Cofrestru i Uwchraddedigion

Tasgau Cofrestru

Bydd dyddiad cychwyn eich cynllun yn pennu pa gyfnod cofrestru sy'n berthnasol i chi. Dewiswch yr opsiwn perthnasol isod i weld eich tasgau a'ch canllawiau cofrestru.

Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig

Cofrestru ar Adegau Eraill o’r Flwyddyn

Dylai fyfyrwyr sydd yn dechrau yn ystod unrhyw amser heblaw am fis Medi gysylltu â'u hadran yn uniongyrchol i gael cyngor ar fodiwlau.

Bydd disgwyl i’r adran nodi’r modiwlau a gymeradwywyd ar eich Cofnod Myfyriwr. Yna bydd angen i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Dylai’r Dasg Cofrestru Ar-lein, fel arfer, fod ar gael i chi o leiaf 5 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn a rhaid ei gwblhau o fewn 5 diwrnod o'ch dyddiad cychwyn swyddogol. Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.

Gwneud Newidiadau a Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwneud Newidiadau a Gofyn am Ddogfennaeth

Sut i gael gwybodaeth am Gynlluniau Gradd a Modiwlau

Gallwch weld manylion am gynlluniau gradd, sy'n rhestru modiwlau craidd a modiwlau dewis a manylion yr holl fodiwlau a gynigir gan adrannau ar ddwy gronfa-ddata. Mae'r ddwy gronfa-ddata yn ffynonellau cywir sy'n cymwys wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau a modiwlau a ddysgir y sesiwn nesaf, a bydd y manylion yn y gronfa-ddata yn cael eu diweddaru'n rheolaidd.

Yr adrannau eu hunain sy'n creu ac yn diweddaru'r wybodaeth am y cynlluniau a'r modiwlau, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau am y wybodaeth cysylltwch â'r adran yn y lle cyntaf.

Gwneud Newidiadau a Gwybodaeth Ddefnyddiol