Datganiad Polisi ar Gam-Drin Domestig

Egwyddorion  
Cwmpas
Deddfwriaeth
Datgelu
Cyngor i aelodau o staff
Swyddogaethau a Chyfrifoldebau
Cyflawnwyr Cam-drin Domestig
Ymdrin â honiadau ynghylch cyflawnwyr trais neu gam-drin domestig, neu ddatgeliadau gan yr unigolion hynny
Yr Hawl i Breifatrwydd
Hyfforddiant
Y gwaith papur ynghylch datgeliad
Diogelwch
Asesiadau Effaith
Atodiadau 1-5


Egwyddorion 

Mae'r Brifysgol yn credu y dylai pob aelod o staff sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio, neu sydd wedi cael profiadau o'r fath yn y gorffennol, allu datgelu ymddygiad(au) o'r fath wrth eu cyflogwr.   Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ymdrin ag unrhyw ddatgeliad o'r fath mewn modd cefnogol ac, os oes modd, yn gyfrinachol.

Mae'r Polisi hwn yn cynnig ffordd ddiogel i aelodau o staff ddatgelu camdriniaeth, a'i nod hefyd yw cynorthwyo'r sawl sy'n pryderu y gallai cyd-weithiwr neu un o'u cymheiriaid fod yn cael eu cam-drin. Mae hefyd yn cynnig fframwaith fel y gall y sawl y datgelir camdriniaeth wrthynt ymateb yn briodol. 

Mae'r Polisi hwn yr un mor berthnasol i gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio sy'n digwydd ar hyn   o bryd (ac sy'n parhau) ag i achosion sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac sy'n effeithio ar allu unigolyn i weithio. 

Cwmpas

Mae’r Polisi hwn yn amlinellu'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n dioddef a'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig, trais rhywiol a stelcio, yn unol â'r diffiniadau a amlinellir yn Atodiad 1. Mae'n cynnig arweiniad i unrhyw aelod o staff sy'n pryderu bod cyd-weithiwr yn dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio, boed yna dystiolaeth amlwg bod gweithredoedd o'r fath yn digwydd ai peidio.

Mae’r Polisi hwn yn berthnasol i'r holl staff a gallai fod yn berthnasol hefyd i rai sy'n ymweld â safle'r Brifysgol megis staff asiantaeth. Dylai staff mewn sefydliadau partner, yn ogystal ag ymwelwyr a chontractwyr, gysylltu â'u sefydliadau eu hunain yn y lle cyntaf fel arfer, ond mae croeso iddynt gysylltu â'r Brifysgol am gymorth a chyngor trwy gyfrwng y Polisi hwn.

Deddfwriaeth

Mae'r Brifysgol yn rhoi ystyriaeth o ddifrif i'r angen i greu a chynnal amgylchedd diogel lle gall aelodau o staff gyflawni eu llawn botensial. Yn y cyd-destun hwn, ceir nifer o fentrau sylfaenol a chefnogol ym maes diogelu aelodau o staff a allai fod mewn perygl o niwed, mabwysiadu agwedd drugarog tuag at faterion cymdeithasol a domestig, a chredoau ynghylch y cysyniadau o les a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod ei dyletswydd dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1974) i sicrhau iechyd, diogelwch a lles aelodau o staff yn y gwaith, cyn belled ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol. Ymhellach at hynny, mae'r Brifysgol yn cydnabod y cyfrifoldebau a amlygir dan Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (1992), sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr asesu'r risg o drais yn erbyn aelodau o staff a gwneud trefniadau ar gyfer eu hiechyd a'u diogelwch.

Ceir gwybodaeth am ddeddfwriaeth a rheoliadau eraill yn Atodiad 3.

Nodau

Mae'r Brifysgol wedi datblygu'r polisi hwn yn rhan o'i hymrwymiad i gefnogi iechyd, diogelwch a lles ei staff yn y gwaith. Mae cam-drin domestig yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd person, gan gynnwys eu dysgu, eu gwydnwch yn fwy eang, eu lles a'u hiechyd meddwl.

