ond hefyd y caneuon poblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol a adlewyrchai amcanion ac egwyddorion y mudiad.

Bydd y sesiwn yn dod i ben drwy ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar yn ystod y mudiad Bywydau Du o Bwys.

Sesiwn Blasu: Hanes - ‘Cerddi fel arfau yn y frwydr’ - Cerddoriaeth yn y Mudiad Hawliau Sifil

Mae’r sesiwn hon yn ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd gan y mudiad hawliau sifil Affro-Americanaidd yn y 1960au a’r 1970au.

Mae’n rhoi sylw i’r ffyrdd y defnyddiwyd caneuon yn y gorymdeithiau a’r ralïau protest ond hefyd y caneuon poblogaidd a gynhyrchwyd gan gwmnïau masnachol a adlewyrchai amcanion ac egwyddorion y mudiad.

Bydd y sesiwn yn dod i ben drwy ystyried y caneuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar yn ystod y mudiad Bywydau Du o Bwys.