Adeilad amgylcheddol ardderchog

Adeilad IBERS ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Credit: Keith Morris

Adeilad IBERS ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Credit: Keith Morris

01 Hydref 2013

Dyfarnwyd tystysgrif ‘BREEAM Excellent’ i adeilad arobryn yr Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Mae hyn yn cadarnhau bod yr adeilad yn cyflawni safon uchel o berfformiad amgylcheddol.

Mae BREEAM (Building Research Establishment Environmental Assessment Method) yn cael ei disgrifio fel “system raddio amgylcheddol fwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer adeiladau”.

Mae BREEAM yn gosod y safon ar gyfer arfer gorau mewn dylunio, adeiladu a gweithredu adeiladau mewn modd cynaliadwy drwy annog dylunwyr, cleientiaid ac eraill i feddwl am ddylunio adeiladau sy’n isel eu defnyddio o garbon a’u heffaith, gan leihau'r galw am ynni a grëwyd gan adeilad cyn ystyried effeithlonrwydd ynni a thechnolegau carbon isel.

Dywedodd yr Athro April Mc Mahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Mae cynaliadwyedd yn greiddiol i’n Strategaeth Ystadau newydd ac fel Prifysgol sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â rhaglen o ddatblygu, rydym yn ofalus i sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol wrth galon ein holl brosiectau cyfalaf. Rydym yn falch iawn felly o dderbyn y gydnabyddiaeth hon bod adeilad newydd IBERS yn cyrraedd y safonau uchaf o ran perfformiad amgylcheddol, ac yn gosod y safon ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau adeiladu yma yn y dyfodol."

Derbyniodd y prosiect adeiladu ar gampws Penglais gyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC), a chafodd ei agor yn swyddogol ym mis Mai 2012 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, Leighton Andrews AC.

Mae'r adeilad yn gartref i Labordy’r Ganolfan Wybodeg a Bioleg Gyfrifiadurol, ac mae'n cynnwys ystafelloedd seminar, gofod swyddfa a'r caffi poblogaidd IBERbach.

Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS; “Mae'r adeilad yn darparu amgylchedd gwaith gwych ac mae ei ddyluniad, y ffordd y cafodd ei adeiladu a sut y mae’n cael ei redeg yn cydredeg â gwerthoedd craidd IBERS - datblygiad amgylcheddol cynaliadwy, a mynd i'r afael â'r heriau mawr sy'n wynebu cymdeithas heddiw gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a diogelwch cyflenwad dŵr.”

Yn ystod y cyfnod dylunio yn 2011, dyfarnwyd Gwobr BREEAM i’r adeilad am iddo sgorio’r nifer mwyaf o bwyntiau yn y Sector Addysg Uwch ac mae'r dystysgrif derfynol yn cadw sgôr ‘Ardderchog’ yr adeilad.
Cafodd yr adeilad ei ddylunio i wneud y mwyaf o olau’r haul ac awyru naturiol, ac mae'n cael ei wresogi gan system gwres o'r ddaear 4000m2 sydd wedi ei gosod o dan gae Pantycelyn.

Mae nodweddion arbed ynni cynaliadwy eraill yn cynnwys inswleiddio wedi'i wneud o wlân defaid, to sydd wedi ei blannu â phlanhigion a system cynaeafu dŵr glaw sy'n darparu'r holl ddŵr sydd ei angen ar gyfer fflysio’r toiledau.