Datganiad Polisi ar Gyflogaeth Foesegol

Datganiad Polisi ar Gyflogaeth Foesegol

 

Crynodeb

Yn unol â Siarter Frenhinol Atodol Prifysgol Aberystwyth, y Cyngor yw "corff llywodraethol goruchaf y Brifysgol" ac mae'n gyfrifol am "benderfynu ar gyfeiriad strategol y Brifysgol ac am y modd y gweithredir materion ariannol a gweinyddol, a materion eraill y Brifysgol, yn unol â'i hamcanion". Yr Is-Ganghellor, sef prif swyddog academaidd, gweinyddol a chyfrifo'r sefydliad, sydd â'r cyfrifoldeb am reolaeth weithredol y Brifysgol - ac er y bydd yn cadw arolygaeth strategol gyffredinol, gall ddirprwyo nifer o swyddogaethau gweithredol i'r swyddogion priodol.

 

Rhagair

Mae cyfrifoldebau ac atebolrwydd Prifysgol Aberystwyth o safbwynt arferion cyflogaeth foesegol yn holl bwysig ac maent yn sail i'r holl bolisïau eraill cysylltiedig, ac yn dylanwadu arnynt. Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, deddfwriaeth Caethwasiaeth Fodern a diogelu gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban ymhlith y darnau o ddeddfwriaeth a'r polisïau sydd wedi llywio'r datganiad polisi hwn ac wedi dylanwadu arno. 

 

Nod y datganiad hwn yw cysylltu nifer o bolisïau a gweithdrefnau yn yr Adrannau Cyllid ac Adnoddau Dynol, gan ymdrin ag arferion cyflogaeth foesegol y Brifysgol yng nghyd-destun agweddau amrywiol ar ei gwaith, a’u cyflwyno.

 

Mae gweithdrefnau ar wahân mewn lle sy’n cwmpasu cydweithredu ym maes dysgu ac ymchwil, a threfniadau partneriaeth rhyngwladol/trefniadau rhyddfreinio. 

 

Gwerthoedd

  • Trawsnewidiol
  • Creadigol ac Arloesol
  • Cynhwysol
  • Uchelgeisiol
  • Cydweithredol


Daw'r gwerthoedd craidd uchod o'n Cynllun Strategol 2018-2023 ac rydym yn eu hymgorffori yn ein holl waith er mwyn sicrhau diwylliant moesegol i'n rhanddeiliaid. Mae cyfoeth yr amrywiaeth o ddiwylliannau, safbwyntiau a chefndiroedd ymhlith ein staff a'n myfyrwyr yn destun balchder i Brifysgol Aberystwyth. Mae bod yn agored, yn onest ac yn barchus yn werthoedd yr ydym yn eu cydnabod ymhlith ein staff.

 

Rhanddeiliaid


Staff: Ymrwymiad i sicrhau bod arferion cyflogaeth Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio â'r gyfraith ac â safonau moesegol, gan gydnabod llais y staff.

Cyflenwyr: Ymrwymiad i annog cyflenwyr i weithio i'r un safonau moesegol â Phrifysgol Aberystwyth, ac i'w gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.

Myfyrwyr a'r Gymuned yn Ehangach: Ymrwymiad i gyfleu gwerthoedd moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol fel bod cymuned y Brifysgol yn ymwybodol o egwyddorion a gweledigaeth Prifysgol Aberystwyth.

 

Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn tramgwyddo hawliau dynol sylfaenol. Mae iddi lawer ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, gweithio gorfodol a gweithio trwy orfodaeth, a masnachu mewn pobl. Yr hyn sy'n gyffredin rhyngddynt yw bod rhyddid unigolyn yn cael ei amddifadu gan unigolyn arall er mwyn ymelwa arnynt, a hynny er budd personol neu fasnachol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddeall risgiau caethwasiaeth fodern a sicrhau nad oes caethwasiaeth fodern yn rhan o fusnes y Brifysgol na'i chadwyni cyflenwi, yn unol â'r gofyn dan y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern (2015). Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl

Hyrwyddwr Gwrth-Gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol

Y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yw Hyrwyddwr Gwrth-Gaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol y Brifysgol.

 

Mae hyfforddiant Gwrth-Gaethwasiaeth ar gyfer staff yn cael ei gwmpasu yn yr hyfforddiant recriwtio a dethol a gynigir gan yr Adran AD.  

