Y 13eg Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol
Cynhaliwyd y gynhadledd rhwng dydd Mawrth 8 Gorffennaf a dydd Iau 10 Gorffennaf.
Roedd dydd Mawrth 8 Gorffennaf ar-lein, gyda sesiynau wyneb yn wyneb ddydd Mercher 9 a dydd Iau 10 Gorffennaf.
Roedd nifer o siaradwyr allanol yn y gynhadledd eleni.
Prif Siaradwr:
Roedd Dr Neil Currant yn rhoi’r prif gyflwyniad ar Asesu Tosturiol. Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy dosbarth meistr ac roedd modd i gydweithwyr gymhwyso’r egwyddorion hyn i’w sefyllfaoedd eu hunain. Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.
Siaradwyr Gwadd:
Roedd tri siaradwr allanol arall wedi’u trefnu. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod:
Yr Athro Lee Elliot Major OBE FAcSS a Beth Brooks
Higher Education Partners (HEP)
Yr Athro John Traxler
Yn ogystal â hynny, roedd sesiynau gwych gan gydweithwyr a oedd yn dangos yr arferion addysgu arloesol sy’n digwydd yn y Brifysgol.
Roedd y pynciau’n cynnwys:
- Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol
- Dysgu ar-lein ac adeiladu cymuned
- Panel o fyfyrwyr yn trafod eu profiadau dysgu
- Gwaith allanol gydag ysgolion
- Dylunio cwricwlwm cynhwysol
- Diweddariad grŵp Cymru Gyfan
- Gweithgareddau addysgu arloesol a diddorol
- Dathliad TUAAU a AUMA
Roedd y rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi’r blaenoriaethau a’r mentrau dysgu ac addysgu ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod.