Gweithdrefn Denu a Dewis Staff

Swyddi gwag sydd newydd eu sefydlu
Ail hysbysebu swyddi
Swyddi gwag achlysurol
Defnyddio E-Recriwtio
Swydd-ddisgrifiadau
Hysbysebu
Rhestr fer
Aelodau panel penodi
Cyfweliadau
Ar ôl cyfweliadau
Hawl i weithio, Derbyn (Cyflogi Ymgeiswyr), Ymgyfarwyddo
Cyfnod prawf

Swyddi gwag newydd eu sefydlu

Swyddi nad ydynt yn bod yn eich fframwaith chi/y Brifysgol eisoes yw swyddi newydd eu sefydlu.

Os ydych yn Bennaeth adran, ac eisiau creu swydd newydd yn eich adran, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y camau canlynol:  

  1. Siaradwch â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol i drafod eich anghenion denu staff.
  2. Yn dibynnu ar ganlyniad y sgwrs hon, bydd angen i chi ymgynghori â'ch Partner Busnes Cyllid i sicrhau bod gennych yr adnoddau ariannol ar gyfer y swydd newydd neu fod modd ichi ddod o hyd i'r arian hwnnw.
  3. Os gall eich Partner Busnes Cyllid gadarnhau'r adnoddau ariannol, mae'n rhaid i chi ysgrifennu strwythur ac achos busnes y bydd angen i Weithrediaeth y Brifysgol eu cymeradwyo. Siaradwch â’ch Dirprwy Is-Ganghellor i gael rhagor o fanylion.
  4. Os caiff eich achos busnes ei gymeradwyo, gweler y camau isod:
    • Ysgrifennu swydd-ddisgrifiad
    • Trafod â Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg i sicrhau bod lefel gywir y Gymraeg yn cael ei dewis
    • Cyflwyno'r swydd-ddisgrifiad ar gyfer proses Dadansoddi Rolau Addysg Uwch (HERA) (dolen i broses HERA)
    • Cwblhau'r swydd-ddisgrifiad gyda'ch Tîm Partner Busnes AD
    • Dechrau'r broses e-recriwtio.

Ail hysbysebu swyddi gwag sefydledig

Os ydych eisiau hysbysebu am aelod staff yn i swydd sefydledig yn eich fframwaith / adran, rhaid i chi ddilyn y camau isod:

  1. Cofiwch gyflwyno'r ffurflen Adnoddau Dynol sy'n rhoi gwybod i'r tîm Cydymffurfio ac Adnoddau am yr aelod o'r staff sy'n gadael a'ch bwriad i ail hysbysebu.
  2. Trafodwch â Thîm Partner Busnes Adnoddau Dynol unrhyw ddiweddariadau yr hoffech eu gwneud i'r swydd-ddisgrifiad.
  3. Os ydych chi eisiau adolygu lefelau'r Gymraeg, rhaid i chi a’ch Partner Busnes Adnoddau Dynol siarad â Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.
  4. Ar ôl cwblhau'r camau uchod, gallwch ddechrau'r drefn e-recriwtio.

Swyddi gwag achlysurol

Mae swyddi gwag achlysurol yn ffordd i'r adran benodi unigolyn i swydd heb hysbysebu, dewis rhestr fer na chynnal cyfweliad. Dim ond hyd at gyfnod penodol o dri mis y cewch ddefnyddio swyddi gwag achlysurol, ac ni ellir eu hymestyn fel arfer.

Rydym yn argymell eich bod yn trafod eich cais am swydd wag achlysurol yn uniongyrchol â’ch Partner Busnes Adnoddau Dynol a’ch Partner Busnes Cyllid.

Swydd-ddisgrifiadau

Mae swydd-ddisgrifiad gan lawer o swyddi yn barod. Dylai copi cyfredol o’r swydd-ddisgrifiad fod gan yr adran Adnoddau Dynol er mwyn gallu cyflogi rhywun i gymryd y swydd yn uniongyrchol.

Mae'n ddoeth adolygu'r swydd-ddisgrifiadau hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn dal i gynrychioli’r swydd a allai newid yn naturiol dros amser.

Os oes pobl eraill yn gweithio yn yr un swyddogaeth, cofiwch y gallai unrhyw newidiadau effeithio ar eu gradd gyflog. Os nad oes swydd-ddisgrifiad yn bodoli, bydd angen i chi ysgrifennu un.