 

Rhoddir hyfforddiant ychwanegol i'r holl aelodau hynny o staff sydd â chyfrifoldebau pwrcasu yn rhan o'u swydd. Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu caethwasiaeth fodern a chaffael moesegol. Mae gan yr Adran Gyllid hefyd raglen i adolygu ei gweithdrefnau ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ateb y gofyn ac yn galluogi diwylliant o gydymffurfio. Mae hon yn rhaglen barhaus. Mae'r hyfforddiant hwn yn rhoi sylw penodol i Ganllawiau Caffael Llywodraeth Cymru

 

Caffael

Mae'r Brifysgol yn aelod o Gonsortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW). Mae'r Consortiwm yn gweithio'n effeithiol ochr yn ochr â'r consortia pwrcasu cyfatebol ar gyfer prifysgolion eraill y Deyrnas Unedig a grwpiau cenedlaethol. Mae mwyfwy o gyflenwyr masnachu moesegol Prifysgol Aberystwyth, yn y categorïau risg uwch o ran ystyriaethau'n ymwneud â chadwyni cyflenwi moesegol a chaethwasiaeth fodern, wedi ymrwymo i God Sylfaenol y Fenter Masnachu Moesegol (ETI) https://www.ethicaltrade.org/eti-base-code  ac mae Consortia Pwrcasu Prifysgolion y Deyrnas Unedig yn gweithio i sicrhau bod gweddill y cyflenwyr yn y categorïau hyn yn ymuno â hwy.

 

Seiliwyd Cod Sylfaen yr ETI ar gonfensiynau'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) ac mae'n god arferion llafur a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n mynnu:

 

  1. Bod cyflogaeth yn rhywbeth i'w ddewis yn rhydd;
  2. Y dylid parchu rhyddid i ymgysylltu a'r hawl i gydfargeinio;
  3. Bod amodau gwaith yn ddiogel a glanwaith;
  4. Na ddylid defnyddio plant i wneud gwaith;
  5. Y dylid talu cyflog byw;
  6. Nad yw oriau gwaith yn ormodol;
  7. Na ddylid gwahaniaethu ar unrhyw sail;
  8. Y dylid darparu gwaith rheolaidd;
  9. Na chaniateir triniaeth lem nac annynol;
  10. Bod polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol yn cael ei lunio;
  11. Bod polisi ysgrifenedig yn cael ei lunio i gefnogi'r sawl sy'n chwythu'r chwiban;
  12. Bod aelodaeth o undebau llafur yn cael ei chefnogi.

 

Mae'r Cod wedi'i lunio i sicrhau bod gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus yn cael eu cyflogi'n foesegol ac mewn modd sy'n cydymffurfio â chyfreithiau'r DU, yr UE a chyfraith ryngwladol, yn llythrennol ac o ran ysbryd. Wrth fabwysiadu'r Cod, rydym yn cytuno i gydymffurfio â 12 ymrwymiad a gynlluniwyd i ddileu caethwasiaeth fodern a chefnogi arferion cyflogaeth moesegol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o nifer o gytundebau pwrcasu cydweithredol yng nghyswllt cyfarpar TGCh. Trwy'r cytundebau pwrcasu cydweithredol hyn mae'r Brifysgol yn cefnogi egwyddorion Electronics Watch, sef mudiad monitro annibynnol sy'n gweithio i ennill parch i hawliau gweithwyr yn y diwydiant electronig byd-eang, trwy gyfrwng pwrcasu cyhoeddus sy'n gymdeithasol gyfrifol.

 

Pan ddefnyddir contractwyr allanol, mae'n ofynnol iddynt ddilyn y gweithdrefnau hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg a chyfartal.

 

Yn sgil y rhwymedigaeth i adrodd ar fesurau i sicrhau bod pob rhan o fusnes a chadwyn gyflenwi’r Brifysgol yn rhydd o gaethwasiaeth, rydym yn adolygu ein polisïau a'n gweithdrefnau sy'n ymwneud â'r gweithle yn rheolaidd er mwyn asesu pa mor effeithiol ydynt o ran canfod a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern. Mae polisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chadwyni cyflenwi moesegol hefyd yn cael ei ystyried gan y Brifysgol. Mae'r Adran Gyllid yn llunio datganiad blynyddol ysgrifenedig.  https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/corporateinformation/financeandprocurement/financeandprocurement-cymraeg/datganiad-caethwasiaeth-fodern-a-masnachu-pobl---cymraeg.pdf

Recriwtio a Chyflogi Staff

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod mai ei staff yw ei hadnodd pwysicaf a bod yn rhaid iddi, er mwyn cyflawni ei hamcanion strategol a gweithredol, ddenu a chadw pobl o’r ansawdd uchaf.  Er mwyn sicrhau dull effeithiol, effeithlon a chyson o ddenu a dethol staff (ac er mwyn cyflawni'r swyddogaethau eang a phenodol sy'n ofynnol, gan gydymffurfio ar yr un pryd â'r ddeddfwriaeth bresennol ym maes cyflogaeth a chydraddoldeb), mae'r fframwaith polisi yn cael ei adolygu ar y cyd â'r tri undeb llafur cydnabyddedig. Rhoddwyd hyfforddiant gorfodol ar waith hefyd i staff sy'n cyfrannu at y broses recriwtio. 