Mae'r Brifysgol felly wedi ymrwymo i hyrwyddo polisi o beidio ag arddangos dim goddefgarwch o gam-drin domestig yn erbyn a chan ei holl weithlu, gan gydnabod y pethau canlynol ynghylch cam-drin domestig: 

  • Mae'n drosedd, yn aflonyddol ac yn niweidiol yn gymdeithasol;
  • Mae'n gallu effeithio ar iechyd unigolyn, ei berfformiad neu ei bresenoldeb yn y gwaith;
  • Nid yw'n gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, oed, anabledd, ethnigrwydd, crefydd, statws priodasol na chyfeiriadedd rhywiol.

Datgelu

Gall datgelu camdriniaeth, boed yn digwydd ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, fod yn benderfyniad anodd ac mae'r Brifysgol yn cydnabod ei bod yn bwysig i'r unigolyn allu rheoli'r penderfyniad hwnnw. Mae'r Polisi hwn, felly, yn rhoi gwybodaeth am gefnogaeth fewnol yn ogystal â sefydliadau annibynnol arbenigol y gellir datgelu camdriniaeth wrthynt (gweler Atodiad 2). 

Ymhellach at hynny, mae'r Brifysgol yn cydnabod y gallai anawsterau godi os na thynnir sylw'r Brifysgol yn ffurfiol at brofiadau o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio. Gall anawsterau o'r fath gynnwys materion iechyd a diogelwch, pryderon aelodau o staff, neu gŵynion neu gamau gweithredu yn sgil materion yn ymwneud â pherfformiad.

Cyngor i aelodau o staff

Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig mae'n bwysig dweud wrth rywun, a cheir rhestr o fanylion cyswllt ar gyfer amrywiol asiantaethau cymorth arbennig, yn lleol a chenedlaethol, yn Atodiad 2

Fe'ch anogir hefyd i siarad â'ch rheolwr llinell os ydych chi'n bryderus ynghylch cam-drin domestig, neu'n dioddef yn ei sgil. Ni fydd rheolwyr llinell yn gofyn ichi am dystiolaeth nac yn rhoi pwysau arnoch i roi manylion. Ni fyddant yn feirniadol, byddant yn eich cymryd o ddifrif a byddant yn treulio amser yn gwrando arnoch.

Gall aelodau o staff sydd eisiau datgelu neu drafod eu profiad o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio ddewis dod â chyd-weithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda hwy yn gwmni i unrhyw gyfarfodydd i drafod y mater.

Os byddai'n well gennych, gallech hefyd siarad â chyd-weithiwr neu eich Partner Busnes AD, a fydd, lle bo'n briodol, yn gallu trefnu atgyfeiriad at y tîm Iechyd Galwedigaethol yn ogystal â'ch cyfeirio at sefydliadau cymorth allanol. Efallai hefyd y bydd o ddefnydd ichi gysylltu'n uniongyrchol â'r Rhaglen Cymorth i Staff.

Yr Iaith Gymraeg - Hawliau Staff

Yn unol â'r Safonau Iaith a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2018 mae gan aelodau o staff yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg i:-

  • wneud cwyn
  • ymateb i gŵyn neu honiad, ac mae gan aelodau o staff hefyd yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd lle maent yn destun
  • cwynion a honiadau (neu lle mai hwy sydd wedi gwneud y gŵyn) (d) achosion disgyblu 

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod pan na ellir cynnal y cyfarfod yn uniaith Gymraeg. Mae'r Brifysgol, mewn cydweithrediad â'i hundebau llafur cydnabyddedig, wedi ymgorffori'r gofynion uchod yn ei holl ddogfennau polisi a gweithdrefn perthnasol ym maes Adnoddau Dynol.

Swyddogaethau a Chyfrifoldebau 

Rheolwyr 

Disgwylir i'r holl reolwyr ymgyfarwyddo â'r Polisi hwn a'r modd y caiff ei ddefnyddio. Mae'n bosibl mai rheolwr fydd y person cyntaf y bydd aelod o staff yn dweud wrthynt, a bydd crybwyll y mater hwn wedi gofyn am gryn dipyn o ddewrder. Gall yr ymateb y mae'r aelod o staff yn ei gael gan ei reolwr fod yn ffactor holl bwysig wrth bennu a ydynt yn gofyn am ragor o gyngor a chymorth ai peidio. Felly, dylai rheolwyr sicrhau eu bod yn cynnig cymorth mewn modd sensitif, heb feirniadu. 

Yr agwedd bwysicaf ar sgwrs ynghylch cam-drin domestig yw annog yr aelod o staff i ofyn am gymorth.  Dylech nodi dyddiad ac amser y sgwrs ac unrhyw wybodaeth bwysig arall a allai fod yn berthnasol, ond dylech sicrhau bod gennych gydsyniad ffurfiol yr aelod o staff os ydynt yn gofyn ichi gysylltu ag asiantaeth gymorth ar eu rhan. Sicrhewch fod y sgwrs yn cael ei chynnal mewn man tawel a chyfrinachol.

Ni ddylai'r aelod o staff deimlo bod pwysau arnynt i ddatgelu gwybodaeth bersonol y maent yn teimlo'n anghysurus yn ei rhannu, yn enwedig gan ei bod yn bosibl y bydd arnynt angen rhywfaint o amser i benderfynu beth i'w wneud. Dylech hefyd annog y person sy'n datgelu i wneud eu dewisiadau eu hunain ynghylch a ddylent gysylltu ag unrhyw wasanaeth neu gael eu hatgyfeirio.

Dylai unrhyw wybodaeth a ddatgelir i wasanaeth trwy gyfrwng atgyfeiriad fod â chydsyniad y person sy'n ei datgelu a dylai fod ar sail 'angen gwybod' oni bai y ceir ystyriaethau diogelu.

Dylech wrando'n ofalus, dangos empathi a bod yn greadigol wrth archwilio dewisiadau gyda'r aelod o staff, yn enwedig pan fo angen iddynt drefnu apwyntiadau â chyfreithwyr neu asiantaethau ailgartrefu, addysg neu ofal plant yn ystod y diwrnod gwaith arferol. Dyma enghreifftiau o fathau eraill o gefnogaeth a allai fod yn addas:

  1. Sgrinio negeseuon e-bost, post, negeseuon testun neu alwadau ffôn;
  2. Addasiadau dros dro i oriau gwaith;
  3. Newid lleoliad gwaith dros dro;
  4. Mynediad i le parcio diogel ar y safle, os nad yw hyn yn cael ei ddarparu eisoes.

Cynigir hyd at bum diwrnod o absenoldeb â thâl i aelodau o staff fynd i wrandawiadau llys sifil neu droseddol fel tyst, neu os oes angen iddynt fynd i'r llys er mwyn cael gwaharddeb yn erbyn rhywun sy'n cyflawni camdrin domestig neu yr honnir ei fod yn gwneud hynny. 

Dyma eich swyddogaeth chi, fel rheolwr:-

  • Gwrando yn gyntaf, yn hytrach na rhoi cyngor ac arweiniad penodol yn rhy gynnar yn y sgwrs;
  • Cyfeirio at staff sydd wedi'u hyfforddi (eiriolwyr) o fewn y Brifysgol neu ofyn am gyngor arbenigol - gan gadw cyfrinachedd (h.y. sicrhau bod yr unigolyn/unigolion dan sylw yn parhau'n ddienw) a chael cyngor yn unol â hynny;
  • Cyfeirio at y Polisi hwn fel y gallant gael mynediad uniongyrchol at gyrff allanol (gweler Atodiad 2);
  • Cwblhau asesiad risg, mewn cydweithrediad â'r Adran Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd, lle ceir pryderon o fewn y gweithle;
  • Rhoi gwybodaeth yn ôl yr angen, ond dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny y dylid rhoi gwybodaeth ysgrifenedig am wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn lleol. Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth ysgrifenedig y gallai'r sawl sy'n cam-drin ei chanfod, a hynny wedyn yn rhoi'r dioddefwr mewn rhagor o berygl;
  • Anogwch yr aelod o staff i ddarparu rhifau cyswllt a chyfeiriadau diogel fel nad yw unrhyw ohebiaeth rhyngddynt hwy a'r Brifysgol yn peryglu eu diogelwch personol;
  • Dim ond os ceir pryder ynghylch perygl di-oed i'r aelod o staff, cyd-weithwyr, myfyrwyr neu i blant neu oedolion sydd mewn perygl o niwed (gweler y Polisi Diogelu am ragor o fanylion) y dylech ystyried torri cyfrinachedd. Bydd cyfrinachedd hefyd yn cael ei dorri pan fernir bod y person sy'n datgelu yn agored i niwed neu lle mae plant ynghlwm â'r sefyllfa, yn unol â'r Polisi Diogelu.

D.S. Gellir torri cyfrinachedd hefyd â chydsyniad yr aelod o staff neu lle bo hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Mae'n bosibl y bydd aelodau o staff o'r farn na fydd pobl yn eu credu. Efallai y byddant wedi ceisio datgelu o'r blaen, ac na roddwyd ystyriaeth o ddifrif iddynt, neu efallai y bydd y sawl sy'n eu cam-drin wedi dweud wrthynt na chânt eu credu. Mae'n hynod o bwysig gwrando'n ofalus yn hytrach na chwilio am arwyddion uniongyrchol o gamdriniaeth, gan ei bod yn bosibl na fydd unrhyw dystiolaeth y gellir ei gweld. Nid yw pob achos o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio yn arwain at anafiadau corfforol.  

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu wedi mynd ati ar y cyd i ddatblygu rhestr o ddeg cam gweithredu i helpu i ymdrin â cham-drin domestig yn y gweithle. Mae'r camau gweithredu yn amlygu sut y gall rheolwyr adnabod y broblem, ymateb iddi, rhoi cefnogaeth a chyfeirio unigolion at asiantaethau cymorth addas. Gweler Atodiad 4 i gael manylion.

Partneriaid Busnes AD

Gall Partneriaid Busnes AD hefyd roi cyngor a chymorth i aelodau o staff a rheolwyr ynghylch y Polisi hwn.

Gall hefyd, mewn rhai achosion, fod yn addas cynnig y dewis i siarad â chyd-weithiwr arall neu atgyfeirio i'r tîm Iechyd Galwedigaethol. 

Os oes gan yr aelod o staff sy'n datgelu camdriniaeth a'r sawl yr honnir ei fod yn ei gyflawni ill dau gysylltiad â'r Brifysgol, dylid gofyn am gyngor gan y Partner Busnes AD fel y gellir cydlynu'r camau a gymerir a'r cymorth a roddir er mwyn sicrhau diogelwch a lles yr aelod o staff sy'n gwneud y datgeliad pan fydd yn y gwaith.

Os yw'r aelod o staff yn credu y gallai fod mewn perygl di-oed o ymosodiad difrifol wrth adael y gweithle, rhaid trafod y mater yn gyntaf â'r Partner Busnes AD a, lle bo angen, rhaid uwchraddio'r mater i sylw'r Prif Swyddog Diogelu Staff a'r Swyddog Adrodd Dynodedig, a fydd o bosibl yn cyfeirio'r mater at yr Heddlu.  

Y Tîm Diogelwch

Os nad yw'r sawl yr honnir ei fod yn cam-drin yn aelod o staff ond ei fod yn dod i'r Brifysgol yn rhan o'r patrwm ymddygiad, dylai Rheolwyr hefyd ystyried trafod â Thîm Diogelwch y Brifysgol. Dim ond â chaniatâd penodol yr aelod o staff (y dioddefwr) ac ar ôl cael cyngor gan yr Adran AD y dylid gwneud hyn.

Cyflawnwyr Cam-drin Domestig

Os bydd aelod o staff yn datgelu ei ymddygiad camdriniol ei hun wrth reolwr neu gyd-weithiwr, bydd y Brifysgol yn rhoi gwybodaeth iddynt am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael, gan gynnwys eu cyfeirio at y tîm Iechyd Galwedigaethol neu'r Rhaglen Cymorth i Staff a chyrff cymorth allanol priodol.

Ymdrin â honiadau ynghylch cyflawnwyr trais neu gam-drin domestig, neu ddatgeliadau gan yr unigolion hynny

Mae’r Brifysgol yn cydnabod ei bod yn chwarae rhan bwysig wrth annog aelodau o staff i fynd i'r afael ag ymddygiad treisgar a chamdriniol, gan gynnwys ymddygiad o'r fath sy'n digwydd y tu hwnt i dir y Brifysgol. 

