Cynllun Cyfraniad Effeithiol (CCE)
Y Cynllun Cyfraniad Effeithiol yw:
Broses newydd a symlach ar gyfer rheoli perfformiad. Yn gryno, mae'r Cynllun Cyfraniad Effeithiol yn golygu:
- Un cyfarfod - unwaith y flwyddyn
- Cyfuno'r 3 elfen i'r staff Academaidd: sef WAMM, PeRP ac SDPR fel y bydd y drafodaeth am ansawdd ac effaith hefyd yn cael ei chyfuno.
- Hwyluso trafodaethau am ddisgwyliadau a hyblygrwydd y rôl
- Cyfuno'r sgwrs am y rôl a datblygu gyrfaol - yn enwedig o ran FfRhY 2020 a chyfraniad y staff i gyd tuag at eu hadran / eu Hathrofa a'r Brifysgol.
- Llwybr i ddiffinio Compact y Cyfnod Prawf i staff newydd - does dim angen ffurflenni gwahanol ychwanegol.
Nod y Cynllun hwn yw hwyluso trafodaethau er mwyn i'r holl aelodau o staff allu sicrhau bod eu cyfraniad unigol o'r ansawdd orau posib ac yn cael cymaint o effaith â phosib, ac ar yr un pryd yn rhoi ystyriaeth i'w hanghenion hyfforddi ac yn rhoi cymorth priodol i ddatblygu staff fel y byddant yn gallu cyflawni eu rôl a rheoli eu llwyth gwaith.
Yn ystod cyfarfod y Cynllun dylid cysylltu'r nodau personol a'r anghenion hyfforddi yn glir â'r nodau ac amcanion yng nghyflwyniad yr Adran/Athrofa i'r cylch Cynllunio a Chyllidebol ac â thri amcan creiddiol y Brifysgol; sef Denu Myfyrwyr, Enw Da a Chynnal y Dyfodol.
Bydd y Cynllun Cyfraniad Effeithiol yn galluogi'r trafodaethau hyn. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i staff i ystyried materion iechyd a lles, a chydbwysedd bywyd a gwaith.
Bydd y cynllun cyfunol hwn hefyd yn lleihau'r baich gweinyddol ar reolwyr a staff.
Er mai ar y staff academaidd yn unig y bydd cyfuno'r SDPR, PeRP ac WAMM yn effeithio, fe fydd y drefn Datblygu Staff ac Adolygu Perfformiad i'r staff cymorth proffesiynol hefyd yn cael ei hailenwi'n Gynllun Cyfraniad Effeithiol, gan ganolbwyntio ar eu cyfraniad at waith eu Hadran a'r Brifysgol.
Mae'n ofynnol i bob aelod o staff ymgymryd â'u ECS yn electronig trwy https://myhr.aber.ac.uk
Trosolwg o'r Cynllun Cyfraniad Effeithiol
Am arweiniad defnyddio'r system ar-lein y Cynllun Cyfrannu Effeithiol i'r ymgeisydd, cliciwch ar Ffurflen Cynllun Cyfraniad Effeithiol (.doc)
Ffurflen CCE ar gyfer staff anacademaidd Graddau 1-5
Cynllun Cyfraniad Effeithiol- Staff Anacademaidd