 

Cyflogir staff ar gontractau sy'n amrywio'n eang o ran eu telerau a'u hamodau er mwyn diwallu anghenion y sefydliad. Mae Prifysgol Aberystwyth yn mesur yr angen am hyblygrwydd, gan sicrhau ar yr un pryd bod staff yn cael eu cyflogi ar gontract mewn modd moesegol ac yn unol â'r safonau o ran cydraddoldeb. Pan fydd gofyn am sgiliau yn y tymor byr/sgiliau arbenigol, mae'n bosibl hefyd y defnyddir staff gan asiantaeth. Rhaid i reolwyr sy'n recriwtio sicrhau bod yr asiantaeth yn cydymffurfio â safonau'r Brifysgol fel y'u hamlinellir yn ein gweithdrefnau ariannol.  

 

Mae'n bosibl y bydd anghenion recriwtio eraill ar gyfer y tymor byr yn cael eu diwallu gan ddefnyddio contractau dim oriau, contractau dros dro neu gontractau cyfnod penodol.   Rhoddir canllawiau i reolwyr er mwyn sicrhau bod y math o gontract yn addas ar gyfer amgylchiadau'r angen i recriwtio.

 

Yr Adran AD sy'n arwain wrth recriwtio staff. Cynhelir asesiad o'r angen am asiantaeth gyflogi/hysbysebu fesul achos ac fe'u defnyddir fel arfer ar gyfer swyddi ar lefel uwch, swyddi arbenigol neu rai sy'n 'anodd i'w llenwi'. Mae'n ofynnol i bob asiantaeth recriwtio lynu at fframwaith polisi recriwtio perthnasol y Brifysgol, gan gynnwys yr ystod gyflog a bennir gan y Brifysgol ar sail gwerthusiad o'r swydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyflogi gan y Brifysgol ar delerau ac amodau cyflogaeth y Brifysgol.

 

Mae gan Brifysgol Aberystwyth raddfa gyflogau sy'n adlewyrchu cyflogau prifysgol/addysg uwch yn eu cyfanrwydd ac mae pob swydd yn cael ei hasesu yn unol â HERA (Dadansoddi Rolau Addysg Uwch) er mwyn sicrhau tâl cyfartal am waith o werth cyfartal. 

 

Mae'n bosibl y bydd y Brifysgol hefyd, o bryd i'w gilydd, yn defnyddio gwasanaethau pobl hunangyflogedig.

 

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi'i hachredu hefyd fel cyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol.

 

Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd

Polisi'r Brifysgol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, ond yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, y gofynion statudol a'r arferion gorau, yw sicrhau iechyd a diogelwch ei gweithwyr cyflogedig, ei myfyrwyr, contractwyr ac ymwelwyr sy'n dod i'r Brifysgol.

 

Mae Polisi Iechyd a Diogelwch Prifysgol Aberystwyth yn amlinellu ymrwymiad Cyngor a Grŵp Gweithredol y Brifysgol i weithredu'r polisi, i arwain yng nghyswllt iechyd a diogelwch, ac i sicrhau bod ystyriaeth a chefnogaeth briodol yn cael eu rhoi i ddarpariaethau iechyd a diogelwch, fel sy'n briodol.

 

Undebau Llafur

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi'r system o fargeinio ar y cyd ac yn credu yn egwyddor ceisio datrys problemau o ran y berthynas â staff trwy drafod a chytuno, lle bo modd. Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU), UNITE ac UNISON (yr Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus) yw'r Undebau Llafur a gydnabyddir.

 

Ymdrin â Phryderon

 

Staff - Y Polisi Chwythu'r Chwiban

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i’r safonau uchaf o ran bod yn agored, uniondeb ac atebolrwydd. Ei nod yw cynnal ei busnes mewn modd cyfrifol, gan gymryd i ystyriaeth ofynion y cyrff cyllido a’r safonau mewn bywyd cyhoeddus y manylir arnynt yn adroddiadau Pwyllgor Nolan, er enghraifft. Mae’r Brifysgol eisiau sicrhau bod unrhyw un sy’n datgelu drwgweithredu yn y gwaith yn gallu gwneud hynny heb ofni cosb.

