Cynlluniau a Arweinir gan Weithwyr

Ar y dudalen yma fe welwch rai o'n cynlluniau a arweinir gan weithwyr gyda'u canllawiau cysylltiedig a'r ddolen ar gyfer y ffurflen gais. Os na allwch ddod o hyd i'r polisi neu weithdrefn sydd ei angen arnoch, cysylltwch â hr@aber.ac.uk am gymorth. 
 
Gallwch gyflwyno cais am newid oriau, seibiant gyrfa neu brynu gwyliau blynyddol trwy lenwi ffurflen gais sydd i'w ar gael yma: Ffurflen Gais 
 
Am unrhyw ymholiadau yn ymwneud ag Ymddeoliad Hyblyg, cysylltwch ag AD. 

Prynu Gwyliau Blynyddol Ychwanegol

Rhagarweiniad 
Cymhwyster
Ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol 
Talu am wyliau blynyddol ychwanegol 
Cyfrifo cost diwrnod o wyliau 
Ystyriaethau Cyffredinol 
Adolygu’r Polisi
Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb 

1.0  Rhagarweiniad

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr i gael cydbwysedd iach rhwng eu gwaith a’u bywydau personol drwy fframwaith polisi sydd wedi’i gynllunio ar gyfer cefnogi dewisiadau bywyd. Mae’r polisi hwn yn ddatblygiad o ddarpariaeth bresennol sy’n ymwneud â:-

  • Mamolaeth
  • Tadolaeth
  • Absenoldeb Rhiant a rennir
  • Mabwysiadu
  • Polisi Absenoldeb Di-dâl
  • Polisi Seibiant Gyrfa
  • Amser i Ffwrdd ar gyfer Dibynyddion
  • Amser i Ffwrdd ar gyfer Dyletswyddau Cyhoeddus
  • Polisi Gweithio’n Hyblyg
  • Polisi Amser Hyblyg

2.0  Cymhwyster

2.1 Mae’r budd hwn o allu prynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn berthnasol i aelodau staff Prifysgol Aberystwyth, ac eithrio’r canlynol:

  • Gweithwyr ar gontract tymor penodol neu dros dro am lai na 12 mis.
  • Gweithwyr sydd ar gontractau nad ydynt yn cynnwys oriau sefydlog neu sy’n oriau annodweddiadol.
  • Gweithwyr a gyflogir yn uniongyrchol gan is-gwmnïau’r Brifysgol.

2.2 Rhaid i weithiwr ddangos ei fod yn bwriadu defnyddio’r holl wyliau blynyddol a nodir yn y contract yn ogystal â’r gwyliau ychwanegol yn ystod y flwyddyn wyliau. Rhaid i weithiwr sy’n prynu gwyliau blynyddol ychwanegol sicrhau bod y gwyliau yn cael eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. Ni ddarperir ar gyfer trosglwyddo gwyliau blynyddol ychwanegol a brynir i flwyddyn arall, ac eithrio’r achosion a ddiffinnir yn Adran 6.2.

3.0 Ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol

3.1 Bydd ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu hystyried yn ystod mis cyntaf pob blwyddyn wyliau, hynny yw, ym mis Ionawr.

Bydd gan Diprwy Is-Ganghellor Cyfadran a Phenaethiaid Gwasanaethau Proffesiynol ryddid i ystyried ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn ystod y flwyddyn os bydd amgylchiadau gweithiwr yn newid.

3.2 Gall gweithiwr holi am uchafswm o 36.5 awr o gwyliau ychwanegol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser, hynny yw, bydd pob awr y gwneir cais amdano yn cael ei drosglwyddo yn unol â’r amserlen waith) ym mhob blwyddyn wyliau. Mae’r flwyddyn wyliau yn rhedeg o Ionawr 1af hyd at Ragfyr 31ain.

3.3 Bydd pob cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei ystyried gan Dirprwy IsGanghellor Cyfadran neu Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol, gan ystyried anghenion gweithredu’r Adran/Athrofa. Lle bo hynny’n bosibl, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais drwy ABW.

Bydd yr ymateb i’r cais fel a ganlyn: 

  • Cymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd
  • Cymeradwyo rhan o’r cais
  • Gwrthod

Lle nad yw’n bosibl i gymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd, rhoddir ymateb ysgrifenedig yn nodi’r rheswm dros hynny. 

  • Os bydd y cais am wyliau yn cael ei wrthod, ni fydd hawl apelio dan y polisi hwn.
  • Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo gan y rheolwr priodol, efallai na fydd hi’n bosibl i ddiddymu’r gwyliau sydd eisoes wedi’u prynu yn ystod y flwyddyn wyliau.
  • Bydd manylion gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael eu diweddaru ar ABW.

4.0 Talu am wyliau blynyddol ychwanegol

4.1 Bydd y diwrnod(au) ychwanegol o wyliau blynyddol yn cael eu talu drwy un o’r dulliau isod:

  • Tynnu un cyfandaliad o’r cyflog cyn cymryd y gwyliau ychwanegol;
  • Tynnu taliad o’r cyflog dros uchafswm o 6 mis dilynol, gan ddechrau ym mis Chwefror y flwyddyn honno. (D.S. ar gyfer ceisiadau a gyflwynir yng Ngorffennaf 2015 bydd y taliadau yn cael eu tynnu rhwng Awst a Rhagfyr 2015).
  • Bydd y gweithiwr yn cwblhau’r mandad sy’n ofynnol ar gyfer tynnu’r taliad wrth gyflwyno’r cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.

5.0 Cyfrifo cost diwrnod o wyliau

5.1 Ar gyfer y rhan fwyaf o staff amser llawn, bydd diwrnod o wyliau yn cael ei gyfrif ar sail:

Cyflog blynyddol / 365 (7 diwrnod x 52 wythnos) =

Enghraifft:

£18,031 / 365 = £49.40

5.2 Os yw staff yn gweithio’n rhan-amser neu’n gweithio oriau amrywiol ar bob diwrnod gwaith, neu’n gweithio yn ystod y tymor yn unig, dylent ymgynghori ag adran Gyflogres Prifysgol Aberystwyth i sicrhau’r cyfrifiad cywir ar dâl awr neu ddiwrnod.

