Croeso i'r Brifysgol
Mae dechrau swydd newydd yn amser cyffrous, ac rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol ac yn eich adran. Nid digwyddiad unigol yw'r broses gynefino, ond proses barhaus sy'n digwydd dros eich misoedd cyntaf o gyflogaeth.
Bydd eich rheolwr llinell a'ch cydweithwyr yn eich cefnogi a'ch arwain wrth i chi ymgyfarwyddo â'ch rôl, eich cyfrifoldebau a'ch amgylchedd gwaith. Byddant yn eich helpu i ddeall prosesau lleol, yn eich cyflwyno i gysylltiadau allweddol, ac yn sicrhau bod gennych fynediad at yr wybodaeth, yr hyfforddiant a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Yn ogystal â'r gefnogaeth a gewch gan eich adran, mae'r Brifysgol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, cyfleoedd dysgu a gweithgareddau croeso sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i deimlo'n rhan o'n cymuned ac i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o werthoedd, diwylliant a ffyrdd o weithio'r Brifysgol.
Cynhelir Digwyddiadau Croeso i Staff Newydd ar y dyddiadau canlynol:
- Dydd Mercher 9 Rhagfyr
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol - hr@aber.ac.uk
