Israddedigion Newydd
.jpg)
Gwarant o Lety’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Israddedig y Flwyddyn Gyntaf!
Bydd ceisiadau ar gyfer llety’r Brifysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23 yn agor am 9.00yb Ddydd Mercher, Ebrill 6ed 2022!
Os ydych wedi nodi Aberystwyth fel eich dewis cadarn neu eich dewis yswiriant a bod gennych gynnig diamod neu amodol i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, gallwch ddechrau gwneud cais drwy ddilyn y camau hawdd canlynol:
Dewisiadau Llety
Rydyn ni'n cynnig llety o safon uchel, wedi'i leoli'n gyfleus yn Aberystwyth. O breswylfeydd arlwyo 'traddodiadol' ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn unig i lety en-suite neu safonol hunan-arlwyo, gallwn ddarparu opsiwn sy'n addas ar gyfer eich gofynion. Mae gennym llety arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg a fyddai'n hoffi byw mewn amgylchedd lle siaredir Cymraeg.
I ddarganfod pa lety sydd ar gael i chi, cymharwch ein preswylfeydd.
Pam byw gyda ni?
- Dim ond £100 o Ffi Derbyn i'w dalu.
- Yr holl filiau ynni yn gynwysedig.
- Rhyngrwyd gwifrediga di-wifr cyflymder uchel yn gynwysedig.
- AELODAETH blatinwm rad ac am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon er budd eich iechyd a'ch lles.
- Yswiriant yn gynwysedig.
- Help a chymorth 24/7 - Gan gynnwys derbynfa wedi'i staffio.
- Canolfannau dysgu 24/7 o fewn cyrraedd yn hawdd i'ch llety.
- Adnoddau golchi dillad ar y safle.
- Lleoliad cyfleus yn agos i'r adnoddau academaidd ac adnoddau'r campws, yn ogystal â chanol y dref.
- Cynllyuniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety.
- Cytundebau Trwydded Sengl - nid cyd ac unigol (felly nid ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent pobl eraill) ac nid oes angen 'Gwarantwyr'.
- Dewis i fyw gyda'ch ffrindiau mewn fflatiau/tau sydd â rhwng 2 a 10 o ystafelloedd gwely.
- Amrywiaeth o hydoedd trwyddedau a llety haf y Brifysgol ar gael.
Pryd y gallaf wneud cais?
*Unwaith y byddwch wedi dewis Aberystwyth fel eich dewis Cadarn neu ddewis Wrth Gefn, o ganol Mawrth ymlaen bydd y Swyddfa Llety yn cysylltu â chi drwy e-bost a phost yn eich gwahodd i wneud cais am lety. Caiff llety ei warantu yn un o'r neuaddau sy'n eiddo i'r Brifysgol neu a reolir gan y Brifysgol os gwnewch gais amdano cyn 1af Awst yn y flwyddyn mynediad ac yn ymateb i'ch cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig Llety.
Gosodir telerau ac amodau - ewch i'n Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.
Clirio ac Addasiad
Dewisiadau Llety Arall
Os nad ydych chi eisiau byw yn Llety’r Brifysgol, efallai y byddai'n well gennych fyw mewn Llety yn y Sector Preifat.
Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch pob agwedd ar dai, boed hynny yn llety'r brifysgol neu'r sector preifat.