6.0 Ystyriaethau Cyffredinol

6.1 Bydd y gwyliau ychwanegol a brynir yn cael eu hychwanegu at hawl flynyddol y gweithiwr i wyliau ar Bobl Aber gan yr adran Adnoddau Dynol.

6.2 Os bydd gweithiwr yn sâl yn ystod cyfnod o wyliau ychwanegol, dylid cyflwyno dyddiad(au) newydd i’r rheolwr priodol i benderfynu arno/arnynt yn ystod yr un flwyddyn wyliau. Fodd bynnag, os nad yw’n bosibl i wneud hynny, bydd y trefniadau gwreiddiol ar gyfer trosglwyddo gwyliau blynyddol sy’n weddill o ganlyniad i gyfnod o absenoldeb salwch yn berthnasol i unrhyw wyliau ychwanegol a brynir. 

7.0Adolygu’r Polisi

7.1 Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o'r polisi hwn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth ac arfer da. Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ar y cyd â'r undebau llafur cydnabyddedig a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i'r pwyllgor perthnasol priodol, i Weithrediaeth y Brifysgol ac i'r Cyngor os oes angen

8.0   Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sefydlu’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn yn unol â’r cynllun cydraddoldeb.

 

Lleihau Oriau Gwaith yn Wirfoddol

Rhagarweiniad 

Mae'r cynllun hwn yn un o'r dewisiadau gwirfoddol sy'n galluogi gweithiwr i leihau ei oriau gwaith a gweithio'n fwy hyblyg. Mae’n golygu y gallai helpu i leihau gwariant ar y gweithlu, ond eto mae’n sicrhau bod y Brifysgol yn gallu cadw sgiliau a gwybodaeth allweddol. 

Bydd aelodau o'r staff yn ymrwymo i'r cynllun o fewn y flwyddyn ariannol, sy'n dechrau ar bwynt cytundeb ffurfiol. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddiogelu unrhyw dâl dileu swydd ar lefel yr oriau llawn arferol, pe bai’r aelod o staff yn cael ei ddiswyddo ar sail dileu’r swydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r cynllun hwn ar wahân i geisiadau gweithio hyblyg. 

Pwy sy’n Gymwys i’r Cynllun Hwn? 

Mae'r Cynllun Lleihau Oriau’n Wirfoddol ("y cynllun") yn berthnasol i holl staff cyflogedig Prifysgol Aberystwyth ac eithrio cyflogeion a gyflogir ar gontract parhaus neu gyfnod penodol (am gyfnod y cais). 

 

Manylion y Cynllun 

Bydd y Cynllun Lleihau Oriau’n Wirfoddol yn cael ei ddefnyddio i reoli ceisiadau gan staff am gael lleihau eu horiau gwaith dros dro.  Dylai staff sy'n dymuno gofyn am drefniant parhaol ddefnyddio'r drefn Ffyrdd Hyblyg o Weithio.  

Bydd cais llwyddiannus am leihau oriau gwaith yn dibynnu ar gydweithio rhwng y rheolwyr a’r staff o fewn eu timau i gytuno ar y math o weithio sy'n gweddu orau i anghenion yr unigolion, ac ar ofynion y gwasanaeth y maent yn gweithio ynddo. Ni fydd pob sefyllfa waith nac amgylchedd gwaith yn briodol ar gyfer gweithio llai o oriau. 

Mae’r Cynllun yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae’r Pennaeth Adran neu wasanaeth proffesiynol perthnasol neu gynrychiolydd enwebedig yn cytuno y gall unrhyw weithiwr leihau eu horiau/wythnosau gwaith dros dro o 12 mis ar y sail na fydd y gwaith yn cael ei ôl-lenwi ar sail debyg. 

Ni fydd gostyngiad dros dro mewn oriau gwaith am hyd at ddeuddeg mis yn effeithio ar unrhyw daliad dileu swydd. 

Rhaid bod gan y staff ddealltwriaeth glir am y telerau a’r amodau ac am ffeithiau allweddol y cynllun cyn iddynt ymrwymo'n ffurfiol i'r trefniadau. Argymhellir bod unigolion yn ceisio cyngor ariannol annibynnol i ddeall yr effaith ar eu cyflog a’u pensiwn cyn ymrwymo i’r trefniant. 

Mae gan y Cynllun hwn y potensial i sicrhau bod y Brifysgol yn cadw sgiliau a gwybodaeth allweddol. 

Bydd yr holl Delerau ac Amodau Gwasanaeth ar gyfer y swydd yn aros heb eu newid, heblaw y byddant yn cael eu cyfrifo pro-rata yn unol â'r oriau newydd, lle y bo'n briodol, e.e. bydd llai o wyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus cyffredinol.  

Gall unrhyw ostyngiad mewn oriau contractiol effeithio ar bensiwn yr aelod o staff. Cyn gwneud cais i leihau ei oriau dylai'r aelod o staff gysylltu â'i ddarparwr pensiwn i gael manylion am unrhyw effaith ar y pensiwn. USS or https://www.legalandgeneral.com/workplace/a/aberystwyth-university/get-in-touch/ 

Dyma’r gwahanol ffyrdd o leihau oriau gwaith yn ôl y cynllun hwn:  

  • Lleihau nifer y diwrnodau gwaith mewn wythnos 
  • Lleihau’r oriau bob dydd 
  • Gweithio yn ystod y tymor yn unig 

 

Ceisiadau am y Cynllun 

Rhaid i’r aelodau o staff gyflwyno cais i'w rheolwr llinell erbyn y dyddiad cau, sef [dyddiad cofrestru]. 

Gall yr aelod o staff dynnu ei gais yn ôl yn ystod y prosesau ymgeisio ac awdurdodi.  Ar ôl i’r cais gael ei dderbyn, ac ar ôl cytuno i drefniannau’r cynllun, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caiff yr aelod o staff dynnu'n ôl ohono, os bydd y Rheolwr Llinell ac adran Adnoddau Dynol yn cytuno i hynny. 