Ysgrifennu swydd-ddisgrifiad

Wrth ysgrifennu swydd-ddisgrifiad, cofiwch ei gadw’n gryno a chywir. Gwnewch yn sicr bod unrhyw amodau arbennig yn glir o'r cychwyn cyntaf (tymor penodol, cyflenwi dros gyfnod mamolaeth, rhan-amser, ac ati). Cofiwch gynnwys enw a manylion cyswllt rhywun y gallai'r ymgeisydd gael sgwrs anffurfiol â nhw am y swydd.

Dylai'r swydd-ddisgrifiad fod yn amlinelliad o'u cyfrifoldebau. Does dim angen iddo fod ar ffurf rhestr hir o'r tasgau y bydd disgwyl iddyn nhw eu cyflawni.

Nid yw nifer y tasgau yn effeithio ar y radd. Wrth ysgrifennu swydd-ddisgrifiad, dylech ganolbwyntio ar bwy a beth y byddai'r gweithiwr yn gyfrifol amdanynt, a chwmpas y cyfrifoldebau hynny.

Cymerwch ofal penodol wrth ddefnyddio'r geiriau "cymorth", "arwain" a "rheoli" i adlewyrchu lefel eu cyfrifoldeb yn gywir. Ni all y deiliad swydd reoli rhywbeth os yw ei reolwr llinell yn gyfrifol amdano.

Cytundeb Fframwaith / HERA
Templedi Disgrifad Swydd

Defnyddio E-Recriwtio – rhoi swydd wag ar system E-Recriwtio

Mae'r wybodaeth isod yn amlinellu'r broses E-Recriwtio ar gyfer swydd newydd, llenwi swydd gyfredol, a swydd achlysurol.

Cam 1 - Mewngofnodwch i E-Recriwtio a dewis creu swydd.

Dolen E-Recriwtio: : https://aber-ats-sso.hireserve.com/

Cam 2 - Llenwch y ffurflen manylion y swydd.

Mae'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi ar y ffurflen hon yn hanfodol i'r Tîm Adnoddau fel y gallant hysbysebu eich swydd ac i'r Tîm Cydymffurfio fel y gallant brosesu eich ymgeisydd llwyddiannus. Gwyliwch y fideo isod i gael canllaw cam wrth gam ar gwblhau'r cam hwn.

Cam 3 - Atodi eich swydd-ddisgrifiad.

Bydd angen hwn arnom ar gyfer yr hysbyseb swydd.
Defnyddiwch y templedi swydd-ddisgrifiad canlynol ar gyfer pob cais am swydd wag.

Cam 4 – Cyflwyno i'w gymeradwyo.

Mae gennym dair proses gymeradwyo ar wahân ar gyfer llif gwaith.

Llif gwaith swyddi newydd eu sefydlu

Os oes gennych swydd newydd yn eich adran / strwythur, bydd angen dilyn y camau isod ar system e-Recriwtio:

  1. Cymeradwyaeth Pennaeth yr Adran - mae hyn yn orfodol, ac mae angen i Bennaeth yr Adran gadarnhau rhif y swydd a'r teitl swydd blaenorol.
  2. Y Gymraeg - bydd Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg yn cadarnhau’r lefelau Cymraeg hanfodol a dymunol.
  3. Cyllid - bydd eich Partner Busnes Cyllid yn adolygu eich swydd ac yn asesu a oes gennych yr adnoddau ariannol ar ei chyfer.
  4. Y Rheolwr Denu Staff i lwytho'r swydd-ddisgrifiadau Cymraeg a Saesneg
  5. Y Tîm Adnoddau i greu'r hysbyseb swydd.
  6. Swyddog Adnoddau i gymeradwyo'r hysbyseb.
  7. Y Tîm Adnoddau i gyhoeddi'r hysbyseb.

Llif gwaith ail hysbysebu swydd wag sefydledig:

Os ydych yn ail hysbysebu swydd sefydledig, gallwch ddyblygu'r swydd trwy glicio ar 'File > Copy' a dileu 'duplicate' o'r teitl a dilyn y cyfarwyddiadau isod:

  1. Cymeradwyaeth Pennaeth yr Adran - mae hyn yn orfodol, ac mae angen i Bennaeth yr Adran gadarnhau rhif y swydd a'r teitl swydd blaenorol.
  2. Y Rheolwr Denu Staff i lwytho'r swydd-ddisgrifiadau Cymraeg a Saesneg
  3. Y Tîm Adnoddau i wirio'r swydd sefydledig a gwirio lefel y Gymraeg.
  4. Y Tîm Adnoddau i greu'r hysbyseb swydd.
  5. Swyddog Adnoddau i gymeradwyo'r hysbyseb.
  6. Y Tîm Adnoddau i gyhoeddi'r hysbyseb.

