Gofid

Bydd pawb ohonom ni'n gofidio weithiau yn ystod ein bywydau a gall hyn ein helpu i ddatrys problemau. Fodd bynnag, os yw treulio amser yn gofidio yn eich atal chi rhag gwneud yr hyn yr ydych chi'n fwynhau ei wneud, neu os ydych chi'n gofidio ynglŷn â'r gofid, rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gymorth er mwyn cadw eich gofid dan reolaeth.

Cymuned a chymorth ar-lein - Togetherall

Sgwrs â'r gymuned yn ddienw, asesiad a modiwlau hyfforddiant er mwyn eich helpu i ymdopi - ar gael am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. https://togetherall.com/

GET SELF HELP ar-lein

Crëwch 'fannau heb ofid' gyda gwybodaeth a thaflenni gwaith defnyddiol https://www.getselfhelp.co.uk/worryzones.htm

Gofidio am arholiadau - Student Minds 

Gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn ymdopi â'r straen a'r pwysau y gallech chi fod yn eu teimlo https://www.studentminds.org.uk/examstress.html

Llinell ffôn neu e-bost am ddim bob awr o'r wythnos - Y Samariaid

Sgwrsiwch â rhywun am eich anawsterau - Ar gael i sgwrsio bob awr o'r wythnos dros y ffôn neu e-bost https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/

Gwasanaethau Iechyd Meddwl lleol Gofal Sylfaenol y GIG:

Gwybodaeth hunangymorth ddefnyddiol ar-lein ynglŷn â Gofid a gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael http://www.iawn.wales.nhs.uk/mental-health-self-help-resources

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Gall ein hymarferwyr cymwysedig eich helpu gydag effaith gofid ar eich bywyd academaidd. Gallwch gofrestru â'n gwasanaeth ar-lein.