Ysgoloriaeth Ymchwil Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cloriannu’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a strategaethau datblygu economaidd cyfoes

Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth PhD a gaiff ei goruchwylio ar y cyd rhwng Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth i gychwyn 21 Medi 2020. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cwblhau gradd israddedig (isafswm dosbarth 2:1) ynghyd â gradd meistr cyn dechrau ar y ddoethuriaeth.  Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd a chynhaliaeth dros gyfnod o 3 blynedd.

Y prosiect

Er bod consensws eang ynghylch pa mor ganolog yw ffactorau economaidd i ragolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, mae diffyg dealltwriaeth ynghylch sut mae newidiadau strwythurol yn yr economi ac mewn patrymau gwaith yn effeithio, naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, ar hyfywedd ieithoedd lleiafrifol penodol. Bwriad y prosiect doethuriaethol hwn fydd cyfrannu at lenwi’r bwlch pwysig yma trwy fynd ati mewn modd systematig i ddadansoddi natur y berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a modelau datblygu economaidd cyfoes. Gwneir hynny ar sail astudiaeth fanwl o’r llenyddiaeth berthnasol mewn meysydd megis  cymdeithaseg iaith a datblygu economaidd rhanbarthol, a hefyd  trwy gymharu achos Cymru gyda dau achos Ewropeaidd arall, er enghraifft Gwlad y Basg ac Iwerddon. Bydd y prosiect yn ymdrin â phwnc sydd wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru fel mater o flaenoriaeth fel rhan o weithredu’r strategaeth iaith genedlaethol, Cymraeg 2050.

Cyllidir yr ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a cheir manylion am weithgaredd y Coleg ar www.colegcymraeg.ac.uk.  

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yw 12.00 (canol dydd) 31 Gorffennaf 2020.

Yr adrannau academaidd a'r tim goruchwylio

Yr adrannau academaidd

Dynododd y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) mwyaf diweddar yn 2014  bod ansawdd gwaith ymchwil y ddwy adran sy’n gysylltiedig â’r cais hwn o safon rhyngwladol. Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn meddu ar enw da rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil academaidd. Fe’i cydnabyddir fel yr adran orau yng Nghymru ym meysydd gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol ac yn un o’r deg adran uchaf ar draws y Deyrnas Unedig (ACM 2017; FfRhY 2014). Dynododd FfRhY 2014 bod 44% o’r ymchwil yn yr adran o safon “arwain yn fyd-eang", a 32% o safon "rhagoriaeth rhyngwladol". Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn adran ymchwil weithgar sy’n meddu ar staff ar staff academaidd sy’n cyfrannu i gyhoeddiadau academaidd blaenallw ar draws meysydd rheolaeth, marchnata, cyllid ac economeg. Mae’n gartref i hefyd i’r Ganolfan ar gyfer Mentergarwch Lleol a Rhanbarthol (CLaRE). Dyfarnodd FfRhY 2014 bod 95% o ymchwil yr adran o safon “rhagoriaeth rhyngwladol. Ymhellach , bu ymrwymiad sylweddol ers blynyddoedd gan y ddwy adran, ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth yn fwy cyffredinol, i hybu a datblygu y ddarpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y gwyddorau cymdeithasol ac mae’r ysgoloriaeth ymchwil hon yn gam pellach yn broses honno.  

Y tîm goruchwylio

Bydd deiliad yr ysgoloriaeth yn cael ei oruchwylio gan Dr Huw Lewis (hhl@aber.ac.uk), Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Dr Wyn Morris (dmm@aber.ac.uk), Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Bydd y deiliad yr ysgoloriaeth yn dilyn rhaglen lawn o hyfforddiant ymchwil yn ystod y ddoethuriaeth yn unol ag arfer y Brifysgol.

Sut i ymgeisio?

Dylid cyflwyno ffurflen gais ar gyfer astudiaethau doethuriaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth erbyn y dyddiad cau: 12.00 (canol dydd) 31 Gorffennaf 2020.

