E-gyflwyno

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Turnitin a Blackboard Assignment ar gyfer Cyflwyno'n Electronig. Yn unol â pholisi E-gyflwyno’r Brifysgol, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno pob gwaith testunol a gwaith ar brosesydd geiriau'n electronig. 

O fis Medi 2020, dylid gosod pwyntiau cyflwyno Turnitin fel eu bod yn caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno sawl gwaith cyn y dyddiad cau ac i weld eu sgôr tebygrwydd Turnitin (fel y cytunwyd gan y Bwrdd Academaidd).

Rydym yn cefnogi arholiadau ar-lein gan ddefnyddio Profion Blackboard. Os hoffech drafod hyn ymhellach, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk a darllenwch ein Profion Blackboard ar gyfer Arholiadau o Bell

 

Edrychwch ar negeseuon twitter Turnitin i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Rhagor o wybodaeth am y modd y mae ein staff yn rhoi adborth ardderchog i’w myfyrwyr a’r offer y maent yn eu defnyddio. Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae Dr Gareth NorrisDr Heather Norris ac Alexandra Brookes yn defnyddio adborth clywedol yn Turnitin ar gyfer eu myfyrwyr.