Ymdrinnir â honiadau o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio a wneir ynghylch aelod o staff yn unol â'r Polisi hwn, mewn cydweithrediad ag unrhyw bolisi/gweithdrefn arall berthnasol (e.e. Polisi Disgyblu Brifysgol). Os bernir bod hynny'n briodol, mae'n bosibl hefyd y bydd y Brifysgol yn cynnwys yr Heddlu yn y mater. 

Bydd y Brifysgol yn cydymffurfio'n llwyr ag unrhyw ymchwiliad gan yr heddlu mewn perthynas â honiadau o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio a wneir ynghylch aelod o staff.

Dilynir yr egwyddorion allweddol hyn wrth ymwneud â honiadau neu ddatgeliadau:

  • Ymdrinnir ag unigolion sy'n datgelu, neu sy'n destun honiad, mewn modd teg a chefnogol;
  • Cynghorir unigolion i ofyn am gymorth;
  • Cynhelir unrhyw ymchwiliad mewnol heb ragfarn ac yn annibynnol, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol;
  • Ymchwilir i achosion cyn gyflymed â phosibl, gan osgoi unrhyw oedi diangen;
  • Bydd y Brifysgol yn cydymffurfio'n llwyr ag unrhyw ymchwiliad allanol mewn perthynas â honiadau o gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio a wneir ynghylch aelod o staff.

Mewn achosion lle mae'r sawl sydd wedi dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio a'r sawl a'i cyflawnodd ill dau'n aelodau o staff, cymerir camau di-oed i sicrhau, orau y gellir, nad yw'r ddau'n dod i gysylltiad yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y systemau'n atal datgelu gwybodaeth bersonol megis cyfeiriadau newydd. Rhaid cofnodi pob cam a gymerir yn yr asesiad risg.

Bydd agwedd y Brifysgol yn un ddifrifol iawn ynghylch unrhyw weithred gan gyflawnwr lle defnyddiodd ei swydd neu adnoddau gwaith (gan gynnwys amser) i ganfod lleoliad dioddefwr. Yn unol â hynny, gall y Brifysgol weithredu rhag blaen, gan gynnwys atal y defnydd o adnoddau ac/neu weithredu dan y Polisi Disgyblu, os bernir bod angen.  

Yr Hawl i Breifatrwydd

Mae'r Brifysgol yn parchu hawl ei holl aelodau o staff i breifatrwydd. Felly, er ein bod yn rhoi anogaeth gref i'r sawl sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio ddatgelu'r wybodaeth hon, nid yw'n ofynnol i unrhyw aelod o staff wneud hynny.

Anogir aelodau o staff i roi gwybod i AD mewn achosion lle mae ymchwiliad i honiadau eisoes ar droed, boed hwy'n cael eu hystyried yn ddioddefwr neu boed honiad eu bod hwy wedi cyflawni cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu stelcio. Nod y Brifysgol fydd ymdrin ag unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig ag ymchwiliadau o'r fath fesul achos unigol.

Er gwaethaf yr uchod, rhaid i unrhyw aelod o staff sy'n cael ei ganfod yn euog o drosedd (gan gynnwys derbyn rhybudd neu orchymyn cymunedol neu benderfyniad arall y tu allan i'r llys) ddatgelu hyn wrth yr Adran AD (trwy thrstaff@aber.ac.uk) yn ddi-oed, a nod hyn fydd lleihau'r risg i gyd-weithwyr a chefnogi'r aelod o staff i newid eu hymddygiad.

Hyfforddiant

Darperir Hyfforddiant Ymyrraeth Gwyliedydd i staff. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio, gan gynnwys deall yr ystyriaethau a'u heffaith, ymateb i ddatgeliadau ac atgyfeirio/cyfeirio. Bydd hyfforddiant o'r fath yn orfodol i'r staff allweddol sydd wedi'u nodi, gan gynnwys aelodau o AD, y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, a staff Diogelwch.

Mae rhestr o'r aelodau o staff sydd wedi cael hyfforddiant, a manylion cyswllt ar eu cyfer, ar gael ar wefan AD. 

Y gwaith papur ynghylch datgeliad

Dylai'r holl wybodaeth a ddatgelir gael ei chofnodi'n gywir. Bydd gwaith papur trylwyr yn helpu i greu darlun o natur a graddfa'r gamdriniaeth. Gellir rhyddhau'r wybodaeth hon i drydydd parti, gyda chaniatâd y dioddefwr, a gallai hyn gynorthwyo mewn achos cyfreithiol yn y dyfodol i sicrhau bod y dioddefwr yn cael ei erlyn ac i ddiogelu'r dioddefwr. 

