Safonau'r Iaith Gymraeg a Chefnogaeth

A0

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Nid wyf yn medru siarad Cymraeg o gwbl.

Ysgrifennu

Nid wyf yn medru ysgrifennu Cymraeg o gwbl.

A1

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu :

  • rhyngweithio mewn ffordd syml ar yr amod bod y person arall yn barod i siarad yn araf, ailadrodd neu aralleirio pethau, ynghyd â bod yn barod i’m helpu.
  • defnyddio ymadroddion a brawddegau syml e.e. cyflwyno fy hunan neu berson arall,
  • gofyn ac ateb cwestiynau cyfarwydd e.e. ‘Ble dych chi’n byw?’

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu neges fer syml ar ffurf e‑bost neu nodyn, gan gynnwys yr amser, y dyddiad a’r lleoliad.
  • llenwi ffurflenni â’m manylion personol, e.e. enw, cyfeiriad a rhif ffôn.

A2

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu:

  • siarad mewn iaith syml ar bynciau cyfarwydd.
  • cymryd rhan mewn sgyrsiau cymdeithasol byr iawn, hyd yn oed er nad ydwyf fi, fel arfer, yn gallu cadw’r sgwrs i fynd ohoni’i hunan.
  • defnyddio cyfres o ymadroddion i ddisgrifio ac ateb cwestiynau am fy nheulu a phobl eraill, y tywydd.
  • trosglwyddo cyfarwyddiadau neu negeseuon ffôn syml.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu nodiadau syml byr,gan gysylltu brawddegau syml â chysyllteiriau syml fel ‘a’, ‘ond’ ac ‘oherwydd’.
  • ysgrifennu llythyr neu e-bost syml iawn, e.e. yn diolch i rywun am wneud rhywbeth.

B1

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu:

  • manteisio ar ystod eang o iaith syml i ddelio â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy’n debygol o godi yn fy ngwaith.
  • deall ystyr gyffredinol e‑byst a llythyrau yn ymwneud â’m maes diddordeb, ynghyd â llythyrau damcaniaethol o fewn cwmpas fy ngwaith.
  • dechrau sgwrsio’n fyrfyfyr ar bynciau sy’n gyfarwydd imi, e.e. teulu, diddordebau, gwaith, teithio a digwyddiadau cyfredol.
  • cynnig cyngor ar faterion syml, i gleientiaid o fewn cwmpas fy ngwaith.
  • disgrifio profiadau a digwyddiadau,  gobeithion ac uchelgeisiau.
  • rhoi rhesymau ac esboniadau am fy marnau a’m cynlluniau, yn gwta. 

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • cymryd nodiadau gweddol gywir mewn cyfarfodydd neu seminarau lle mae’r pwnc yn un cyfarwydd ac yn rhagweladwy.
  •  ysgrifennu llythyrau neu e‑byst yn disgrifio digwyddiadau, profiadau ac argraffiadau
  • ysgrifennu memoranda neu e-byst anffurfiol i gyflwyno gwybodaeth.

 

B2

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu :

  • gwrando ar, deall a chyfrannu at drafodaethau mewn cyfarfodydd a seminarau.
  • cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau o fewn cyd‑destunau cyfarwydd.
  • mynegi barn yn glir.
  • cyflwyno disgrifiadau manwl a chlir ar ystod eang o bynciau yn ymwneud â’m gwaith ,
  • ehangu a chefnogi syniadau â phwyntiau atodol ac enghreifftiau perthnasol.
  • egluro safbwynt ar bwnc cyfoes gan roi manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau.
  • rhoi cyflwyniad clir ar bynciau cyfarwydd.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu darnau byr o ohebiaeth fusnes, ar ffurf llythyr neu e‑bost, ar ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â’m gwaith neu fy maes diddordeb, a hynny mewn Cymraeg safonol heb ddefnyddio templed (ond gan ddefnyddio gwirydd sillafu, geiriadur, adnoddau technegol a.y.b. pan fo angen).
  • cymryd nodiadau neu ysgrifennu adroddiadau, gan drosglwyddo gwybodaeth neu roi rhesymau o blaid neu yn erbyn safbwynt arbennig.

 

C1

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu:

  • mynegi fy hunan yn rhugl ac yn ddigymell.
  •  defnyddio iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol a phroffesiynol, gan gyfrannu’n hyderus at gyfarfodydd a chyflwyniadau ar lafar.
  • ffurfio syniadau a barnau, gan sicrhau bod fy nghyfraniadau’n berthnasol i siaradwyr eraill.
  • ymateb yn briodol i sefyllfaoedd diwylliannol a chymdeithasol gwahanol.
  • cyflwyno disgrifiadau clir a manwl o bynciau cymhleth gan gyflwyno is-themâu, gan ddatblygu pwyntiau penodol, ynghyd â chloi’r cyflwyniad â chasgliad priodol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n glir, ynghyd â mynegi safbwyntiau am gyfnod hir.
  • ysgrifennu esboniadau manwl ar bynciau cymhleth ar ffurf e-bost, llythyr, traethawd neu adroddiad, gan danlinellu’r materion perthnasol.
  • ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy’n briodol i’r gynulleidfa sydd mewn golwg.

C2

Siarad (rhyngweithio a chynhyrchu)

Rwy’n gallu:

  • deall adroddiadau ac erthyglau yr wyf yn dod ar eu traws yn fy ngwaith, gan gynnwys syniadau cymhleth wedi’u mynegi mewn iaith gymhleth. 
  • cymryd rhan yn ddiymdrech mewn trafodaeth. 
  • mynegi fy hunan yn rhugl a chyfleu arlliwiau ystyr yn gywir.
  • addasu ac ailstrwythuro fy nghyfraniad wrth imi gwrdd ag unrhyw anhawster a wynebir, mor esmwyth fel braidd nad yw pobl eraill yn ymwybodol ohono.
  • cynghori ar faterion cymhleth, anodd a chynhennus megis materion cyfreithiol neu ariannol, i’r graddau y mae fy ngwybodaeth arbenigol yn ymestyn.
  • cyflwyno disgrifiadau neu ddadleuon yn dda, yn llyfn ac yn glir, yn y cywair sy’n briodol i’r cyd-destun, ac sydd â strwythur rhesymegol ac effeithiol sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n gwrando ar y pwyntiau arwyddocaol.

Ysgrifennu

Rwy’n gallu:

  • cymryd nodiadau llawn a chywir a pharhau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a seminarau.
  • ysgrifennu testunau wedi’u strwythuro’n dda ac yn llyfn ac yn y cywair priodol.
  • ysgrifennu adroddiadau neu erthyglau technegol gymhleth strwythuredig sy’n helpu i dynnu sylw’r sawl sy’n darllen, at y pwyntiau arwyddocaol.
  • ysgrifennu adolygiadau o weithiau proffesiynol a/neu rai llenyddol.

Canllaw Staff i Lefelau Iaith Gymraeg

Canllaw Staff i Lefelau Iaith Gymraeg

Cyflwyniad

Mae’r lefelau Iaith Gymraeg diwygiedig hyn yn disodli’r system bresennol o safonau a lefelau’r Gymraeg. Yn y tabl isod mae’r lefelau newydd wedi’u mapio yn erbyn y lefelau a’r safonau blaenorol er mwyn  cymharu â’r system flaenorol.

Defnyddir y Lefelau Iaith Gymraeg diwygiedig ar gyfer cofnodi sgiliau iaith Gymraeg staff (h.y. 'cymhwysedd' ar system PoblAberPeople) ac fe’u defnyddir hefyd ar gyfer disgrifio gofynion iaith Gymraeg mewn swyddi.

Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR)

Mae’r lefelau a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yn cyfateb i’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR) ac fe’i defnyddir yn eang yn Ewrop a hefyd ar gyfandiroedd eraill, ac mae ar gael mewn dros 40 o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.   Mapiwyd cymwysterau Cymraeg i Oedolion i’r Fframwaith yn 2014.

Mae CEFR yn disgrifio hyfedredd iaith ar chwe lefel: A1 ac A2, B1 a B2, C1 ac C2.  Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ychwanegu seithfed lefel: A0 i ddynodi’r gofyniad ‘y gallu i ddeall natur ddwyieithog y Brifysgol ac ymwybyddiaeth o’r trefniadau sydd mewn lle i gefnogi gweithio yn ddwyieithog’.

Cofnodi sgiliau iaith Gymraeg staff

Disgwylir i staff hunan-asesu eu sgiliau iaith Gymraeg gan ddefnyddio’r datganiadau ‘gallu gwneud’ isod. Sgiliau siarad (rhyngweithio a chynhyrchu) a sgiliau ysgrifennu yn unig a asesir. Mae yn bosibl cofnodi lefelau gwahanol ar gyfer y ddwy sgil e.e. gall siaradwr rhugl yn y Gymraeg nad yw’n hyderus wrth ysgrifennu yn Gymraeg nodi hynny drwy ddewis un lefel ar gyfer  gallu llafar a lefel is ar gyfer  gallu ysgrifenedig. Bydd y lefelau iaith a gofnodwyd eisoes gan aelodau o staff  ar PoblAberPeople yn cael eu trosglwyddo i'r lefelau diwygiedig. Gall staff gael mynediad i’w cofnodion er mwyn gwirio a diwygio eu lefelau iaith os bydd angen.

