Beth yw ABERymlaen?
Mae ABERymlaen yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu yn y gweithle i fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth. Mae'r holl weithgareddau wedi'u cynllunio i adeiladu arbenigedd ar lefel graddedig a sgiliau rheoli gyrfa.
Nôd ABERymlaen yn benodol yw cefnogi'r rheini sydd â diffyg hyder, heb brofiad gwaith ymarferol, dim ffocws gyrfa a / neu'n cael trafferth cydnabod, a mynegi i gyflogwyr, eu sgiliau a'u cyflogadwyedd.
Profiad gwaith cyflogedig yw Sylfaen y ddarpariaeth ABERymlaen. Mae gan leoliadau'r nodweddion allweddol canlynol:
- Cynhelir yn bennaf o fewn adrannau Prifysgol Aberystwyth, ond mae cyllid hefyd ar gael i gefnogi lleoliadau gyda chyflogwyr allanol.
- Opsiynau ar gyfer lleoliadau byr a hirach, sy'n addas ar gyfer anghenion y rhai sy'n dymuno meithrin eu hyder neu gael cipolwg ar y gweithle, yn ogystal â'r rhai sy'n teimlo'n barod am fwy o gyfrifoldebau ehangach.
- Recriwtio parhaus – dyddiadau cychwyn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
- Gweithio hyblyg – opsiynau rhan-amser a llawn amser. Gellir gwneud lleoliadau hefyd drwy weithio o bell, o fewn y gweithfan, neu gyfuniad o'r ddau, yn dibynnu ar natur a lleoliad y gwaith.
Cymhwysedd: Mae lleoliadau ABERymlaen ar agor ar hyn o bryd i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, a'r rhai a raddiodd yn 2020 a 2021. Sylwer, dim ond y rhai sy'n gallu dangos tystiolaeth o'u Hawl i Weithio yn y DG all wneud lleoliadau â thâl. Ar gyfer lleoliadau a gynhelir gan Brifysgol Aberystwyth, rhaid i'r hyfforddai hefyd fod yn byw yn y DG, hyd yn oed os yw’r lleoliad yn cael ei gynnig o bell.
Diddordeb? Os ydych yn fyfyriwr yn Aber, neu'n raddedigion Aber o 2020 neu 2021, ac hoffech wybod mwy am y Cynllun, llenwch ein ffurflen fer ar-lein.
Gwybodaeth i staff Prifysgol Aberystwyth a chyflogwyr allanol.png)
A allech gynnig lleoliad, gyda'r cyflog yn cael ei ariannu gan ABERymlaen? Neu a hoffech fwy o wybodaeth am y Cynllun a’i drefniant? Cwblhewch yr ymholiad byr ar-lein hwn, a down i gysylltiad â chi.