Mae manylion pellach ynghylch sut i gyflwyno’r cais, naill ai ar-lein neu oddi ar-lein, ar gael yma: https://www.aber.ac.uk/cy/postgrad/apply/

Ni fydd modd ystyried ceisiadau anghyflawn neu geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau.

Dylai’r cais gynnwys y dogfennau canlynol:

1. Llythyr cais: Dylai’r llythyr nodi’n glir teitl yr ysgoloriaeth yr ymgeisir amdani ('Cloriannu’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a strategaethau datblygu economaidd cyfoes'). Dylai hefyd amlinellu eich cymhellion dros gyflwyno cais i astudio ar gyfer gradd PhD a’r rhesymau pam eich bod yn ymgeisydd addas ar gyfer yr ysgoloriaeth dan sylw. Ni ddylai’r llythyr fod yn hirach na dwy dudalen.

2. Dau lythyr geirda: dylai ymgeiswyr drefnu bod dau ganolwr yn paratoi llythyron geirda y gellir eu cynnwys gyda’r cais.

3. CV: ni ddylai fod yn hirach na dwy dudalen.

4. Cynnig ymchwil rhwng 1,000 a 1,500 o eiriau: dylai’r cynnig ymchwil adeiladu ar yr amlinelliad o gyd-destun ac amcanion y proseict a geir isod (Canllaw ar gyfer llunio'r cynnig ymchwil). Disgwylir i’r cynnig ymchwil drafod sut fyddech yn mynd ati i ddatblygu eich prosiect ymchwil eich hun ar sail y syniadau rhagarweiniol a drafodir yn yr amlinelliad. Dylai’r cynnig roi sylw i faterion megis:

  • Eich dehongliad o deitl, amcanion ac arwyddocâd y prosiect ymchwil;
  • Eich dehongliad o'r cwestiynau ymchwil a sut fyddech am fynd ati i’w hateb;
  • Trosolwg gyffredinol o’r llenyddiaeth academaidd berthnasol;
  • Eich syniadau ynghylch sut gellid cynllunio’r y prosiect a’r math o ddulliau ymchwil y gellid eu defnyddio fel rhan o’r astudiaeth;
  • Disgrifiad o ganlyniadau posibl y prosiect boed o ran dealltwriaeth gwybodaeth academaidd neu o ran polisi ac arfer ymarferol
  • Cyfeiriadau

 

Canllaw ar gyfer llunio'r cynnig ymchwil

Cloriannu’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a strategaethau datblygu economaidd cyfoes

Fel rhan o’ch cais, bydd disgwyl i chi gyflwyno cynnig ymchwil rhwng 1,000 a 1,500 o eiriau. Disgwylir i’r cynnig ymchwil drafod sut fyddech yn mynd ati i ddatblygu eich prosiect ymchwil ei hun ar sail y syniadau rhagarweiniol a drafodir yn yr amlinelliad. Dylai’r cynnig roi sylw i faterion megis:

  • Eich dehongliad o deitl, amcanion ac arwyddocâd y prosiect ymchwil;
  • Eich dehongliad o'r cwestiynau ymchwil a sut fyddech am fynd ati i’w hateb;
  • Trosolwg gyffredinol o’r llenyddiaeth academaidd berthnasol;
  • Eich syniadau ynghylch sut gellid cynllunio’r y prosiect a’r math o ddulliau ymchwil y gellid eu defnyddio fel rhan o’r astudiaeth;
  • Disgrifiad o ganlyniadau posibl y prosiect boed o ran dealltwriaeth gwybodaeth academaidd neu o ran polisi ac arfer ymarferol
  • Cyfeiriadau

