Gwaith Aber - Gwybodaeth i Staff

Rhagarweiniad
Hysbysebu eich swydd GwaithAber
Rheoli eich swydd GwaithAber
Gwneud newidiadau i'ch swydd GwaithAber
Cyflogi myfyrwyr ar gynllun GwaithAber
Talu myfyrwyr ar GwaithAber

Rhagarweiniad

Cynllun ar gyfer cyflogi myfyrwyr mewn gwahanol feysydd yn y Brifysgol yw GwaithAber. Cyn cael hawl mynediad i'r porth swyddi, rhaid i fyfyrwyr gofrestru’n gyntaf ar gynllun GwaithAber. 

Mae GwaithAber yn agored ac mae croeso i bob adran hysbysebu swyddi gweigion i'n cymuned myfyrwyr. Ar y dudalen hon, byddwn yn esbonio sut y gallwch ddefnyddio GwaithAber.

Hysbysebu eich swydd GwaithAber

I hysbysebu swydd, mae angen i chi lenwi templed hysbyseb GwaithAber (Templed Hysbesbu GwaithAber) a'i anfon i AD@aber.ac.uk. Cofiwch y byddwn angen y swydd ddisgrifiad yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os nad ydych yn gallu cyfieithu'r disgrifiad swydd, byddem yn hapus i ofyn am gyfieithiad ar eich rhan, ond cofiwch y gallai hyn greu oedi cyn hysbysebu’r swydd.

Os yw eich swydd ddisgrifiad eisoes wedi'i gyfieithu, byddwn yn cyhoeddi'r swydd ar borth GwaithAber o fewn 2-3 diwrnod gwaith ar ôl cael eich e-bost.

Nid oes cyfyngiad amser i’r hysbysebion ac rydym yn barod i hysbysebu eich swydd cyhyd ag y bo angen.

Sylwch mai uchafswm yr oriau ar gyfer swyddi i’w hysbysebu gennym yw 15 awr yr wythnos yn ystod y tymor a hyd at 36.5 yn ystod y gwyliau. Bydd myfyrwyr ar fisa haen 4 yn cael eu cyfyngu o ran nifer yr oriau y gallant weithio ac mae'r oriau hynny'n newidiol.

Rheoli eich swydd GwaithAber

Mae gan bob gweinyddwr adrannol neu Reolwr Swyddfa hawl mynediad i GwaithAber a byddant yn gallu gweld ac ymestyn hysbyseb eich swydd. Os nad yw hyn yn bosib i chi, croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol a byddem yn hapus i helpu. 

Os oes gan eich adran hawl mynediad i’r cynllun gallwch weld y porth at GwaithAber (yn: https://myhr.aber.ac.uk/othl/f?p=100:10:14914929117120) a gweld rhestr y swyddi ar gyfer eich adran. Os cliciwch ar y bensel felen ar y chwith nesaf at y swydd byddwch yn gallu gweld pob ymgeisydd.  

Gwneud newidiadau i'ch swydd GwaithAber

Dydyn ni ddim yn argymell i adrannau wneud newidiadau i hysbysebion swydd sy’n fyw. Fe allwn ni wneud hynny ar eich rhan. Os anfonwch e-bost atom: ad@aber.ac.uk fe broseswn eich cais.

Cyflogi myfyrwyr ar gynllun GwaithAber

I weld pwy sydd wedi gwneud cais am eich swydd wag, bydd angen mewngofnodi i'r porth a chlicio’ch ffordd trwodd at eich swydd. Tua gwaelod y dudalen fe welwch yr holl ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais am eich swydd a gallwch dderbyn neu wrthod ymgeiswyr gan ddefnyddio'r nodweddion toglo.

Yr adrannau eu hunain sy’n barnu a oes angen cynnal cyfweliadau ai peidio. Peidiwch â derbyn neu wrthod ymgeiswyr tan ar ôl i chi eu cyfweld, peidiwch â gwneud hynny cyn cynnal cyfweliad. 

Talu myfyrwyr ar GwaithAber

Mae myfyrwyr GwaithAber yn cael eu talu trwy drefn taflenni amser. Bydd angen nodi eu horiau gwaith ar y taflenni amser, a chofiwch fod myfyrwyr yn cael eu talu yn ôl-ddyledus, sy’n golygu y bydd gwaith a wnaed ym mis A yn cael ei dalu ar ddiwedd Mis B. Yn draddodiadol, y dyddiad cau i gyflwyno oriau a weithiwyd yn ystod mis A yw wythnos gyntaf mis B.