 

Y Drefn Gymeradwyo  

Ar ôl i'r cais ddod i law, bydd y Rheolwr Llinell perthnasol yn ei ystyried yng ngoleuni'r materion isod:  

  • Gofynion gweithredol y gwasanaeth y mae'r swydd yn rhan ohono.  
  • Baich unrhyw gostau ychwanegol y byddai’n rhaid eu talu (os oes cost ychwanegol fe fydd y cais yn cael ei wrthod fel arfer).  
  • Effaith negyddol ar allu’r gwasanaeth i fodloni gofynion y cwsmeriaid.  
  • A fyddai’n bosib ad-drefnu’r gwaith ymhlith gweddill y staff presennol.  
  • Effaith niweidiol ar ansawdd y gwasanaeth. 
  • Dim digon o waith yn ystod y cyfnodau pan fo’r gweithiwr yn bwriadu gweithio  
  • Newid sefydliadol neu strwythurol sydd eisoes yn yr arfaeth. Dim ond os yw’r newidiadau hynny ar fin cael eu rhoi ar waith neu eisoes yn cael eu trafod y gellir cyfiawnhau rhoi ystyriaeth i hyn. 
  • A fyddai’n golygu mwy o gyfrifoldeb i swyddi eraill sydd â chyswllt gwaith â’r ymgeisydd, a fyddai’n arwain at ailraddio’r swyddi hynny, a hefyd a fyddai'r effaith ar fywydau gwaith cydweithwyr yr ymgeisydd yn rhesymol. 
  • Cydymffurfiaeth â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac Amser Gweithio. 

 

Dylai'r Rheolwr Llinell, cyn gwneud argymhelliad i Bennaeth yr Adran, Pennaeth y Gwasanaeth Proffesiynol, neu’r cynrychiolydd enwebedig, gyfarfod â'r aelod o staff i drafod y cais yn fanylach.  

 Ar ôl i bob mater gael ei ystyried, bydd cais am weithio llai o oriau yn cael ei drosglwyddo i'r Pennaeth Adran, Pennaeth y Gwasanaeth Proffesiynol neu’r cynrychiolydd enwebedig perthnasol ar gyfer penderfyniad terfynol. 

Bydd Pennaeth yr Adran, Pennaeth y Gwasanaeth Proffesiynol neu'r cynrychiolydd enwebedig yn adolygu’r cais a phenderfyniad y rheolwyr, cyn gwneud y penderfyniad terfynol. Bydd yn hysbysu'r adran Adnoddau Dynol trwy anfon adroddiad iddi ar ôl iddo gael ei gwblhau. 

Bydd y Gwasanaeth AD yn rhoi gwybod i’r aelod o staff am y penderfyniad terfynol. 

Os gwrthodir y cais, dylai'r aelod o staff gael gwybod gan ei Reolwr Llinell am y rhesymau dros ei wrthod. 

Apelio  

Os yw'r aelod o staff yn gofyn am ymateb ysgrifenedig, fe ddylai'r rheolwr ddarparu un. Serch hynny, penderfyniad terfynol yw penderfyniad Pennaeth yr Adran neu Bennaeth y Gwasanaeth Proffesiynol. 

Gweithredu 

Bydd ffurflen gais a gyflwynir gan aelod o staff yn cael ei thrin fel cais wedi'i lofnodi. Bydd ei chynnwys yn cael ei gadw fel cofnod Adnoddau Dynol, gan y bydd yn cofnodi'r cytundeb a wnaed ynghylch y newidiadau contractiol i delerau ac amodau'r aelod o staff. 

Cyfrifoldeb yr aelod o staff yw gwirio ei slip cyflog i sicrhau ei fod yn cael y cyflog misol cywir a’i gyfrifoldeb ef hefyd yw yn rhoi gwybod i'w Reolwr Llinell am unrhyw anghysondebau. Dylai deiliad y gyllideb hefyd fonitro’r gyllideb a rhoi gwybod am unrhyw gamgyfrifiadau i Wasanaethau Cyflogres AD. 

Monitro'r Cynllun 

Bydd y Brifysgol yn monitro’r ceisiadau llwyddiannus ac aflwyddiannus er mwyn hel gwybodaeth am gydraddoldeb ac am arbedion ariannol. 

Adnewyddu Cynllun 

Gellir gwneud y cais i weithio llai o oriau drwy'r cynllun hwn am gyfnod dros dro, hyd at ddeuddeg mis, ac ar ôl yr amser hwnnw byddwch yn dychwelyd i'ch oriau arferol. Os bydd aelodau o staff yn dymuno adnewyddu eu trefniant i weithio llai o oriau, byddant yn cael cyfle i ailymgeisio ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, os bydd y Brifysgol yn penderfynu cynnig y cynllun eto. 

Dogfennau Cysylltiedig  

Mae’r dogfennau canlynol, sy’n ymwneud â’r cynllun, wedi’u cynnwys: 

  • Lleihau oriau gwaith yn wirfoddol - tudalennau ffeithiau allweddol 
  • Lleihau oriau gwaith yn wirfoddol – effaith ar y telerau a’r amodau cyflogaeth 

Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn gosod y cytundeb rhwng y cyflogwr (Prifysgol Aberystwyth) a'r aelod o staff ynghylch lleihau oriau gwaith yn wirfoddol.  

Cyflog Dileu Swydd 

Fel arfer, mae tâl dileu swydd yn seiliedig ar:  

  • Hyd eich gwasanaeth 
  • Eich oedran
  • Eich tâl ar y dyddiad pan fyddwch yn gadael neu'n cael rhybudd bod eich swydd yn cael ei dileu. 

Mae hyn yn golygu, os byddwch yn lleihau’ch oriau gwaith ac yn cael llai o gyflog, bydd hyn yn effeithio ar unrhyw dâl colli swydd, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Serch hynny, os byddwch yn lleihau’ch oriau gwaith dros dro o dan Gynllun a Arweinir gan Gyflogai am hyd at 12 mis, rydym wedi ymrwymo na fyddai hynny’n effeithio ar eich tâl dileu swydd. 

 Effaith ar Delerau ac Amodau 

 Yn gyffredinol, bydd y telerau a’r amodau yn cael eu cymhwyso ar sail pro-rata yn ôl y nifer o oriau gwaith. Bydd hyn yn cynnwys:  

  • Tâl 
  • Gwyliau blynyddol 
  • Gwyliau banc 
  • Tâl salwch 
  • Tâl mamolaeth, Absenoldeb Tadolaeth, Absenoldeb Rhiant a Rennir ac Absenoldeb Mabwysiadu

Lleihau Oriau Gwaith yn Wirfoddol - Cwestiynau Cyffredin

Effeithiau lleihau’ch oriau gwaith 

Mae'r wybodaeth yn y ddogfen hon at ddefnydd cyffredinol ac ni all gwmpasu holl amgylchiadau personol pawb. Os bydd unrhyw anghydfod, bydd y ddeddfwriaeth briodol yn drech na’r ddogfen hon. Nid yw'r wybodaeth yn y ddogfen hon yn cyfleu unrhyw hawliau contractiol na statudol ac fe'i darperir er gwybodaeth yn unig. 

Sut mae'r cynllun Lleihau Oriau Gwaith yn Gweithio 

Mae'r cynllun lleihau oriau gwaith yn wirfoddol ("y cynllun") yn golygu y byddwch yn gallu gweithio'n fwy hyblyg drwy leihau’ch amser gwaith. Gellir gwneud hyn drwy leihau’ch oriau contract, a fydd yn caniatáu i chi:  

  • Leihau nifer y diwrnodau gwaith bob wythnos, neu
  • Leihau’r oriau gwaith bob diwrnod.
  • Leihau'r nifer o wythnosau gwaith bob flwyddyn 

Cyfrifir y newid i'ch cyflog drwy rannu’ch cyflog CALl (cyfwerth ag amser llawn (FTE)) â’ch oriau CALl (sef 36.5 awr yr wythnos) ac wedyn lluosi’r ffigur hwnnw â’r nifer gostyngedig o oriau gwaith rydych chi’n newid iddynt.  

Er enghraifft - Gradd 5 ar SCP 17 - sef £25,742 y flwyddyn, yn gweithio'n llawn amser ar hyn o bryd, sef 36.5 awr, ac yn gostwng i 22.2 awr (3 diwrnod yr wythnos); dyma sut y cyfrifir y cyflog newydd: 

£25,742 ÷ 36.5 awr × 22.2 awr = £15,515.73 y flwyddyn (rhannwch hyn â 12 ar gyfer y cyflog misol newydd). Cyflog gros yw hwnnw (cyn tynnu treth ayyb). 

Oes angen i mi wneud unrhyw beth i fod yn rhan o’r cynllun? (e.e. llofnodi unrhyw ffurflenni?) 

Os hoffech gymryd rhan yn y cynllun, bydd angen i chi wneud cais drwy lenwi'r ffurflen Lleihau Oriau Gwaith yn Wirfoddol, gan nodi nifer yr oriau gwaith wythnosol yr hoffech leihau iddynt. Bydd rhaid i'r ffurflen hon gael ei chymeradwyo gan eich rheolwr llinell a'ch cyfarwyddwr cyn y gellir dechrau rhoi’r trefniadau ar waith. 

Pa mor hir mae'r cytundeb yn para? 

Gallwch ddewis gwneud cais i leihau’ch oriau am hyd at 12 mis o fewn y flwyddyn. Bydd y trefniant yn para am y cyfnod a gymeradwywyd, ac ar ôl hynny byddwch yn dychwelyd i'ch oriau arferol. 

Gaf i newid fy meddwl? 

Ar ôl i chi gytuno i'r cynllun, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gallwch dynnu'n ôl, os yw’ch Rheolwr Llinell ac Adnoddau Dynol yn cytuno i hynny, 

A fyddaf yn cael contract newydd? 

Na fyddwch, ni chewch gontract newydd ond fe fydd newidiadau i'ch telerau a’ch amodau o dan y cynllun. Darllenwch y ddogfen ganlynol, 'Newidiadau i Delerau ac Amodau Cyflogaeth' i weld eich telerau a’ch amodau diwygiedig. 

Rwy'n gweithio rhan-amser eisoes. A allaf i gymryd rhan yn y cynllun?  

Os ydych eisoes yn gweithio rhan-amser, fe fyddwch chi hefyd yn gallu cymryd rhan yn y cynllun os ydych am leihau’ch oriau ymhellach. 

A fydd hyn yn effeithio ar fy muddiannau ymddeol?  

Bydd newid yr oriau a weithiwch yn effeithio ar faint o bensiwn y byddwch yn ei gronni, o'r pwynt hwnnw ymlaen. 

Os ydych yn aelod o AUPP, sy’n gynllun cyfraniadau diffiniedig, seilir eich cyfraniadau ar ganran o’ch enillion. Bydd gostyngiad mewn oriau yn golygu gostyngiad mewn cyflog ac a fydd yn lleihau cyfraniadau’r cyflogai a’r cyflogwr a delir i’r cynllun. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cronni llai o fuddion ar ymddeoliad. 

Mae buddion USS yn seiliedig ar eich cyflog gwirioneddol. Felly, bydd gostyngiad mewn oriau yn lleihau eich cyflog gwirioneddol, sy'n golygu y bydd eich buddion USS hefyd yn cael eu lleihau.


Bydd unrhyw CGY (Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol) yn cael eu lleihau os yw'r cyfraniad wedi'i ethol fel canran cyflog. Ni fydd unrhyw CGY sy'n symiau ariannol sefydlog yn cael eu heffeithio gan y gostyngiad mewn oriau. Os hoffech newid eich CGY, gwnewch hynny trwy borth aelodau ar-lein yr USS.


Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am yr effaith ar eich buddion pensiwn, cysylltwch â: pensions@aber.ac.uk

Polisi Seibiant Gyrfa

Rhagarweiniad 
Cymhwysedd 
Telerau’r Cynllun Seibiant Gyrfa
Gwneud cais
Ystyried y cais
Gweithdrefn Apelio
Adolygu'r Polisi
Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Y Gymraeg - Hawliau Gweithwyr

 

Cais am Seibiant Gyrfa

1. Rhagarweiniad 

1.1.       Cyfnod estynedig i ffwrdd o’r gweithle heb dâl yw seibiant gyrfa. Defnyddir seibiant gyrfa gan amlaf i ddilyn diddordeb personol, megis teithio, gwirfoddoli neu ddatblygiad personol. Gellir hefyd ddefnyddio seibiant gyrfa i ofalu am gyfnod dros rywun sy’n dibynnu arnoch. Gall seibiant gyrfa fod o fantais i’r gweithwyr a’r Brifysgol gan wella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, arbed arian a chefnogi denu a chadw staff.

1.2. Yn ôl Polisi Seibiant Gyrfa’r Brifysgol, gall gweithwyr cymwys ofyn i gymryd seibiant gyrfa di-dâl am gyfnod rhwng 3 a 24 mis. Bydd naill ai’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol (lle nad oes goblygiadau pensiwn) neu Grŵp Gweithredol y Brifysgol (lle mae yna oblygiadau pensiwn) yn ystyried ceisiadau ar sail anghenion gweithredol gweithle’r gweithiwr. Gellir gofyn am gyfnodau i ffwrdd yn ddi-dâl am lai na 3 mis drwy Bolisi Absenoldeb Di-dâl y Brifysgol.

1.3. Mae seibiant gyrfa yn wahanol i seibiant astudio, cyfnod o absenoldeb, secondiad a chyfnodau estynedig eraill i ffwrdd o’r gwaith megis cyfnod mamolaeth. Ni fwriedir i’r polisi hwn ddisodli na chyfyngu ar ddefnyddio arferion cyfnodau i ffwrdd sydd eisoes yn bodoli.

1.4. Mae gan y Brifysgol hefyd nifer o gynlluniau i gefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y bydd gweithwyr o bosibl yn dymuno eu hystyried. Gwelir y rhain ar http://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/flexiblework/ neu drwy holi’r Adran Adnoddau Dynol amdanynt.

1.5.  Nid yw darpariaethau’r polisi yn ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth gweithiwr ac, o’r herwydd, ceidw’r Brifysgol yr hawl i dynnu’r polisi yn ôl ar unrhyw adeg heb roi rhybudd nac ymgynghori.

2.  Cymhwysedd 

2.1. Gall gweithwyr wneud cais am seibiant gyrfa os ydynt yn bodloni pob un o’r meini prawf isod:

  • Bod gennych o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth parhaus ar ddechrau’r cyfnod arfaethedig i ffwrdd;
  • Eich bod wedi cwblhau eich cyfnod prawf.
  • Nid ydych wedi cymryd seibiant gyrfa (yn ôl y diffiniad ohono yn y Cynllun hwn) yn ystod y 5 mlynedd cyn dyddiad dechrau’r seibiant gyrfa arfaethedig; ac
  • Os ydych wedi eich cyflogi mewn swydd sy’n cael ei hariannu’n allanol, bod y trefniadau cyllido yn caniatáu seibiant gyrfa a bod gennych ganiatâd ysgrifenedig y corff cyllido i wneud hynny ar gyfer y cyfnod a ddymunir. 

2.2. Os bydd gweithiwr yn bodloni’r meini prawf hyn, gellir gofyn am seibiant gyrfa di-dâl am gyfnod rhwng 3 a 24 mis.

3.  Telerau’r Cynllun Seibiant Gyrfa

3.1.    Detholrwydd a chyfrinachedd

3.1.1.   Er mwyn osgoi’r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau, ni ddylai gweithwyr wneud unrhyw waith am dâl nac yn ddi-dâl ar gyfer sefydliad arall yn ystod y seibiant gyrfa heb i’r Brifysgol gymeradwyo hynny ymlaen llaw. Rhaid datgelu gweithgareddau o’r fath ar y ffurflen gais, y gellir ei llenwi yn Gymraeg neu Saesneg. Os mai pwrpas y seibiant gyrfa yw gweithio i sefydliad arall, gall secondiad yn hytrach na seibiant gyrfa fod yn fwy priodol. Mae gwybodaeth am bolisi secondiad y Brifysgol ar gael yn http://www.aber.ac.uk/cy/hr/policy-and-procedure/secondment/  

3.1.2.   Yn ystod y seibiant gyrfa, disgwylir i weithwyr gydymffurfio â gofynion y Brifysgol o ran cyfrinachedd, rheoliadau ariannol ac eiddo deallusol.

3.2.   Cyswllt yn ystod seibiant gyrfa

3.2.1. Rhaid i weithwyr gyflwyno eu manylion cyswllt yn ystod y seibiant gyrfa.

3.2.2.  Fel arfer, bydd disgwyl i weithiwyr ar seibiant gyrfa estynedig gadw mewn cysylltiad ac ymgyfarwyddo â newidiadau yn y gweithle yn ystod eu cyfnod i ffwrdd. Dylid gwneud hynny trwy drefnu gyda’r Adran. Bydd yr amser hwn yn ddi-dâl, ond ni fydd yn feichus.

3.3. Gwyliau blynyddol

3.3.1.   Ni cheir hawl i dâl gwyliau yn ystod seibiant gyrfa ac ni fydd y gweithiwr yn cronni gwyliau blynyddol. Rhaid cymryd gwyliau blynyddol sy’n ddyledus cyn dechrau’r seibiant gyrfa. Ni cheir taliad yn lle gwyliau sydd heb eu cymryd.

3.4.   Dychwelyd i’r gwaith

3.4.1. Disgwylir i’r gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith ar ôl y seibiant gyrfa ar y dyddiad y cytunwyd arno. Os yw’r gweithiwr yn dymuno ymddiswyddo o’r Brifysgol, rhaid rhoi rhybudd yn unol â thelerau ac amodau cyflogaeth.

3.4.2.  Disgwylir y bydd y gweithiwr yn dychwelyd o’r seibiant gyrfa i’w swydd barhaol. Lle na bydd hynny’n bosibl, fe’i gosodir mewn swydd â thelerau ac amodau cyflogaeth yr un mor ffafriol; fodd bynnag os bydd y swydd yn cael ei dileu, ymdrinnir â hynny yn unol â’r Polisi Osgoi Diswyddo.