 

Nid yw'r Brifysgol yn defnyddio cosbrestrau/rhestrau gwaharddedig ac mae'n ceisio sicrhau nad yw cyflenwyr, contractwyr na rhanddeiliaid y Brifysgol yn gwneud hynny ychwaith.

 

Myfyrwyr - Trefn Gwyno

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i sicrhau profiad addysgiadol o safon uchel i'w holl fyfyrwyr, wedi'i ategu gan wasanaethau ac adnoddau priodol yn academaidd, yn weinyddol ac i sicrhau lles. Credwn y dylai myfyrwyr gael yr hawl i fanteisio ar drefn effeithiol i ymdrin â chŵynion, y dylent deimlo y gallant wneud cwyn, a theimlo'n hyderus y caiff y gŵyn ei hymchwilio'n deg. Mae'r Gofrestrfa Academaidd yn amlinellu trefn gwyno deg a thryloyw ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/complaints/.

 

Dylai unrhyw gŵyn sy'n ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr gael ei chyfeirio'n uniongyrchol at yr undeb gan ei fod yn sefydliad annibynnol sydd â'i Drefn Gwyno ar wahân ei hun (sydd ar gael ar https://www.umaber.co.uk/);

 

Aelodau o'r cyhoedd, rhanddeiliaid a chontractwyr - Trefn Gwyno

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth a phrofiad o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid, aelodau o'r cyhoedd ac i'r sawl sydd â chontract â ni. Ymdrechwn i wneud ein holl waith mewn modd moesegol a phroffesiynol.

 

Serch hynny, efallai y ceir achlysuron prin pan fydd camgymeriad yn digwydd ac/neu pan fydd unigolion yn teimlo nad yw'r Brifysgol wedi cwrdd â'u disgwyliadau. Dan amgylchiadau o'r fath, anogir unigolion i roi adborth neu gallant gyflwyno cwyn.  

 

Gall unigolion grybwyll eu pryderon gan ddefnyddio Trefn Gwyno'r Brifysgol sydd ar gael ar https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/complaints/. Neu gellir anfon ebost at  ysgrifennydd@aber.ac.uk yn amlinellu unrhyw broblemau.

 

 

Cwestiynau

Os oes gan sefydliad neu unigolyn gwestiynau am y datganiad polisi hwn, neu bryderon ynghylch y modd y cafodd ei roi ar waith, gallant hefyd gysylltu â'r Brifysgol ar 01970 622002 neu trwy ebost ar is-ganghellor@aber.ac.uk.

 

 

Adolygu’r Polisi

Mae Prifysgol Aberystwyth yn adolygu ei pholisïau yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac â'r arfer da. Gwneir hyn yn unol â'r hyn y cytunwyd arno â'n hundebau llafur cydnabyddedig. Cymeradwywyd y datganiad polisi hwn gan Gyngor y Brifysgol. Bydd unrhyw newidiadau a gynigir hefyd yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor perthnasol priodol, i Weithrediaeth y Brifysgol ac i'r Cyngor.

 

 

 

Atodiad 1 - Rhagor o wybodaeth neu ddogfennau ategol.

Adran 1

Cyfeiriwyd at y gwefannau isod er mwyn ategu’r datganiad polisi hwn:-

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/corporate-information/finance-procurement/

 

  1. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/arferion-cyflogaeth-moesegol-yng-nghadwyni-cyflenwir-sector-cyhoeddus-nodyn-cyngor-caffael-pan-ar-gyfer-y-sector-cyhoeddus-yng-nghymru.pdf

 

  1. https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/finance/pdf/Rheoliadau-Ariannol---Tachwedd-2019.pdf

 

  1. https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/humanresources/aberpoliciesprocedures/Recruitment-and-Selection---Welsh-17-May-2021-web.pdf

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/finance/information-for-staff/procurement/

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/whistleblowing/

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/hse/documents/

 

  1. https://www.ethicaltrade.org/eti-base-code

 

  1. https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/corporateinformation/financeandprocurement/financeandprocurement-cymraeg/datganiad-caethwasiaeth-fodern-a-masnachu-pobl---cymraeg.pdf

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/complaints/.

 

Adran 2

Ystyriwyd y gwefannau isod wrth lunio'r datganiad polisi hwn:-

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/finance/regs-procedure/

 

  1. https://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/au-and-bu/ccs/

 

  1. https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-11/cyflogaeth-foesegol-mewn-cadwyni-cyflenwi-cod-ymarfer-arweiniad-hyfforddiant.pdf

 

  1. https://www.ethicaltrade.org/sites/default/files/shared_resources/ETI%20Base%20Code%20%28English%29_0.pdf

 

 

 

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Chwefror 2022

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Chwefror 2024