Llif gwaith swyddi gwag achlysurol:

Os mai swydd wasg achlysurol yw hon, dyma'r camau i'w dilyn:

  1. Adnoddau Dynol i gadarnhau’r swydd achlysurol
  2. Cymeradwyo lefel y Gymraeg
  3. Cymeradwyo cyllid
  4. Llwytho AAF1 i E-Recriwtio
  5. Adnoddau Dynol i gymeradwyo'r broses

Hysbysebu

Unwaith y byddwch wedi cael cymeradwyaeth trwy E-Recriwtio, bydd y Tîm Adnoddau'n rhoi eich hysbyseb ar wefan y Brifysgol a'r gwefannau trydydd parti canlynol:

  • jobs.ac.uk
  • Swyddle, Lleol a Golwg
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Y cyfryngau cymdeithasol

Gallwch ddewis hysbysebu'n fewnol yn unig neu'n fewnol ac yn allanol. Os mai dim ond hysbysebu'n fewnol ydych chi, rydym yn argymell bod yr hysbyseb yn para am bythefnos o leiaf.

Mae ein tudalen swyddi gwag mewnol ar gyfer ymgeiswyr mewnol ac ymgeiswyr ystyriaeth ymlaen llaw. O dan y Polisi Adleoli, mae staff sy'n wynebu adleoli neu ddiswyddo yn destun Ystyriaeth Ymlaen Llaw ar gyfer pob swydd. Mae Ystyriaeth Ymlaen Llaw yn sicrhau’r diogelwch swydd eithaf, yn lleihau'r gofyniad am ddiswyddo gorfodol ac yn diogelu buddiannau ein gweithwyr gan gadw sgiliau o fewn y Brifysgol.

Os ydych chi angen ymgyrch bwrpasol, gallwn roi cyngor ar sut i hwyluso hyn. Noder y bydd angen i'r Adran Academaidd neu'r Gwasanaeth Proffesiynol dalu costau ymgyrch bwrpasol. Gall hyn gynnwys hysbysebu yn y meysydd canlynol:

  • Cymunedau proffesiynol e.e. CIM, CIPD, ACCA ac ati.
  • The Times Higher Education Jobs / The Guardian Jobs.

Mae hefyd yn ddefnyddiol cynnwys y dyddiad/dyddiadau cyfweld yn yr hysbyseb. Nid yw'n orfodol cyfweld ymgeisydd nad yw ar gael ar y dyddiad a nodir yn yr hysbyseb.

Rhestr fer

Ar ôl y dyddiad cau, bydd y Tîm Adnoddau yn anfon y ffurflenni cais sydd wedi cyrraedd atoch er mwyn tynnu rhestr fer. Cyn dechrau creu'r rhestr fer, rhaid i chi ddatgan a oes gennych fuddiant penodol yn unrhyw un o'r ymgeiswyr e.e. cydweithiwr, aelod o'r teulu, ffrind, canolwr. Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhestr fer, ond efallai y bydd angen creu panel cyfweld arall.

Sylwch nad yw'n werth newid aelodaeth y panel ddim ond oherwydd bod rhywun rydych chi'n ei adnabod neu gydweithiwr o dîm arall ar y rhestr fer, ond cofiwch ddatgan hynny os oes unrhyw amheuaeth.

Er mwyn creu rhestr fer, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio'r matrics rhestr fer.
  • llenwi'r "Allwedd i feini prawf rhestr fer" gyda Meini Prawf Hanfodol y swydd-ddisgrifiad.
  • rhestru'r ceisiadau yn ôl cyfeirnod ac ystyried pob ymgeisydd yn erbyn y meini prawf hanfodol.

Os oes 30 a mwy o ymgeiswyr, efallai y byddwch am dynnu rhestr hir lle rydych chi'n sgorio yn erbyn un neu ddau o feini prawf hanfodol yn unig. Gall hyn fod yn ffordd ddefnyddiol o wrthod ceisiadau anfoddhaol heb dynnu rhestr fer lawn. Ewch ati i dynnu rhestr fer lawn ar gyfer yr holl geisiadau sy'n weddill.

Dylid rhoi sgôr o 0-4 i bob ymgeisydd ym mhob maen prawf:

  • Nid yw'r Ymgeisydd wedi darparu unrhyw dystiolaeth
  • Mae'r Ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth gyfyngedig
  • Mae'r Ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth foddhaol
  • Mae'r Ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth dda
  • Mae'r Ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth ardderchog

Pan fydd y rhestr fer wedi'i chwblhau, cyfrifwch y sgoriau sydd gan bob ymgeisydd a'u rhestru yn eu trefn.

Wrth asesu ymgeiswyr sy'n siarad Cymraeg yn erbyn rhai di-Gymraeg sy'n barod i ddysgu, dylid defnyddio'r dull sgorio canlynol:

  • Heb ddarparu unrhyw dystiolaeth;
  • Heb ddarparu digon o dystiolaeth;
  • Wedi darparu tystiolaeth o barodrwydd i fodloni lefel y Gymraeg;
  • Yn bodloni lefel y Gymraeg;
  • Wedi darparu tystiolaeth o fod wedi defnyddio'r Gymraeg yn helaeth e.e. yn y gweithle.

Pan fydd ymgeisydd wedi cael sgôr o 0 neu 1 ar gyfer unrhyw faen prawf hanfodol, waeth pa mor dda mae wedi sgorio mewn mannau eraill, ystyrir nad yw'n gallu bodloni gofynion y swydd ac felly ni fydd yn cael gwahoddiad i gyfweliad.

Pan fydd gennych lawer o ymgeiswyr sy'n sgorio'n uchel, gallwch greu rhestr fer yn erbyn y meini prawf dymunol i ddod o hyd i'r ymgeiswyr gorau.

Bydd y Brifysgol weithiau'n derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr 'ystyriaeth ymlaen llaw'. Rhaid ystyried y ceisiadau hyn cyn ymgeiswyr eraill mewnol ac allanol.

Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd wedi datgan anabledd ac wedi bodloni'r meini prawf hanfodol.

Gofynnwn i bob ymgeisydd a ydyn nhw wedi'u cael yn euog o drosedd yn y DU. Nid yw record droseddol yn gwahardd rhywun rhag gweithio i'r Brifysgol. Y Rheolwr Denu Staff sy'n gyfrifol am ystyried natur y swydd wag yn erbyn amgylchiadau a chefndir y drosedd. Ni ddylai euogfarnau ddylanwadu ar eich rhestr fer ond dylid eu trafod pan fo datgeliad wedi'i wneud.

Dylid cadw pob datgeliad o euogfarnau yn gwbl gyfrinachol a pheidio â’u datgelu i unrhyw un heb gysylltiad uniongyrchol â'r swydd wag. I gael mwy o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol perthnasol.

Ar ôl gweithredu'r uchod, defnyddiwch ein dogfennau i restru'n glir pa ymgeiswyr rydych chi am eu cyfweld a chyflwynwch eich rhestr fer yn unol â'r cyfarwyddiadau a anfonwyd.

Aelodau panel penodi

Nodir cyfansoddiadau'r paneli recriwtio isod. Dan amgylchiadau eithriadol, fodd bynnag, lle nad oes modd cadw at y cyfansoddiadau panel hyn dylid gofyn am gymeradwyaeth Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu'r Dirprwy i amrywio aelodaeth y panel.

Efallai y bydd angen i'r Is-Ganghellor enwebu Dirprwy Is-Ganghellor i gymryd ei le ar y panel recriwtio, dan amgylchiadau eithriadol.

Dylid cadw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar baneli recriwtio. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid cael cytundeb y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu'r Dirprwy dan amgylchiadau eithriadol.

Lle bydd ymgeiswyr yn dewis cael eu cyfweld trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd aelodaeth y panel yn ddelfrydol yn adlewyrchu'r gofyniad hwn. Lle nad yw hyn yn bosibl, bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael.

Swyddi ar lefel weithredol:

Is-Ganghellor (yn unol ag Ordinhad)

  • Cadeirydd y Cyngor (Cadeirydd)
  • Dirprwy Gadeirydd y Cyngor
  • 3 aelod annibynnol a benodwyd gan ac o blith y Cyngor
  • 1 aelod a benodwyd gan ac o blith y Senedd (a darpariaeth ar gyfer aelod yn ei le)
  • Is-Ganghellor neu Brifathro sefydliad prifysgol arall (a bennir gan Gadeirydd y Cyngor)
  • Ysgrifennydd y Brifysgol neu Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Uwch-Ddirprwy Is-Ganghellor a Dirprwy Is-Ganghellor (yn unol ag Ordinhad)

  • Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • 2 aelod annibynnol a benodwyd gan ac o blith y Cyngor
  • 1 aelod o'r Senedd (a bennir gan yr Is-Ganghellor)
  • [Yn achos swyddi a hysbysebir yn allanol] Cynrychiolydd addas o Sefydliad Addysg Uwch arall
  • Ysgrifennydd y Brifysgol neu Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol

Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol (aelodau gweithredol ac Ysgrifennydd y Brifysgol)

  • Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • Dirprwy Is-Ganghellor
  • 1 aelod annibynnol a benodwyd gan ac o blith y Cyngor
  • Os oes angen sgiliau technegol arbenigol ar y swydd, gall y Cadeirydd enwebu cynrychiolydd allanol
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu ddirprwy

Swyddi Academaidd

Pennaeth Adran Academaidd

  • Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • Dirprwy Is-ganghellor
  • Cynrychiolydd allanol sydd ag arbenigedd perthnasol (dim ond pan fo angen ar gyfer swyddi arbenigol e.e. yn achos Pennaeth IBERS, byddai angen cynrychiolaeth BBSRC)
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu ddirprwy

Athro

  • Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • Dirprwy Is-ganghellor
  • Pennaeth Adran Academaidd
  • Cynrychiolydd allanol sydd ag arbenigedd perthnasol (dim ond pan fo angen ar gyfer swyddi arbenigol)
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu ddirprwy

Darllenydd

  • Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • Pennaeth yr Adran Academaidd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol

Uwch Ddarlithydd

  • Dirprwy Is-Ganghellor (Cadeirydd)
  • Pennaeth yr Adran Academaidd
  • Partner Busnes Adnoddau Dynol

Darlithydd

  • Pennaeth yr Adran Academaidd (Cadeirydd)
  • Athro neu Ddarllenydd yn yr Adran Academaidd
  • Aelod o staff Academaidd o Adran Academaidd arall
  • Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-Ddoethurol (PDRA)/Cynorthwyydd Ymchwil/Darlithydd Cyswllt/Staff Addysgu Rhan Amser
  • Pennaeth yr Adran neu Ddirprwy (Cadeirydd)
  • Aelod o staff Academaidd yr Adran (y rheolwr llinell fel arfer)
  • Aelod o staff o Adran Academaidd arall, neu yn achos prosiectau cydweithrediadol, aelod o staff o'r adran neu’r sefydliad partner perthnasol

Adrannau Gwasanaeth Proffesiynol

Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol neu Swyddi Gradd 9/10 (nid lefel Weithredol)

  • Is-Ganghellor (trwy gais)
  • Dirprwy Is-Ganghellor neu Bennaeth Lefel Gweithredol mewn Gwasanaeth Proffesiynol (Cadeirydd)
  • Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol
  • Os oes angen sgiliau technegol arbenigol ar y swydd, gall y Cadeirydd enwebu cynrychiolydd allanol
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol neu ddirprwy

HERA Gradd 8

  • Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol*
  • Rheolwr llinell neu enwebai
  • Aelod o'r staff o Adran arall
  • Cynrychiolydd Adnoddau Dynol lle gofynnir hynny gan y Cadeirydd *DS Y Cadeirydd fydd y rheolwr llinell perthnasol

HERA Graddau 5, 6, 7

  • Pennaeth yr Adran (trwy gais) Rheolwr llinell (Cadeirydd)
  • Aelod o staff yr Adran oni bai bod Pennaeth yr Adran ar y panel
  • Aelod o staff o Adran arall

HERA Graddau 3, 4

  • Rheolwr llinell (Cadeirydd)
  • Aelod o staff yr Adran
  • Aelod o staff o Adran arall

HERA Graddau 1, 2 a swyddi eraill nad ydynt yn HERA*

  • Rheolwr Llinell neu enwebai
  • Aelod o staff yr Adran

Ystyriaeth flaenorol a Phaneli Adnewyddu Aber (lle mae 1 ymgeisydd)

  • Rheolwr llinell (Cadeirydd)
  • Cynrychiolydd Adnoddau Dynol

*Os oes mwy nag 1 ymgeisydd, rhaid dilyn cyfansoddiad arferol Paneli Penodi.

Cyfweliadau

Dylai ymgeiswyr gael o leiaf 7 diwrnod o rybudd am gyfweliad. Rhaid i chi gwblhau a dychwelyd y rhestr fer i'r Tîm Adnoddau o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y cyfweliad arfaethedig. Bydd y Tîm Adnoddau yn e-bostio gwahoddiadau at yr ymgeiswyr llwyddiannus o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad y cyfweliad. Bydd Adnoddau Dynol yn cysylltu â'r ymgeiswyr aflwyddiannus.

