Dysgu, gloywi a mentora i staff

Mae cynnig cyfleoedd ac anogaeth i staff ddysgu a gloywi’r Gymraeg yn rhan bwysig o genhadaeth y Ganolfan. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod staff yn cael siawns i ddefnyddio’r Gymraeg, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl. Ceir amserlen lawn a gwybodaeth am y cyrsiau Cymraeg sydd ar gael yn y gymuned ar wefan Dysgu Cymraeg.

Rydym hefyd yn trefnu sesiynau blasu byr yn achlysurol sydd wedi eu teilwra i anghenion adrannau penodol neu i garfannau penodol o staff. Cysylltwch â’r Ganolfan (canolfangymraeg@aber.ac.uk) os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.

Cyrsiau Cymraeg Gwaith

Os ydych yn aelod o staff yn y Brifysgol ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y gweithle, gellir cofrestru ar gwrs Cymraeg Gwaith fel rhan o gynllun sydd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd y cyrsiau hyn ar amrywiaeth o lefelau o ddechreuwyr hyd lefel Uwch yn cael eu cynnal ar Zoom gyda chyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb ar y campws ar adegau. Bydd cyrsiau hunan-astudio ar-lein hefyd ar lefel Mynediad a Sylfaen. Noder y bydd angen i chi gael caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru.

Diddordeb?

Os oes diddordeb gennych gofrestru neu am drafod cyrsiau posib arall cysylltwch ag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk.

Sesiynau Sgwrsio Cymraeg

Os ydych chi yn aelod staff, ac yn ddysgwr Cymraeg gyda diddordeb mewn mynychu Sesiwn Sgwrsio wyneb yn wyneb i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg, mae’r canlynol ar gael i chi am ddim: 

Lefel Lleoliad Amser Dyddiad

Pob lefel

Bar top, Canolfan y Celfyddydau

1–1.30 pm

Dydd Iau 24 Hydref 2024

Dydd Iau 7  Tachwedd 2024

Dydd Iau 21 Tachwedd 2024

Dydd Iau 5 Rhagfyr 2024

Dydd Iau 19 Rhagfyr 2024

Pob lefel

Y Neuadd Fwyd

12.30-1.30 pm

Dydd Mercher 16 Hydref 2024

Dydd Mercher 6 Tachwedd 2024

Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024

Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024

Dewch draw am sgwrs!

Am fwy o fanylion cysylltwch gyda:  canolfangymraeg@aber.ac.uk

Cynllun Mentora i Ddysgwyr

Mae’r Ganolfan yn cydweithio â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd i ddarparu’r cynllun hwn ac yn trefnu bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn gweithredu fel mentor i ddysgwyr er mwyn rhoi’r cyfle iddynt siarad Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol ac anfygythiol.

Canllawiau Cynllun Mentora (Dysgwyr)

Canllawiau Cynllun Mentora (Mentoriaid)

Cysylltwch â’r Ganolfan ar canolfangymraeg@aber.ac.uk os ydych yn ddysgwr sydd â diddordeb yn y cynllun neu yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n awyddus i fod yn fentor.

Ffioedd Dysgu Cymraeg (Staff)

Mae gan y Ganolfan drefn o dalu am ffioedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg.

Rhaid llenwi Ffurflen Hawlio Ffioedd Dysgu Cymraeg a'i hanfon at Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg er mwyn i'r ffioedd gael eu talu.

NODYN PWYSIG: Bydd disgwyl i chi ad-dalu'r ffioedd i'r Brifysgol os nad ydych yn cwblhau'r cwrs.
(Mynychu'r 3 thymor gan gynnwys o leiaf un sesiwn o fewn 4 wythnos olaf y cwrs)