Defnyddio gofynion iaith Gymraeg mewn hysbysebion swyddi

Dylid defnyddio lefel A0 yn yr achosion  y penderfynwyd nad oes angen sgiliau iaith Gymraeg.  Dylai unrhyw swydd blaen y tŷ  sydd mewn cyswllt cyson â'r cyhoedd fel y'i diffinnir gan y Cynllun Iaith Gymraeg fod o fewn yr ystod A1 i C2.  (Ar gyfer swyddi academaidd gweler isod)

Mae'r "cyhoedd" yn cyfeirio at fyfyrwyr cyfredol, staff, darpar fyfyrwyr yn Nghymru a'r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru.

Os yw swydd academaidd ar gyfer dysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig fe ddylai’r swydd fod ar lefel A0.

Os yw swydd academaidd yn cynnwys dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fe ddylai’r swydd fod ar lefel  C2.

Mewn achosion lle mae angen siaradwr rhugl yn y Gymraeg  awgrymir y dylai lefel C2 fod yn ofyniad ar gyfer swyddi academaidd a swyddi gradd 6 ac uwch. Fel arall gall lefel C1 fod yn fwy addas.

Os nad oes angen sgiliau ysgrifennu mae yn bosib gofyn am sgiliau llafar yn unig.  

Dylai swyddi sydd angen sgiliau iaith Gymraeg ar lefel A1 i B1 gynnwys cymal i’r perwyl fod pobl sy’n fodlon dysgu i’r lefel hwn hefyd yn gallu gwneud cais.  Wrth asesu ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg yn erbyn ymgeiswyr di-Gymraeg sy’n fodlon dysgu’r iaith, dylid defnyddio’r canllaw sgorio canlynol :

  • 4 Wedi darparu tystiolaeth o fod wedi defnyddio’r Gymraeg yn helaeth e.e. yn y gweithle
  • 3 Yn meddu ar y lefel iaith Gymraeg
  • 2 Wedi darparu tystiolaeth o barodrwydd i gyrraedd y lefel iaith Gymraeg
  • 1 Heb ddarparu tystiolaeth ddigonol
  • 0 Heb ddarparu tystiolaeth o gwbl

Er mwyn i ymgeiswyr sylweddoli fod angen iddynt ddarparu tystiolaeth o’u parodrwydd i ddysgu Cymraeg, os nad ydynt yn medru’r iaith yn barod, argymhelllir defnyddio’r frawddeg ganlynol mewn disgrifiadau swydd :

Y gallu i weithredu ar Lefel A1/A2/B1 neu dystiolaeth i ddangos ymrwymiad parhaol i ddysgu’r Gymraeg i’r lefel hwn.

Y Datganiadau ‘Gallu Gwneud’

Mae’r datganiadau ‘gallu gwneud’ yn ddisgrifiadau a ddefnyddir gan staff ar gyfer hunan-asesu a gall darpar ymgeiswyr am swyddi eu defnyddio hefyd fel cymorth iddynt benderfynu a ydynt yn meddu ar y sgiliau iaith Gymraeg angenrheidiol ai peidio.  Defnyddir y datganiadau hefyd fel canllaw i benderfynu ar lefel y sgiliau iaith Gymraeg sydd ei hangen ar gyfer swydd benodol.

Sut i ddiweddaru eich Lefelau Cymraeg ar ABW

Sut i ddiweddaru eich Lefelau Cymraeg ar ABW

I Ddiweddaru Lefel Iaith Gymraeg:

  1. Mewngofnodwch i PoblAberPeople trwy fynd i abw.aber.ac.uk neu myhr.aber.ac.uk.
  2. Cliciwch ar “Personél”
  3. Yna cliciwch ar “Cymhwysedd”. Bydd hyn yn mynd â chi i’ch cofnod cymhwysedd. Dewiswch naill ai Oral Welsh Language Skill neu Written Welsh Language Skill o’r gwymplen a amlygwyd mewn piws.
  4. Trwy glicio ar y maes hwn bydd y lefel sydd wedi’i chofnodi eisoes yn ymddangos fel y dangosir isod.
    Bydd gennych dri dewis wedyn:
    • Newid y lefel sydd eisoes wedi’i chofnodi.
    • Dileu’r lefel sydd wedi’i chofnodi.
    • Ychwanegu lefel newydd.
  5. Os oes arnoch angen cymorth i wybod ar ba lefel yr ydych yn gallu cyfathrebu defnyddiwch y
    wybodaeth ddefnyddiol ‘Rwy’n gallu...’

Hyfforddiant Cymraeg i Staff

Hyfforddiant Cymraeg i Staff

Pa gyrsiau sydd ar gael i Staff Prifysgol Aberystwyth?

Mae Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau amrywiol i ddysgwyr i gwblhau 120 awr o oriau ar bob lefel.
Mae modd dilyn cyrsiau yn ystod y dydd neu fin nos, drwy ddosbarth rhithiol ar lein, dosbarth wyneb yn wyneb neu gwrs cyfunol.

Ceir manylion llawn y rhaglen ar Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr | Dysgu Cymraeg

Dyma rhai o’r cyrsiau sydd ar gael i staff y Brifysgol:

Cyrsiau Cymraeg yn y Gymuned

  • Cwrs Haf Dwys am 4 wythnos
  • Cyrsiau 4 awr yr wythnos dros 30 wythnos mewn un flwyddyn
  • Cyrsiau 3 awr yr wythnos dros 40 wythnos mewn un flwyddyn ac yn ystod tymor ysgol.
  • Cyrsiau 2 awr y flwyddyn dros 60 wythnos mewn dwy flynedd

Cyrsiau ‘Cymraeg Gwaith’

Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Bydd staff y Brifysgol yn mynychu’r cyrsiau yn ystod oriau gwaith, ac yn  gyffredinol golyga hyn 2 awr o hyfforddiant, ac awr a hanner o waith cartref yn wythnosol er mwyn cwblhau’r 120awr sef un lefel gyfan. Fel rhan o’r cynllun ceir hefyd gyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad a Sylfaen sy'n rhoi opsiwn hyblyg i staff weithio ar unedau ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw, gyda tharged o gwblhau 120 awr mewn blwyddyn. Mae modd cofrestru ar gyfer cyrsiau Cymraeg Gwaith ym mis Ebrill. Am fanylion pellach cysylltwch ag Olwen Morus Olm25@aber.ac.uk

Cyrsiau Blasu Byr ar-lein (5awr)

Mae cyrsiau blasu byr Cymraeg Gwaith ar-lein hefyd ar gael i staff yn ogystal â chyrsiau gloywi byr. Cofrestrwch yma https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyrsiau-cymraeg-gwaith/cyrsiau-blasu-ar-lein/.      

Beth yw cost cyrsiau Cymraeg i staff y Brifysgol?

Mae gan y Brifysgol drefn o dalu am ffioedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg. Noder hefyd fod pobl ifanc 18-25 oed yn gallu cofrestru ar gyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim fel rhan o Gynllun Llywodraeth Cymru a Chanolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg. Ceir manylion pellach a’r ffurflen ffioedd ar wefan Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Os am sgwrs am gyrsiau Cymraeg neu fanylion pellach cysylltwch â Lowri Jones, lwj@aber.ac.uk   

Faint o amser mae’n cymryd i ddysgu Cymraeg?

Mae’r tabl isod yn crynhoi manylion lefelau’r pump cwrs Dysgu Cymraeg (Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi) ynghyd â’r isafswm oriau cyswllt a argymhellir e.e. disgwylir y bydd angen o leiaf 120awr ar ddysgwr cwbl newydd i gwblhau lefel mynediad (i lefel A1). Ar gyfer staff ag ychydig o Gymraeg yn barod (e.e. ar lefel A1), byddai’n golygu o leiaf 240awr o gyswllt i gwblhau lefel Canolradd (i lefel B1). Mae’r union nifer yr oriau yn dibynnu ar gynnydd yr unigolyn, ac fel arfer mae’r dysgwyr mwyaf llwyddiannus hefyd yn cwblhau oriau dysgu ychwanegol, er enghraifft drwy gyrsiau adolygu.

Enw’r Lefel Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Disgrifiad

Lefel dysgu Fframwaith Cyngor Ewrop

Isafswm oriau  cyswllt a argymhellir

Mynediad

Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.

A1

120

Sylfaen

Mae’r lefel hon yn adeiladu ar lefel Mynediad  ac yn gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Mae’r prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.

A2

120

Canolradd

Mae’r lefel hon yn adeiladu ar lefel Sylfaen ac    yn addas ar gyfer pobl sy’n gyfarwydd â phrif  batrymau’r Gymraeg. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus wrth drafod materion pob dydd yw’r prif nod.

B1

120

Uwch

Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus yw’r  prif nod.

B2

360*

Gloywi

Mae’r cyrsiau Hyfedredd, sy’n addas ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf, yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y dosbarth. Y nod cyffredinol yw datblygu sgiliau presennol y myfyrwyr ymhellach a’u helpu i fagu hyder.

 

 


Canolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
https://learnwelsh.cymru/media/10645/ad-blyn-2020-darllen-spreads.pdf

* Mae tri cwrs ar lefel Uwch – U1, U2 a U3 (120 awr yr un)

Am fanylion ynglŷn â chyrsiau Cymraeg ac adnoddau i’ch helpu gyda’r Gymraeg ewch i wefan Croeso | Dysgu Cymraeg

Sesiynau Cymraeg anffurfiol i staff (Sesiynau Sgwsio)