Trefniadau cyfweld (Ar-lein / Wyneb yn wyneb)

Mae angen cadarnhau dyddiad y cyfweliad ac aelodau'r panel cyn bod modd trefnu'r cyfweliad. Fel Rheolwr Denu Staff mae'n ofynnol i chi gyflwyno'r wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad y cyfweliad;
  • Amser y cyfweliad;
  • Hyd y cyfweliad;
  • Lleoliad y cyfweliad;
  • Lle ac i bwy y dylen nhw adrodd?
  • Cadarnhau aelodau'r panel - rhaid i bob aelod fod wedi cwblhau'r cwrs E-Ddysgu ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth;
  • Manylion unrhyw dasgau/cyflwyniadau asesu;
  • Pwnc y cyflwyniad/natur y dasg;
  • Dyddiad ac amser os caiff ei gynnal ar wahân i'r cyfweliad;
  • Hyd y dasg/cyflwyniad;
  • Pwy fydd y gynulleidfa;
  • A fydd cyfleusterau PowerPoint ar gael; meini prawf asesu ar gyfer y dasg/cyflwyniad.

Dylai holl aelodau'r panel, dan arweiniad y Rheolwr Recriwtio, ymgyfarwyddo â cheisiadau'r ymgeiswyr a'r swydd-ddisgrifiad cyn y cyfweliadau.

Cyfweliadau cwestiwn ac ateb sydd fwyaf cyffredin, ond rydym hefyd yn annog y defnydd o ymarferion seiliedig ar waith hefyd.

Yn gyffredinol mae disgwyl i staff addysgu roi cyflwyniad neu ddarlith fer ar eu maes pwnc neu arddull addysgu.

Gellir gofyn i ymgeiswyr am swyddi gweinyddol gyflawni ymarferiad gweinyddol neu 'basged i mewn'.

Gellid gofyn i staff technegol neu arlwyo gwblhau tasg. Gall yr asesiadau hyn fod yn fwy cynrychioliadol o berfformiad a galluoedd cyffredinol yr ymgeisydd.

Rhaid i bob swydd wag sy'n gofyn am Gymraeg Lefel B1 neu uwch gynnwys cwestiwn neu dasg asesu i asesu galluoedd Iaith Gymraeg yr ymgeiswyr, er mwyn cymharu â’r meini prawf hanfodol.

Cyfweld ymgeiswyr sy’n cael ystyriaeth ymlaen llaw

Os ydych chi'n cyfweld ymgeisydd o'r rhestr 'ystyriaeth ymlaen llaw', dylai'r cyfweliad fod yn anffurfiol, a does dim angen y panel cyfweliad llawn arnoch chi. Mae angen y Rheolwr Denu Staff ac aelod o'r tîm Adnoddau Dynol.

Os nad ydych chi’n teimlo bod yr ymgeisydd yn addas i'w benodi, rhaid cael sêl bendith y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol cyn rhoi’r canlyniad i'r ymgeisydd. Bydd angen i chi ddangos pam nad yw'r ymgeisydd yn gallu gwneud y gwaith gyda hyfforddiant rhesymol. Pan fydd y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol wedi cadarnhau, gallwch rannu'r penderfyniad am y penodiad.

Sgorio a dewis eich ymgeiswyr mewn cyfweliad

Gan ddefnyddio'r Taflenni Crynodeb Cyfweliad, rhaid i bob aelod o'r panel wneud nodiadau am atebion yr ymgeiswyr.

Dylech hefyd gynnwys casgliadau ar y cyflwyniadau/tasgau asesu. Rhaid defnyddio beiro i ysgrifennu'r nodiadau, sy'n glir ac ymarferol i sgorio. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio i roi adborth i'r ymgeiswyr, a gall yr ymgeisydd ofyn am weld y rhain.

Gallwch gynnwys nodyn fel "gwisgo siaced goch" fel nodyn atgoffa ond nid pethau fel "synnwyr ffasiwn ofnadwy" neu "roedd yn drewi". Mae'r sylwadau hyn yn amhriodol.

Dylid rhoi sgôr o 0-4 i bob cwestiwn:

  1. Mae'r Ymgeisydd wedi darparu ateb gwael neu anghywir
  2. Mae'r Ymgeisydd wedi darparu ateb cyfyngedig
  3. Mae'r Ymgeisydd wedi darparu ateb boddhaol
  4. Mae'r Ymgeisydd wedi darparu ateb da
  5. Mae'r Ymgeisydd wedi darparu ateb ardderchog

Efallai y byddwch yn dewis sgorio tasgau asesu neu gyflwyniadau yn wahanol os oes ganddo fwy o bwys, megis darlith ar gyfer swydd addysgu, ond rhaid i chi gadw sgôr gwrthrychol mesuradwy.

Efallai y byddwch yn dewis gadael eich holl waith sgorio tan y diwedd er mwyn helpu i sicrhau sgôr cyson ar draws yr holl ymgeiswyr. Dylai'r panel gael trafodaeth fer ar y sgoriau a'r ymgeiswyr.