3.4.3.  Os yw’r gweithiwr yn dymuno dychwelyd i’r gwaith yn gynt na’r dyddiad y cytunwyd arno, dylid gwneud cais ysgrifenedig yn nodi hynny a’i anfon at Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran/Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol cyn gynted â phosibl, ac o leiaf bedwar mis cyn y dyddiad y mae’n dymuno dychwelyd. Os yw’r gweithiwr yn dymuno ymestyn ei seibiant gyrfa (ond nid yn fwy na’r mwyafswm o 24 mis), rhaid gwneud cais yn nodi hynny o leiaf bedwar mis cyn y dyddiad a nodwyd yn wreiddiol ar gyfer dychwelyd i’r gwaith. Ni ellir sicrhau y bydd ceisiadau i leihau neu ymestyn y seibiant gyrfa yn cael eu cymeradwyo.

3.4.4. Os caiff y gweithiwr ei rwystro rhag dychwelyd ar y dyddiad y cytunwyd arno oherwydd digwyddiad y tu hwnt i’w reolaeth, rhaid cysylltu â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran/ Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol cyn gynted â phosibl. Gellir ymestyn yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith ar ôl y dyddiad y cytunwyd arno cyn belled ag y cyflwynir tystiolaeth briodol i gefnogi’r rheswm dros yr oedi.

3.4.5.  Os bydd gweithiwr yn methu dychwelyd i’r gwaith ar y dyddiad y cytunwyd arno, a heb gytuno ar ddyddiad arall, gall y gweithiwr golli’r hawl i ddychwelyd i’r gwaith. Bydd y cyflogwr yn cysylltu â’r gweithiwr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt y cytunwyd arnynt, ac yn rhoi 7 diwrnod iddo ymateb. Oni cheir ymateb, ystyrir bod y gweithiwr wedi ymddiswyddo.

3.5.   Ymddiswyddo

3.5.1.   Os bydd gweithiwr yn penderfynu ymddiswyddo o’i swydd yn ystod seibiant gyrfa, rhaid iddo/iddi gyflwyno ei (h)ymddiswyddiad yn ysgrifenedig, yn Gymraeg neu Saesneg, i Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran/Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol cyn y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer dychwelyd i’r gwaith, yn unol â’r cyfnod rhybudd a nodir yn y cytundeb.

3.6.   Pensiwn

3.6.1.  Ni fydd seibiant gyrfa yn cyfrif tuag at wasanaeth pensiynadwy ac ni fydd y Brifysgol yn talu cyfraniadau gweithwyr i gynlluniau pensiwn yn ystod seibiant gyrfa. Os yw gweithiwr yn dymuno parhau i dalu cyfraniadau yn ystod seibiant gyrfa, dylai drafod hynny â’r Adran Gyllid.

3.6.2. Bydd aelodaeth gweithwyr sy’n perthyn i’r cynllun pensiwn USS yn cael ei gohirio yn ystod y seibiant gyrfa. Bydd modd cadw’r hawl i gael taliadau marw yn y swydd a thaliadau salwch drwy dalu cyfraniad arbennig.

3.6.3.  Bydd yr holl gyfraniadau i Gynllun Pensiwn Cyfreithiol a Chyffredinol Prifysgol Aberystwyth yn peidio a bydd yr aelodaeth ohono yn cael ei gohirio. Os bydd y Brifysgol yn cytuno, gall yr aelod, wrth ddychwelyd i’r gwaith, wneud trefniadau gyda’r Ymddiriedolwyr i dalu unrhyw gyfraniadau y byddai wedi ei dalu pe na bai wedi bod yn absennol; fodd bynnag, rhaid i’r Brifysgol hefyd gytuno i dalu elfen y cyflogwr. Os na bydd yr aelod yn dychwelyd i’r gwaith neu os bydd yr absenoldeb yn hwy na’r mwyafswm o 3 blynedd a ganiateir, bydd yn cael ei drin fel rhywun sydd wedi ymadael.

3.7. Darpariaethau eraill

3.7.1. Ni fydd seibiant gyrfa yn cael ei ystyried yn wasanaeth parhaus gyda’r Brifysgol. Yn ystod y Seibiant Gyrfa bydd pob hawl o dan y Cytundeb Cyflogaeth yn cael ei atal. Fodd bynnag, at ddiben parhad cyflogaeth, bydd cyfnod y Seibiant Gyrfa yn cyfrif wrth gyfrifo’r cyfnod cyflogaeth at ddibenion statudol a’r graddau y darperir ar eu cyfer yn y Telerau ac Amodau Gwasanaeth. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd hawl i unrhyw fuddion na thâl cytundebol nac unrhyw groniad mewn perthynas â buddion neu dâl yn ystod cyfnod y Seibiant Gyrfa.

3.7.2. Bydd datblygiad cynyddrannol yn cael ei ohirio yn ystod seibiant gyrfa, ond bydd yn ailddechrau wrth i’r gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith. Bydd y gweithiwr yn dychwelyd i gyflog fydd yn adlewyrchu setliadau cyflog blynyddol sydd wedi’u negodi.

3.7.3. Os cynigir newid telerau ac amodau gwaith gweithiwr a bod angen ymgynghori ynghylch hynny, bydd y Brifysgol yn trafod gyda’r gweithiwr, yn unol â’r hyn sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith a gweithdrefnau’r Brifysgol.

4.  Gwneud cais

4.1.  Dylid gwneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen atodedig a’i chyflwyno i Ddirprwy IsGanghellor y Gyfadran/Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol o leiaf 6 mis cyn dechrau’r seibiant arfaethedig. Dylid gwneud hynny er mwyn sicrhau digon o amser i ystyried y cais ac, os bydd yn cael ei gymeradwyo, i gynllunio ar gyfer absenoldeb y gweithiwr. Mae gan Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran/Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol ryddid i ddewis ystyried ceisiadau sy’n rhoi llai o rybudd.

4.2  Dylai gweithwyr sy’n ystyried gwneud cais am seibiant gyrfa sicrhau eu bod yn darllen telerau’r Cynllun (adran 5, isod) cyn gwneud cais.

