Mae staff Gradd 6 ac uwch yn gymwys, o’r adeg pan ddechreuant ar eu cyflogaeth, i ymuno â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS), y cynllun pensiwn galwedigaethol a ddarperir gan y Brifysgol.
Bydd gweithwyr Gradd 6 ac uwch yn cael eu cofrestru ar gyfer USS yn unol â’u contract:
- Os oes ganddynt gontract cyflogaeth am 3 mis neu fwy
- Os ydynt rhwng 18 a 65 oed
- Os yw eu henillion blynyddol yn fwy na £5,876.
Os yw'r gweithiwr yn bodloni'r meini prawf uchod, byddant yn cael eu hystyried yn awtomatig yn aelod o USS o ddyddiad cychwyn eu contract a bydd cyfraniadau'n cael eu didynnu yn unol â hynny.
Gall y gweithiwr ddewis peidio â bod yn rhan o USS drwy ofyn am Ffurflen Eithrio gan is-adran Cyflogres a Phensiynau yr adran Adnoddau Dynol.
Gofynnir i aelodau o staff sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â'r is-adran Cyflogres a Phensiynau ar estyniadau 2033 / 8706 neu drwy e-bost: pensions@aber.ac.uk
Mae gwybodaeth ar gael hefyd o wefan USS: www.uss.co.uk