System Cofnodi Digwyddiadau Ar-lein

O Medi 2022, fe fydd y Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn cyflwyno system cofnodi digwyddiadau ar-lein, yn lle’r system bapur sydd ar gael ar hyn o bryd, ar gyfer cofnodi digwyddiadau ac achosion trwch blewyn. Bwriedir lansio’r system cofnodi digwyddiadau ar-lein ar 1 Medi 2022, a gofynnir i gydweithwyr ddefnyddio’r system wrth gofnodi unrhyw ddigwyddiadau neu achosion trwch blewyn o’r dyddiad hwnnw.

Buddion System Cofnodi Digwyddiadau Ar-lein

Gobeithir y bydd cyflwyno’r system cofnodi digwyddiadau ar-lein yn gwella’r modd y gellir adrodd am unrhyw ddigwyddiadau neu achosion trwch blewyn ym mhob Cyfadran ac Adran Gwasanaethau Proffesiynol, gwella gwelededd a’r gallu i adnabod a datrys digwyddiadau ac achosion trwch blewyn yn lleol, a lleihau’r baich gweinyddol o gynnal a chofnodi darganfyddiadau ymchwiliadau lleol i ddigwyddiadau.

Beth i'w Gofnodi?

Dylid defnyddio’r system cofnodi digwyddiadau ar-lein er mwyn cofnodi pob digwyddiad a phob damwain a osgowyd o drwch blewyn. Dylid cofnodi pob digwyddiad a phob damwain a osgowyd o drwch blewyn, waeth pa mor ddifrifol oedd y digwyddiad a pha mor debygol ydyw o ddigwydd eto. Mae’r diffiniadau fel a ganlyn:

  • Digwyddiad = Unrhyw ddigwyddiad nas ceisiwyd neu nas cynlluniwyd sydd wedi, neu a allai fod wedi, achosi marwolaeth, anaf, afiechyd neu ddifrod i asedau, yr amgylchedd neu i drydydd parti.
  • Damwain a osgowyd o drwch blewyn = Unrhyw ddigwyddiad a allai, o dan amgylchiadau ychydig yn wahanol, fod wedi arwain at anaf neu afiechyd, neu at ddifrodi neu golli eiddo, peiriannau, deunyddiau neu’r amgylchedd.
  • Amgylchiad Annymunol = Set o amodau neu amgylchiadau sydd â'r potensial i achosi anaf neu afiechyd.

Pam Cofnodi?

Gall rhoi gwybod yn brydlon am ddigwyddiadau a damweiniau a osgowyd o drwch blewyn, ac ymchwilio iddynt, fod o gymorth wrth ganfod:

  • Newidiadau angenrheidiol i ddulliau gweithredu safonol;
  • Anghenion neu ofynion hyfforddiant pellach;
  • Unrhyw fesurau rheoli presennol sy'n annigonol;
  • Tueddiadau a phatrymau e.e. mathau penodol o ddigwyddiadau, dyddiau/amserau cyffredin, ac yn y blaen.
  • Peryglon neu ganlyniadau nas rhagwelwyd.

Trwy fynd i'r afael â'r materion hyn gellir lleihau'r tebygrwydd y bydd hyn yn digwydd eto ac/neu leihau difrifoldeb digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

Cwblhau Ffurflen Cofnodi Digwyddiadau

Cewch wybodaeth bellach ynghylch sut i gwblhau ffurflen cofnodi digwyddiadau yma.

Ymchwilio i Ddigwyddiadau

Gofynnir i Benaethiaid Adrannau amlygu’r cydweithwyr a fydd o bosibl yn ymgymryd ag ymchwiliadau i ddigwyddiadau yn eu hardal gwaith. Bydd angen i’r cydweithwyr hyn gwblhau’r hyfforddiant ymchwilio i ddigwyddiadau cyn y cânt fynediad i elfen ymchwilio i ddigwyddiad y system.

Bydd y cwrs hyfforddi ymchwilio i ddigwyddiadau yn darparu trosolwg o’r egwyddorion a’r technegau sylfaenol ar gyfer ymgymryd ag ymchwiliadau i ddigwyddiadau, ynghyd â chyflwyniad i’r system cofnodi digwyddiadau ar-lein.

Cewch wybodaeth bellach ynglŷn â’r hyfforddiant hwn, a’r dyddiadau sydd ar gael, yma.

Gwybodaeth Bellach

Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ynghylch y system cofnodi digwyddiadau ar-lein, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk.