Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol
1 Cyflwyniad
Mae'r cynllun gwyliau blynyddol ychwanegol yn opsiwn gwirfoddol sy'n galluogi gweithwyr i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol i'w galluogi i weithio'n fwy hyblyg a chynnal cydbwysedd iach rhwng eu gwaith a’u bywydau personol. Mae ganddo'r potensial i helpu i leihau cyllideb y gweithlu a darparu rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i'n gweithwyr.
Bydd gweithwyr yn ymrwymo i'r cynllun am gyfnod o flwyddyn, o 01 Ionawr 2026 i 31 Rhagfyr 2026. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddiogelu tâl diswyddo os bydd y gweithiwr yn gadael ei swydd ar sail diswyddiad yn ystod y cyfnod hwn.
2 Pwy gaiff wneud cais?
- Mae'r cynllun yn galluogi gweithwyr, gyda chytundeb y Brifysgol, i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 219 awr mewn unrhyw flwyddyn unigol o wyliau blynyddol.
- Nid yw cymryd gwyliau blynyddol ychwanegol yn hawl ond bydd yn cael ei ystyried gan y Brifysgol yng ngoleuni anghenion y gwasanaeth a manteision y gost i'r Brifysgol. Rhaid i'r Cyfarwyddwr perthnasol neu'r cynrychiolydd enwebedig gytuno y gall y gweithiwr gymryd rhan yn y cynllun gwyliau ychwanegol.
- Cytunir ar wyliau blynyddol ychwanegol yn unig ar adegau pan na fydd angen sicrhau staff i gyflenwi dros gyfnod yr absenoldeb er mwyn cynnal y gwasanaeth ar unrhyw gost ychwanegol i’r Brifysgol.
- Rhaid bod gan y staff ddealltwriaeth glir am y telerau a’r amodau ac am ffeithiau allweddol y cynllun cyn iddynt ymrwymo'n ffurfiol i'r trefniadau.
- Gall gweithiwr gymryd uchafswm o 219 awr (sy'n cyfateb i 30 diwrnod safonol) o wyliau ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn wyliau neu ar sail pro-rata ar gyfer gweithiwr rhan-amser sy'n gweithio llai na 36.5 awr yr wythnos.
- Rhaid cymryd y gwyliau blynyddol ychwanegol o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol, dim ond 36.5 awr, pro rata y gellir eu cario drosodd, yn unol â'ch Telerau ac Amodau.
- Rhaid i gais am wyliau blynyddol ychwanegol gynnwys manylion ynghylch pryd y cymerir y gwyliau er mwyn gallu cynllunio’r ddarpariaeth o wasanaethau yn effeithiol ac i’r eithaf.
- Os na all y gweithiwr gymryd ei absenoldeb oherwydd salwch hir, absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhieni ar y cyd neu absenoldeb mabwysiadu, bydd yr amgylchiadau'n cael eu hystyried fesul achos.
- Ar ôl terfynu cyflogaeth, bydd hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael ei gysoni. Bydd gofyn i'r gweithiwr gymryd unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill yn ystod eu cyfnod rhybudd. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd taliad yn cael ei roi yn lle gwyliau. Os yw'r gweithiwr wedi cymryd mwy na'i wyliau blynyddol cymesur yn ystod y flwyddyn wyliau, bydd yn ofynnol iddo ad-dalu'r cyflog cyfatebol trwy dynnu’r swm o'i gyflog terfynol.
3 Y Drefn Gymeradwyo
Bydd ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu hystyried yn ystod mis cyntaf pob blwyddyn wyliau, hynny yw, ym mis Ionawr. Bydd gan Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran a Phenaethiaid Gwasanaethau Proffesiynol ryddid i ystyried ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn ystod y flwyddyn os bydd amgylchiadau gweithiwr yn newid.
Gall gweithiwr holi am uchafswm o 219 awr o gwyliau ychwanegol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser, hynny yw, bydd pob awr y gwneir cais amdano yn cael ei drosglwyddo yn unol â’r amserlen waith) ym mhob blwyddyn wyliau. Mae'r flwyddyn wyliau yn rhedeg o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr.
Bydd pob cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei ystyried gan Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran neu Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol, gan ystyried anghenion gweithredu’r Adran/Athrofa. Dylid gwneud ceisiadau drwy'r ffurflen gais sydd i'w gweld ar frig y dudalen.
Bydd yr ymateb i’r cais fel a ganlyn:
- Cymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd
- Cymeradwyo rhan o’r cais
- Gwrthod y cais
Lle nad yw’n bosibl i gymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd, rhoddir ymateb ysgrifenedig yn nodi’r rheswm dros hynny.
Os bydd y cais am wyliau yn cael ei wrthod, ni fydd hawl apelio dan y polisi hwn.
Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo gan y rheolwr priodol, ni fydd hi’n bosibl i ddiddymu’r gwyliau sydd eisoes wedi’u prynu yn ystod y flwyddyn wyliau.
Bydd manylion gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael eu diweddaru ar ABW.
Talu am Wyliau Blynyddol Ychwanegol
Telir am y gwyliau blynyddol ychwanegol trwy un o'r dulliau canlynol:
Didyniad o'r cyflog fel un cyfandaliad cyn cymryd y gwyliau ychwanegol;
Didyniad o'ch cyflog dros uchafswm o 12 mis yn olynol gan ddechrau ar ôl cymeradwyo’ch pryniant.
Bydd y gweithiwr yn cwblhau'r mandad angenrheidiol er mwyn prosesu'r didyniad ar adeg cyflwyno'r cais i brynu’r gwyliau blynyddol ychwanegol.
Bydd gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei gyfrifo yn erbyn cyfradd cyflog fesul awr y gweithiwr wedi’i luosi a nifer yr oriau a brynwyd.
e.e. 36.5 awr x Sp 13 (£13.45/awr) = £490.93
7.5 awr x Sp 13 (£13.45/awr) = £100.88
219 awr x SP 13 (£13.45/awr) = £2945.55
