Blwyddyn Gyntaf

Mae’ch cyfnod yn y Brifysgol yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i chi, gan gynnwys y cyfle i fwynhau’n fawr iawn.  Yr her sydd ger eich bron yw manteisio are bob cyfle bosibl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a hel llu o brofiadau.  Y cwbl sydd angen i chi gofio yw, tra’ch bod yn cael hwyl ac yn mwynhau, rydych hefyd yn datblygu llwyth o sgiliau a fydd o fudd i chi gyda’ch cwrs academaidd yn ogystal a bod yn berthnasol yn y dyfodol wedi ichi gwblhau eich cwrs.  Dylech fanteisio ar y cyfle i ddechrau datblygu ac ehangu’ch sgiliau yn syth, waeth beth fo’ch llwybr yn y dyfodol byddant yn ddefnyddiol.

Dyma rhai awgrymiadau i’ch rhoi ar ben ffordd.

Ymunwch â chlybiau a chymdeithasau

Mae uno a chyfrannu at glybiau a chymdeithasau yn rhan gymdeithasol iawn o fywyd prifysgol, ond mae hefyd yn profi i ddarpar gyflogwyr bod genncyh ysgogiad a’r gallu i weithio efo eraill fel rhan o dîm.    

Dechreuwch ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a chynllunio a rheoli gyrfa

Mae’n bwysig dechrau adnabod yr ystod o sgiliau rydych yn eu datblygu o’r cychwyn cyntaf fel bo gennych ddigon o gyfle i lenwi unrhyw fylchau.  Defnyddiwch Rhestr Wirio GraddedigionAber i gadw cofnod o’r sgiliau a’r rhinweddau rydych yn eu datblygu.  Bydd eich tiwtor yn cyfeirio at hwn hefyd, felly mynwch y blaen ar y broses!

Profiad Gwaith, cyflogedig neu wirfoddol

Tra bo gweithio rhan amser yn fodd i ennill arian ychwanegol, mae’r profiad hefyd yn rhoi cyfle i chi asesu pa fathau o bethau hoffech eu gwneud fel rhan o swydd yn y dyfodol a beth sy’n atgas gennych.  Mae gwirfoddoli yn ffordd defnyddiol arall o brofi y mathau o swyddi gallwch eu hystyried i’r dyfodol.  Mae’r flwyddyn gyntaf hon yn berffaith i ymgymryd â phrofiad gwaith a gwirfoddoli, cyn bo pwysau gwaith academaidd ac arholiadau terfynol yn nesu.  Rhowch gychwyn arni wrth gael golwg ar y tudalennau Chwilota am Brofiad Gwaith.  Cofiwch fod gennych bedwar mis dros wyliau’r haf i ddatblygu profiadau gwaith swmpus, ac mae amryw o gyflogwyr yn cynnig interniaethau haf i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn benodol, felly mynwch olwg ar ein cronfa ddata cyfleoedd.