Blwyddyn (Blynyddoedd) Ganol

Ar gychwyn eich hail flwyddyn (ac hefyd drydedd flwyddyn os ydych ar gwrs bedair mlynedd integredig gyda chwrs Meistr) yw’r amser ddelfrydol i ddechrau ystyried beth a wnewch wedi ichi raddio.  Cyn i bwysau gwaith academaidd y flwyddyn olaf eich taro yn llawn, manteisiwch ar yr holl gyfleoedd profiad gwaith a ddaw i’ch rhan y flwyddyn hon.  Ysytriwch y camau isod fel man cychwyn.

Ymgeisiwch am interniaethau

Mae profiad gwaith yn ffordd penigamp o ddeall yn iawn pa agweddau o fyd gwaith sydd yn apelio atoch a beth sy’n atgas gennych. Hefyd mae'n darparu dealltwriaeth o fyd gwaith a’r disgwyliadau fydd gan ddarpar gyflogwyr am eich galluoedd a’ch meddylfryd at waith. 

  1. Os cynigir blwyddyn waith integredig fel rhan o’ch cwrs, dyma’ch cyfle i ymchwilio i’r opsiwn ac i weld pa gyfleoedd sydd ar gynnig.
  2. Os nad oes opsiwn o flwyddyn waith ar eich cwrs yn amae’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn agored i chi, gyda’r cynnig o dreulio blwyddyn yn gweithio pa bynnag bwnc rydych yn ei astudio.
  3. Os nad yw’r syniad o 12 mis o waith wrth eich bodd, yna ystyriwch pa borifiadu gellid eu hennill gydag interniaeth dros gyfnod yr haf.

Rhaid dechrau ystyried rhain cyn gynted a fo’n bosibl er mwyn manteisio ar bob cyfle gaiff ei hysbysebu.

Mynwch olwg ar y tudalennau chwilota am Brofiad Gwaith fel man cychwyn.

Ymchwiliwch i waith ac astudieaethau pellach ar lefel raddedig

Dechreuwch ymchwilio i’r sectorau gwaith a all fod o ddiddordeb ac i’r cyflogwyr hynny yr hoffech weithio iddynt.  Bydd y tudalennau Gwybodaeth Pwnc Penodol yn ddefnyddiol i chi gychwyn ar hyn.  Dylech hefyd fynychu gweithgareddau cyflogwyr sy’n cael eu cynnal ar y campws i ymchwilio i’r cyfleoedd a gynigir ac i ddeall yn well yr ystod o swyddi gwahanol sydd yn agored i chi.  Os ydych am ddilyn astudiaethau uwchraddedig yna mynwych olwg ar y tudalen Astudiaethau Uwchraddedig.

Adeiladwch rhwydwaith a delwedd broffesiynol

Mae’n bwysig eich bod yn datblygu rhwydwaith broffesiynol fel un modd o ddod o hyd i gyfleoedd gwaith ac i ddatblygu’ch enw da fel darpar weithiwr proffesiynol.  Dylech hefyd sicrhau eich bod yn cyfarfod â chyflogwyr wrth fynychu’r gweithgareddau a gynhelir ar y campws.  Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu i greu rhwydwaith felly cymerwch sylw o’r awgrymiadau ar y tudalennau Adeiladu Rhwydwaith a Gweithdai Gyrfaoedd yn ogystal a’r ystod o sesiynau a gweithdai a gyflwynir gan gyflogwyr ar hyd y flwyddyn.