Cyd-destun ymchwil: Mae globaleiddio economaidd wedi cael effaith sylweddol ar gymdeithasau gorllewinol. Bu symudiad oddi wrth economïau cenedlaethol unigol tuag at economi fyd-eang sy’n gynyddol gydgysylltiedig a chyd-ddibynnol, ac mae hyn wedi ysgogi newidiadau sylweddol ym mhatrymau gwaith pobl ac wedi cryfhau safle cyrff trawswladol, yn enwedig corfforaethau amlwladol. Wrth i’r newidiadau economaidd hyn ddigwydd, mae lladmerwyr ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi pwysleisio arwyddocâd y cysylltiad rhwng iaith ac economi yn gyson (Baker 2011; Grenoble and Whaley 2006; Sallabank 2011). Ac eto, mae diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch y gwahanol fathau o faterion economaidd sy’n medru dylanwadu ar ragolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, ac mae hyn yn atal gweithgarwch polisi yn y maes hwn.

Ar un llaw, bu sawl ymdrech gan ymchwilwyr academaidd ac ymarferwyr polisi yn ystod y blynyddoedd diwethaf i astudio i ba raddau y gall ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol ddylanwadu ar berfformiad economaidd (hynny yw, y cysylltiad iaith > economi). Yn y cyd-destun hwn, mae’r pwyslais yn tueddu i fod ar faterion fel a yw’r gallu i siarad iaith benodol yn dylanwadu ar ragolygon gwaith pobl a’u henillion posib, neu a yw defnyddio iaith benodol gan gwmnïau unigol neu mewn sectorau penodol yn dylanwadu ar eu perfformiad economaidd, er enghraifft o ran proffil marchnad neu drosiant blynyddol (e.e. Gazzola a Wickström, 2016, Aldashev a Danzer, 2016, Hogan-Brun, 2017).

Fodd bynnag, hyd yma, ni roddwyd yr un ystyriaeth i’r modd mae prosesau economaidd yn dylanwadu’n benodol ar hyfywedd iaith (hynny yw, y cysylltiad economi > iaith). Er enghraifft, cyfyngedig iawn yw’n dealltwriaeth o sut mae datblygiadau economaidd mewn ardal benodol, neu fentrau cyffredinol sy’n gysylltiedig â strategaethau datblygu economaidd rhanbarthol, yn effeithio ar iaith ranbarthol neu leiafrifol, naill ai o ran nifer y siaradwyr, eu dwysedd daearyddol, neu eu tuedd i ddefnyddio’r iaith. Yn ogystal, mae’n aneglur a yw cynlluniau a strategaethau llywodraethol i hybu datblygiad economaidd yn cydgysylltu â strategaethau swyddogol sy’n ceisio hybu ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol, nau i ba raddau y mae strategaethau datblygu economaidd yn rhoi unrhyw ystyriaeth i’w heffaith bosib (naill ai’n gadarnhaol neu’n negyddol) ar ymdrechion adfywio iaith.

Amcanion: Bydd y prosiect ymchwil hwn yn ymateb i’r bwlch uchod yn y llenyddiaeth academaidd a pholisi cyfredol trwy fynd ati mewn modd systematig i ddadansoddi’r berthynas rhwng ymdrechion adfywio iaith a gwahanol fodelau neu strategaethau datblygu economaidd.

Y bwriad fydd canolbwyntio ar y cwestiwn ymchwil canlynol: Pa fodelau datblygu economaidd sy’n cynnig y sail gorau ar gyfer ymdrechion cyfoes i adfywio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol? Trwy ymdrin yn fanwl â’r cwestiwn ymchwil hwn bydd y prosiect yn gwneud cyfraniad cysyniadol pwysig wrth fireinio ein dealltwriaeth o natur y gorgyffwrdd rhwng newidiadau economaidd a ffyniant cymunedau iaith. Bydd hefyd yn gwneud cyfraniad empiraidd pwysig trwy gasglu data ynghylch sut mae’r berthynas yma wedi datblygu yng Nghymru, ynghyd a dau achos Ewropeaidd arall.