Rhaglen Cymorth i Staff

Beth yw Rhaglen Cymorth i staff?

Mae’r Rhaglen Cymorth yn wasanaeth cyfrinachol 24/7 sy'n darparu man diogel ar gyfer cymorth, cyngor ac arweiniad gydag unrhyw broblemau personol neu broffesiynol a allai effeithio ar eich iechyd a'ch lles cyffredinol - a ddarperir gan HA | Wisdom Wellbeing - darparwr lles blaenllaw'r DU ac Iwerddon.

Nid yw'n hawdd cydbwyso pwysau gwaith, bywyd cartref, ac unrhyw faterion personol eraill y gallech fod yn eu profi. Mae HA | Wisdom Wellbeing yn darparu cymorth ac arweiniad i staff a'u teulu agos (priod/partneriaid a phlant 16 i 24 oed mewn addysg amser llawn, sy’n byw yn yr un cartref).

Sut mae cael mynediad i’r Rhaglen Gymorth?

Cysylltwch dros y ffôn, sgwrs fyw a thrwy’r ap

Ar adeg sy'n teimlo'n iawn i chi, efallai y byddwch yn teimlo bod angen i chi gysylltu i geisio cymorth emosiynol neu ymarferol. Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd y gall fod i gymryd y camau cyntaf hynny. Mae gan HA | Wisdom Wellbeing gwnselwyr cymwys a phrofiadol sy'n barod i wrando a rhoi arweiniad pan fydd eu hangen arnoch fwyaf. Mae’r gwasanaeth am ddim ac ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn felly mae cymorth ar gael bob amser. Nid oes angen i chi roi gwybod i unrhyw un na gofyn am ganiatâd gan eich rheolwr na'ch sefydliad cyn cysylltu â HA | Wisdom Wellbeing.

Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio’r gwasanaeth hwn?

  • Straen a phryder
  • Materion teuluol
  • Perthnasau
  • Gwybodaeth feddygol
  • Materion defnyddwyr
  • Gwybodaeth am dreth
  • Pryderon yn ymwneud â thai
  • Ymddeoliad
  • Profedigaeth
  • Materion yn ymwneud ag alcohol neu gyffuriau
  • Hwyliau isel
  • Llesiant a gwybodaeth ariannol
  • Gwybodaeth gyfreithiol

Pa wasanaethau llesiant sydd ar gael i chi?

  • Cymorth bywyd: Mynediad at gwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn, ac ar-lein, eich bywyd ac arweinyddiaeth, hyfforddiant
  • Llinell gymorth: Mynediad diderfyn i'r llinell gymorth gyfrinachol 24/7/365 sydd wedi’i lleoli yn y DU i chi a'ch aelodau teulu agos - rhif cyswllt
  • Cymorth ar ôl profedigaeth: Cyngor, arweiniad a chwnsela ar gyfer galar ar ôl profedigaeth, yn ogystal â chymorth cyfreithiol ar gyfer materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â galar.
  • Ap Wisdom: Wisdom yw eich canllaw i iechyd a lles meddyliol. Mae'r nodweddion newydd sbon wedi'u cynllunio i’ch helpu i olrhain eich llesiant, a gwella eich iechyd meddwl.
  • Cymorth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein: Modiwlau hunangymorth, taflenni ffeithiau a fideos canllaw gan gwnselwyr cymwys blaenllaw ar gyfer ystod eang o anghenion, gan gynnwys pryder, iselder, a'r menopos.
  • Gwybodaeth feddygol: Cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol gan nyrsys cymwys ar gyfer ystod eang o faterion meddygol sy'n gysylltiedig ag iechyd.
  • Adnoddau Llesiant - offer hunangymorth ac amryw o fodiwlau llesiant, taflenni ffeithiau, a chwnsela amhrisiadwy dros fideo.*
  • Cynlluniau iechyd 4 wythnos o hyd: wedi'u cynllunio i gefnogi eich nodau iechyd, boed hynny'n golygu bwyta'n iachach, rhoi'r gorau i ysmygu, cysgu'n well, neu ymdopi â phwysau.
  • Fideos Llesiant: Mae WisdomTV yn gyfres fisol, sy’n cynnwys wynebau adnabyddus yn siarad am eu profiadau personol

*Bydd angen asesiad clinigol, i helpu i reoli disgwyliadau