5. Ystyried y cais

5.1  Bydd y cais yn cael ei ystyried gan naill ai’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol (lle nad oes goblygiadau pensiwn) neu gan Grŵp Gweithredol y Brifysgol (lle mae yna oblygiadau pensiwn), mewn ymgynghoriad â Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran/Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol. Gan na fydd pob cais yn cael ei gymeradwyo, cynghorir gweithwyr i beidio ag ymrwymo i gynlluniau cyn bod penderfyniad ar y cais yn digwydd.

5.2 Gan fod seibiant gyrfa yn golygu absenoldeb sylweddol o’r gweithle, ystyrir ceisiadau ar sail effaith y seibiant ar ofynion gweithredu, ac a yw o fudd i’r rheolwyr gytuno i’r cais. Bydd hyn yn cynnwys (ond heb gael ei gyfyngu i) ystyried:

  • Llwyth gwaith tebygol (ar unigolion a/neu’r tîm) yn ystod y cyfnod arfaethedig;
  • Effaith yr absenoldeb ar lwythi gwaith gweithwyr eraill ac osgoi gorlwytho;
  • Yr angen i gadw a chyfunioni sgiliau, gwybodaeth a phrofiad allweddol ag anghenion strategol a/neu alw gweithredol;
  • Y gallu i ddenu staff ychwanegol, os bydd angen;
  • Effaith bosibl ar berfformiad a/neu ansawdd gwaith yr uned;
  • Cyfnodau seibiant a gymerwyd eisoes gan y gweithiwr ac effaith seibiant pellach ar ofynion gweithredol;
  • Cyfnodau seibiant gan weithwyr eraill sy’n cyd-daro â’r cais ac effaith hynny ar ofynion gweithredol;
  • Hyd gwasanaeth sy’n weddill ar gytundeb gwaith y gweithiwr;
  • A oes angen ymestyn swyddi cyfnod penodol ac a yw’r corff cyllido yn cefnogi’r cais;
  • Materion gweithredol perthnasol eraill;
  • Cyfle Iechyd a Lles ar gyfer yr unigolyn. Mantais i’r gweithiwr.
  • Gellir gwrthod cais am seibiant gyrfa ar sail weithredol. Mewn ambell achos, gellir awgrymu cyfnod arall o seibiant. Os cytunir ar drefniant amgen, dylid llenwi ffurflen gais newydd yn nodi hynny. Os gwrthodir cais ac ni ellir cytuno ar drefniant amgen, bydd y gweithiwr yn cael gwybod yn ysgrifenedig am y rhesymau dros wrthod y cais.
  • Os cytunir i’r cais, un o amodau’r seibiant gyrfa yw fod y gweithiwr yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer cyfnod y seibiant i’w reolwr llinell (hynny yw, cyfeiriad anfon ymlaen, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost). Bydd hynny’n galluogi’r Brifysgol i hysbysu’r gweithiwr am ddatblygiadau sylweddol yn y gweithle.
  • Cyn i’r seibiant gyrfa ddechrau, byddai’n arfer da i weithwyr a rheolwyr drafod trefniadau trosglwyddo a threfniadau ar gyfer dychwelyd i’r gwaith.

6.  Gweithdrefn Apelio

Rhaid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg i Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn canlyniad.

Bydd yr apêl yn ymarfer pen desg a chaiff yr holl waith papur a phrosesau eu hystyried. Caiff penderfyniad yr apêl ei gadarnhau’n ysgrifenedig o fewn dau ddiwrnod gwaith arall. Ni fydd hawl pellach i apelio o dan y Polisi Seibiant Gyrfa.

7.  Asesiad Effaith Cydraddoldeb

8.1 Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i sefydlu’r Cynllun Cydraddoldeb yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn yn unol â’r cynllun cydraddoldeb.

8.  Y Gymraeg – Hawliau Gweithwyr  

Yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018 mae gan weithwyr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg

  • i weud cwyn
  • i ymateb i gŵyn neu honiad

ac mae gan weithwyr yr hawl hefyd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd lle maent yn destun

  • cwyn a honiad (neu os ydynt wedi gwneud cwyn)
  • trafodion disgyblaethol
  • trafodaethau’r cynllun cyfraniad effeithiol
  • cyfarfodydd ymgynghori unigol

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod os nad oes modd cynnal y cyfarfod yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y mae’r Brifysgol, ar y cyd â’i hundebau llafur cydnabyddedig, wedi ymgorffori’r gofynion uchod yn holl ddogfennau polisi a gweithdrefnol perthnasol yr adran Adnoddau Dynol.

Polisi Ymddeoliad Hyblyg

 

Rhagarweiniad 

Mae'r cynllun gwyliau blynyddol ychwanegol yn opsiwn gwirfoddol sy'n galluogi gweithwyr i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol i'w galluogi i weithio'n fwy hyblyg a chynnal cydbwysedd iach rhwng eu gwaith a’u bywydau personol.   Mae ganddo'r potensial i helpu i leihau cyllideb y gweithlu gan sicrhau bod y Brifysgol yn cadw sgiliau a gwybodaeth allweddol.  

Bydd gweithwyr yn ymrwymo i'r cynllun am gyfnod o flwyddyn, o 01 Ionawr 2023 i 31 Rhagfyr 2024. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i ddiogelu tâl diswyddo os bydd y gweithiwr yn gadael ei swydd ar sail diswyddiad yn ystod y cyfnod hwn.   

Cymhwysedd 

 Mae'r cynllun yn galluogi gweithwyr, gyda chytundeb y Brifysgol, i newid eu contract cyflogaeth drwy leihau eu tâl gros a chynyddu eu hawl i wyliau blynyddol hyd at 222 (219 in English) awr mewn unrhyw flwyddyn unigol o wyliau blynyddol.   

