Gwneud Cais

Gwyliwch y fideo uchod ac agorwch y tabiau isod i ddarganfod mwy am wneud cais am astudiaeth Uwchraddedig.

Gwybodaeth am Ddiogelu Data

Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais Ar-lein

Rhaglenni Amser Llawn, Rhan-amser a Dysgu o Bell

Dylid gwneud ceisiadau am astudiaethau ôl-raddedig ar-lein drwy'r Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig.

I wneud cais, ewch i dudalennau'r Cwrs yn gyntaf a dod o hyd i fanylion y cwrs yr hoffech wneud cais amdano.  Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r Dudalen Cwrs o'ch dewis, dewiswch y botwm "Ymgeisio Nawr" i ddechrau eich cais.

Bydd y Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig yn gofyn i chi roi eich manylion personol i ni, cadarnhau eich dewis(au) cwrs a lanlwytho dogfennau i gefnogi eich cais.  Sicrhewch eich bod wedi cadw dogfennau ategol ar ffurf PDF ac yn barod i'w lanlwytho i'ch cais ar-lein.

Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs penodol yr hoffech wneud cais amdano, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig (derbyn-uwchraddedig@aber.ac.uk) i gael cyngor pellach.

Cyrsiau TAR

Sylwer y dylid gwneud pob cais am gyrsiau Hyfforddiant Athrawon TAR drwy UCAS.

Cyrsiau Byr mewn Astudiaethau Gwybodaeth

Sylwch y dylid gwneud ceisiadau am Gyrsiau Byr mewn Astudiaethau Gwybodaeth trwy Ddysgu o Bell at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyflwyno Ffurflen Gais Cwrs Byr wedi'i chwblhau. Ni ddylai ymgeiswyr am Gyrsiau Byr mewn Astudiaethau Gwybodaeth wneud cais ar-lein trwy'r Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn https://www.aber.ac.uk/cy/dis/courses/short-courses/#sut-i-wneud-cais

Cyrsiau heb eu Rhestru ar Dudalennau Cwrs

Sylwch fod sawl cwrs nad ydynt efallai wedi'u rhestru ar ein Tudalennau Cyrsiau ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, gallwch barhau i ddefnyddio'r Porth Ceisiadau Derbyn Ôl-raddedig i wneud cais am y rhaglenni canlynol.   Defnyddiwch y dolenni canlynol i wneud cais am y cyrsiau hyn.

Enw'r Cwrs

Cod y Cwrs

Linc i'r Cais

Doethuriaeth Broffesiynol (DProf)

N1221

https://apply.aber.ac.uk/f?p=130:1:::::p1_course_code,p1_prog_type,p1_language:N1221,PG,cy  

 

 

Gwneud cais am cyrsiau hyforddi Athrawon (TAR)

I wneud cais am gyrsiau hyforddi Athrawon sef TAR, bydd angen i bob ymgeiswyr cwblhau y cais trwy system UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth. 

Llawlyfr Ansawdd Academaidd

Mae'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn rhoi manylion y polisïau, y rheoliadau a'r gweithdrefnau sy'n cefnogi'r gwaith o reoli safonau ac ansawdd academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

Ar ôl cyflwyno eich cais

Wrth gyflwyno'ch cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ei fod wedi dod i law.  Yna bydd y Brifysgol yn adolygu eich cais ac unrhyw ddogfennau ategol a gyflwynir, ac yn penderfynu a yw mewn sefyllfa i gynnig lle i chi astudio ai peidio.