Mae hyn yn bwysig, hyd yn oed os nad yw'r person sy'n gwneud y datgeliad eisiau dwyn achos ar hyn o bryd. Os byddant yn newid eu meddwl yn nes ymlaen, neu os yw'r heddlu'n awyddus i erlyn heb ddioddefwr, gallai'r dystiolaeth hon fod yn holl bwysig. Gellir hefyd ei defnyddio fel tystiolaeth o amgylchiadau lliniarol. 

Dylai gwaith papur ysgrifenedig fod yn ffeithiol, ond mae'n bwysig hefyd cofnodi unrhyw bryderon, a sail y pryderon hynny. Dylid anfon cofnodion at AD er mwyn iddynt eu cadw'n ddiogel yn ffeil yr aelod o staff. Gall cofnodion o'r fath gynnwys anafiadau, symptomau ac unrhyw ddatgeliad o gamdriniaeth. Mae tystiolaeth ffotograffig yn ddefnyddiol hefyd. Dylid hefyd nodi apwyntiadau a fethwyd a galwadau na chawsant eu hateb.

Diogelwch

Yn ôl arolwg gan Universities UK, bydd y sawl sy'n profi sawl math o wahaniaethu - gan gynnwys pobl BAME, menywod, pobl anabl a phobl LGBT - yn wynebu mwy o rwystrau i ddiogelwch. Felly bydd angen i reolwyr ystyried gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol posibl a allai olygu bod angen cymorth arbenigol ar staff, a chyfeirio penodol at gyrff allanol o'r fath (gweler Atodiad 2).

Dylid rhoi blaenoriaeth felly i ddiogelwch yr unigolyn sy'n datgelu cam-drin domestig, trais rhywiol ac/neu stelcio. Dylid gofyn yn uniongyrchol i'r person sy'n datgelu a ydynt yn pryderu am eu diogelwch. Os ydynt, yna dylid dilyn y Polisi Diogelu a dylid cwblhau asesiad risg.  

Dylid defnyddio'r Asesiad Risg hwn o fewn fframwaith Polisi Diogelu'r Brifysgol. Gall dweud wrth rywun eu bod yn wynebu risg uchel o niwed difrifol fod yn brofiad brawychus iddynt, a gallai clywed hynny fod yn drech na hwy. Felly mae’n bwysig bod yr asesiad risg yn cael ei gyflawni gan aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant. Mae rhagor o gyngor a chanllawiau ar gael trwy gysylltu â hse@aber.ac.uk

D.S. Dylid nodi hefyd na ddylid dweud wrth bobl sy'n datgelu cam-drin domestig y dylent adael y berthynas. Ni ddylid annog rhywun i adael heb gefnogaeth a heb fod ganddynt gynllun diogelwch mewn lle. Gall unigolyn baratoi cynllun diogelwch gyda chefnogaeth pobl eraill er mwyn ei greu a'i roi ar waith. Bydd cynllun diogelwch yn aml yn cynnwys ystod o wahanol ffactorau, a phob un ohonynt wedi'i gynllunio i ddiogelu'r unigolyn, yn enwedig os ydynt yn penderfynu gadael partner.

Asesiadau Effaith

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnwys y Cynllun Cydraddoldeb yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn ar gydraddoldeb yn unol â’r cynllun hwn. 

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i ymgorffori Safonau Iaith 2018 yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i dulliau gweithio. Aseswyd effaith y polisi hwn ar y Gymraeg yn unol â'r safonau hyn.  

 

Adolygu’r Polisi

Bydd Adnoddau Dynol yn cydlynu adolygiad o’r polisi hwn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith ac ymarfer da. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghori ag undebau llafur cydnabyddedig, a bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn cael eu cyflwyno i’r pwyllgor perthnasol priodol, Grŵp Gweithredol y Brifysgol a’r Cyngor os bydd angen.  

Fersiwn 1.1

Dyddiad Adolygiad Diwethaf: Chwefror 2021

Dyddiad Adolygiad Nesaf: Chwefror 2026