  •  Nid yw cymryd gwyliau blynyddol ychwanegol yn hawl ond bydd yn cael ei ystyried gan y Brifysgol yng ngoleuni anghenion y gwasanaeth a manteision y gost i'r Brifysgol.   Rhaid i'r Cyfarwyddwr perthnasol neu'r cynrychiolydd enwebedig gytuno y gall y gweithiwr gymryd rhan yn y cynllun gwyliau ychwanegol.  
  •  Cytunir yn unig ar wyliau blynyddol ychwanegol pan na fydd angen sicrhau staff i gyflenwi yn ystod cyfnod yr absenoldeb er mwyn cynnal y gwasanaeth ar unrhyw gost ychwanegol i’r Brifysgol.   
  •  Mae gan y cynllun y potensial i leihau taliadau Treth, Yswiriant Gwladol a thaliadau Pensiwn gweithwyr ac i leihau cyfraniadau pensiwn ac atebolrwydd y cyflogwr ar gyfer Yswiriant Gwladol trwy ddefnyddio trefniant ffurfiol sy'n newid telerau ac amodau cyflogaeth y gweithiwr.  
  •  Rhaid i weithwyr gael dealltwriaeth glir o’r telerau ac amodau a ffeithiau allweddol y cynllun cyn iddynt ymrwymo'n ffurfiol i'r trefniadau.  
  •  Gall gweithiwr gymryd uchafswm o 222 awr(219 in English) (sy'n cyfateb i 30 diwrnod safonol) o wyliau ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn wyliau neu ar sail pro-rata ar gyfer gweithiwr rhan-amser sy'n gweithio llai na 37 (36.5 in English) awr yr wythnos.  
  •  Cyfrifir y gostyngiadau mewn cyflog fel y cyflog cyfwerth ag amser llawn wedi'i luosi gan nifer yr oriau y gofynnwyd amdanynt a'i rannu gan 1924 (nifer yr oriau y mae gweithiwr llawn amser yn gweithio dros y flwyddyn).  DOLEN CYFRIFIANNELL ABER 
  •  Rhaid cymryd y gwyliau blynyddol ychwanegol o fewn y flwyddyn wyliau flynyddol y newidiwyd y contract cyflogaeth a lleihau cyflog gros sylfaenol y gweithiwr. Rhaid cymryd y gwyliau blynyddol ychwanegol o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol y newidiwyd y contract cyflogaeth a lleihau cyflog gros sylfaenol y gweithiwr. Dim ond 36.5 awr, pro rata y gellir ei gario drosodd, yn unol â'ch Telerau ac Amodau. 
  •  Rhaid i gais am wyliau blynyddol ychwanegol gynnwys manylion ynghylch pryd y cymerir y gwyliau er mwyn gallu cynllunio’r ddarpariaeth o wasanaethau yn effeithiol ac i’r eithaf. 
  •  Os na all y gweithiwr gymryd ei absenoldeb oherwydd salwch hir, absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhieni ar y cyd neu absenoldeb mabwysiadu, bydd yr amgylchiadau'n cael eu hystyried fesul achos.  
  • Ar ôl terfynu cyflogaeth, bydd hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael ei gysoni.  Bydd gofyn i'r gweithiwr gymryd unrhyw wyliau blynyddol sy'n weddill yn ystod ei gyfnod rhybudd.  Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd taliad yn cael ei roi yn lle gwyliau.   Os yw'r gweithiwr wedi cymryd mwy na'i wyliau blynyddol cymesur yn ystod y flwyddyn wyliau, bydd yn ofynnol iddo ad-dalu'r cyflog cyfatebol trwy dynnu’r swm o'i gyflog terfynol.  

 Y Drefn Gymeradwyo  

Bydd ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu hystyried yn ystod mis cyntaf pob blwyddyn wyliau, hynny yw, ym mis Ionawr.  Bydd gan Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran a Phenaethiaid Gwasanaethau Proffesiynol ryddid i ystyried ceisiadau ar gyfer gwyliau blynyddol ychwanegol yn ystod y flwyddyn os bydd amgylchiadau gweithiwr yn newid.  

Gall gweithiwr holi am uchafswm o 222 (219 in English) awr o gwyliau ychwanegol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser, hynny yw, bydd pob awr y gwneir cais amdano yn cael ei drosglwyddo yn unol â’r amserlen waith) ym mhob blwyddyn wyliau.  Mae'r flwyddyn wyliau yn rhedeg o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr.  

Bydd pob cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael ei ystyried gan Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran neu Bennaeth yr Adran Gwasanaethau Proffesiynol, gan ystyried anghenion gweithredu’r Adran/Athrofa.   Lle bo hynny’n bosibl, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais drwy ABW. (Not in English Version) 

Bydd yr ymateb i’r cais fel a ganlyn: 

  • Cymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd 
  • Cymeradwyo rhan o’r cais 
  • Gwrthod

Lle nad yw’n bosibl i gymeradwyo’r cais yn ei gyfanrwydd, rhoddir ymateb ysgrifenedig yn nodi’r rheswm dros hynny.  

Os bydd y cais am wyliau yn cael ei wrthod, ni fydd hawl apelio dan y polisi hwn. 

Ar ôl i’r cais gael ei gymeradwyo gan y rheolwr priodol, ni fydd hi’n bosibl i ddiddymu’r gwyliau sydd eisoes wedi’u prynu yn ystod y flwyddyn wyliau.  

Bydd manylion gwyliau blynyddol y gweithiwr yn cael eu diweddaru ar ABW.  

4 Talu am Wyliau Blynyddol Ychwanegol 

Telir am yr oriau ychwanegol o wyliau blynyddol trwy un o’r dulliau canlynol: 

  • Didyniad o gyflog fel un cyfandaliad cyn cymryd y gwyliau ychwanegol; 
  • Didyniad o gyflog dros uchafswm o 12 mis yn olynol yn dechrau ar ôl cymeradwyo eich pryniant. 
  • Bydd y gweithiwr yn cwblhau’r mandad angenrheidiol i’r didyniad gael ei brosesu ar adeg cyflwyno’r cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol. 

 Bydd gwyliau blynyddol ychwanegol yn cael eu cyfrifo yn erbyn cyfradd tâl fesul awr y gweithiwr, sef nifer yr oriau a brynwyd. 

e.e. 36.5 awr x Sp 13 (£12.48/hour) = £455.52   

7.5 awr x Sp 13 (£12.48/hour) = £93.60  

219 awr x SP 13 (£12.48/hour) = £2733.12