Mae'n anodd cynnal cyfweliad, ac mae'n hawdd anghofio rhywbeth mae ymgeisydd wedi’i ddweud. Ar gyfer swyddi arbenigol, efallai y bydd angen rhywfaint o arweiniad ar y panel ar unrhyw gwestiynau nad oes ganddynt yr arbenigedd i'w deall yn llawn. Mae croeso i aelodau'r panel ddiwygio eu sgoriau pe bai'r drafodaeth yn newid eu barn.

Dylid cyfrifo holl sgoriau pob aelod o'r panel ar gyfer pob ymgeisydd. Nodwch y rhain ar Fatrics Crynodeb o’r Cyfweliad a chyfanswm yr holl sgoriau. Dylid penodi'r ymgeisydd/ymgeiswyr â'r sgôr uchaf.

Ar ôl cyfweliadau

Y Rheolwr Denu Staff sy'n gyfrifol am gysylltu â'r ymgeisydd llwyddiannus. Unwaith y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn y cynnig dros dro, rhaid i'r Rheolwr Recriwtio gysylltu â'r holl ymgeiswyr aflwyddiannus.

Dyw cael eich gwrthod ddim yn brofiad braf iawn, a dylid gwneud hynny gyda sensitifrwydd. Byddan nhw'n disgwyl eich galwad, felly peidiwch â'i ymestyn mwy na'r angen. Dylech gynnig cyfle iddyn nhw gael adborth, naill ai nawr neu'n ddiweddarach.

Rhaid e-bostio holl ddogfennau'r cyfweliad i'r Tîm Adnoddau (hr@aber.ac.uk). Rhaid cwblhau'r holl ddogfennau hyn yn llawn a’u hysgrifennu'n glir. Bydd y Tîm Adnoddau a Chydymffurfio yn cadarnhau'r cynnig cyflogaeth ar ôl derbyn yr holl ddogfennau hyn.

Hawl i weithio, Derbyn (Cyflogi Ymgeiswyr), Ymsefydlu

Mae staff Adnoddau Dynol a staff dethol eraill wedi'u hyfforddi i gynnal archwiliadau Hawl i Weithio, lle gofynnir i ymgeiswyr ddarparu dogfennau i gadarnhau eu Hawl i Weithio yn y DU. 

Rhaid i ymgeisydd ddarparu un o'r eitemau canlynol yn brawf o'i hunaniaeth: Pasbort neu drwydded breswyl/fisa. Gall dinasyddion y DU hefyd ddarparu tystysgrif geni lawn gyda phrawf o rif yswiriant gwladol.

Gofynnir i bob ymgeisydd ddod â'u dogfennau Hawl i Weithio i Adnoddau Dynol ar ddiwrnod eu cyfweliad. 

Gofynnir i ymgeiswyr ar-lein ddilysu eu dogfennau yn eu Swyddfa Bost leol neu trwy ddod â nhw i'n swyddfa yn Aberystwyth. 

Mae'n ofyniad cyfreithiol ein bod yn dal dogfennau Hawl i Weithio cyfredol a dilys yr holl weithwyr cyn iddyn nhw ddechrau ar y gwaith. Yn ogystal â hyn, mae'n ofynnol i'n Trwydded Noddi Fisa a rheoliadau Fisâu a Mewnfudo'r DU.

Os nad yw'r ymgeisydd llwyddiannus yn dod o'r DU neu Iwerddon, peidiwch â gwneud unrhyw gynigion tan ichi drafod â'r Tîm Gwasanaethau Gweithwyr. Mae angen cyflawni gofynion cydymffurfio ychwanegol ar gyfer yr ymgeiswyr hyn cyn y gellir gwneud cynnig.

Os yw Cyfadran/Adran yn dymuno penodi ymgeisydd heb Hawl i Weithio cyfredol yn y DU, byddai angen i'r Brifysgol gyhoeddi tystysgrif noddi. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni ddangos pam y penodwyd yr unigolyn yn hytrach na gweithiwr sefydlog.  

Mae eithriadau ar gyfer y swyddi lefel PHD canlynol lle gallwch benodi ymfudwr os mai ef neu hi yw'r ymgeisydd mwyaf addas. Y swyddi hyn yw: Gwyddonwyr Cemegol, Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr, Gwyddonwyr Ffisegol, Gwyddonwyr Cymdeithasol a'r Dyniaethau, Gweithwyr Proffesiynol Gwyddorau Naturiol a Chymdeithasol nad ydynt wedi'u dosbarthu'n rhywle arall, Rheolwyr Ymchwil a Datblygu, a Gweithwyr Addysgu Addysg Uwch.

Rhaid i'r Rheolwr Denu Staff, ar y cyd ag Adnoddau Dynol, gwblhau ac arwyddo Ffurflen Haen 2 yn amlinellu'r rhesymau dros beidio â phenodi ymgeiswyr o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Cyflogi Ymgeiswyr - Derbyn

Ar ôl i’r ffurflen benodi gyrraedd Adnoddau Dynol, ynghyd ag unrhyw waith papur perthnasol, bydd yn cwblhau'r gwiriadau cyn cyflogi ar gyfer yr unigolyn/unigolion dethol. Bydd Adnoddau Dynol yn cadarnhau bod y gwiriad Hawl i Weithio yn ei le, yn cyflwyno geirdaon a chwblhau gwiriad DBS lle bo hynny'n briodol.

Bydd Adnoddau Dynol yn anfon pob geirda at y Rheolwr Denu Staff pan fyddant wedi eu derbyn.

Ar ôl cwblhau’r gwiriadau cyn cyflogi, bydd yr ymgeisydd yn cael e-bost yn gofyn iddo/iddi lenwi ffurflen i gwblhau'r wybodaeth am weithwyr, gan gynnwys manylion cyswllt perthynas agosaf a chyswllt mewn argyfwng, gwybodaeth iechyd, a manylion banc a threth.

Ar ôl ei llenwi, bydd Adnoddau Dynol yn "cyflogi" yr ymgeisydd, yn creu proffil iddo/iddi yn system ABW ac yn cyhoeddi cytundeb.

Ymgyfarwyddo

Cyfrifoldeb Rheolwr Denu Staff neu Reolwr Llinell y swydd yw gwneud trefniadau ar gyfer dyddiau cyntaf yr ymgeisydd yn y gwaith.

Dylai drefnu'r canlynol:

  • Dyddiad ac amser dechrau
  • Lle i fynd ar y diwrnod cyntaf
  • Dylai'r offer gwaith gwahanol fod ar gael:
    • Desg/ffôn/cyfrifiadur
    • Locer/droriau
    • Offer/peiriannau
    • Ymgynefino â’r adran, taith ac ati.

Yn achos staff newydd sydd wedi cael Tystysgrif Nawdd, rhaid gwneud gwiriad Hawl i Weithio CYN iddyn nhw ddechrau ar y gwaith. Ar eu diwrnod cyntaf yn Aberystwyth, RHAID i'n swyddfa Adnoddau Dynol gadarnhau eu hawl i weithio.

Bydd Adnoddau Dynol yn cysylltu â'r aelod Noddedig o staff a'i Reolwr Llinell i ofyn iddynt ddod i gyfarfod am 09:00 ar eu diwrnod gwaith cyntaf i drafod eu cyfrifoldebau a rhwymedigaethau'r Brifysgol o dan ganllawiau UKVI. Bydd gofyn i'r ddwy ochr lofnodi llythyr i gadarnhau eu bod wedi darllen a deall eu cyfrifoldebau.

Hefyd, rhaid i'r holl staff lenwi Adroddiad Ymsefydlu Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, sydd ar gael o we-ddalennau Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd.

Yn achos staff tymor byr neu achlysurol, dylid cwblhau hyn o fewn eu 2 ddiwrnod gwaith cyntaf, neu yn y pythefnos cyntaf yn achos staff parhaol. Hefyd, rhaid i'r holl staff gwblhau'r Cwrs E-Ddysgu Amrywioldeb – bydd y manylion ar gael yn sesiwn ymgyfarwyddo Adnoddau Dynol.

Mater i'r adran yw cynorthwyo eich gweithwyr newydd i ymgynefino. Mae sawl templed ar wefan y Brifysgol, ond dylid teilwra'r rhain ar gyfer y swydd a'ch anghenion adrannol. Dylid dangos iddyn nhw sut i ddefnyddio offer allweddol, eu tywys o amgylch yr adran, eu cyflwyno i gydweithwyr a rhoi arweiniad iddyn nhw ynglŷn â gweithdrefnau brys.

Cyfnod prawf

Mae cyfnod prawf yn rhan o gynnig swydd y rhan fwyaf o weithwyr newydd.

Categori staff

Cyfnod prawf

Graddau 1 - 10 (ac eithrio staff academaidd)

12 mis 

Graddau 6-10 - Staff Academaidd 

24 mis 

Pan fydd newid yn y categori staff, bydd cyfnod prawf pellach yn berthnasol yn unol â'r cyfnod prawf i’r categori hwnnw.