Croeso i Gwasanaethau Gwybodaeth (G.G.) - Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn darparu gwasanaethau TG a Llyfrgell i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn amodol ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Bydd arnoch angen cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth a Cherdyn Aber i fedru defnyddio ein hadnoddau.
Eich Cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i:
- gael mynediad i’ch e-bost Prifysgol a’ch storfa ffeiliau
- cael mynediad i gyfleusterau cyfrifiadurol ar y campws
- cael mynediad i ffynonellau gwybodaeth electronig e.e. elyfrau, egyfnodolion
- cael mynediad i Blackboard, amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol
- cael mynediad i’ch cyfrif llyfrgell i reoli eich benthyciadau
- cael mynediad i feddalwedd sy’n rhad ac am ddim i chi o dan drwydded y Brifysgol
- cyhoeddi gweddalennau ar weinyddwr y Brifysgol
- ApAber - rhad ac am ddim oddi wrth eich App Store
Bydd modd i chi gychwyn eich cyfrif IT Prifysgol yn fuan cyn i’ch cwrs ddechrau. Bydd arnoch angen eich rhif myfyriwr a gallwch gael hwn o’r Swyddfa Gyffredinol Dysgu Gydol Oes.
Caiff eich Cerdyn Aber ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:
- yn gerdyn adnabod myfyriwr
- Prynu bwyd ym mannau bwyta’r Brifysgol
- Benthyca o’r llyfrgell gan gynnwys defnyddio’r peiriannau hunan-fenthyca
- Defnyddio'r llyfrgell tu allan i oriau craidd (i ddod mewn neu i adael)
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Eich cerdyn i’r Ganolfan Chwaraeon
Ar ôl ichi roi eich cyfrif e-bost ar waith dylech wneud cais am eich cerdyn Aber fel y bydd yn barod ar eich cyfer pan gyrhaeddwch y campws.
Myfyrwyr Dysgu Gydol Oes
Primo (adnoddau electronig)
- Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn tanysgrifio i amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth ar-lein gan gynnwys e-gyfnodolion ac e-lyfrau sydd hefyd ar gael oddi ar y campws. Mae’r rhain ar gael drwy Primo http://primo.aber.ac.uk
- Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r adnoddau hyn oddi ar y campws yn ein Cwestiwn Cyffredin ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws
Adnoddau’r llyfrgell
- Mae Primo – catalog y llyfrgell ar gael ar y campws ac oddi arno ar: http://primo.aber.ac.uk
- Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi â'ch eich enw defnyddiwr a chyfrinair y Brifysgol i ddefnyddio eich cyfrif llyfrgell er mwyn i chi allu cadw llyfrau neu’u hadnewyddu ar-lein.
- Ceir gwybodaeth am ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol a benthyca o’n casgliadau ar ein gweddalennau Llyfrgell
- Yn ogystal â defnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol gallwch hefyd ddefnyddio adnoddau llyfrgell mewn llyfrgelloedd eraill.
Cyswllt ar gyfer y dudalen hon:
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk
Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Hugh Owen, Penglais, Aberystwyth, SY23 3DZ
Ffôn: 01970 62 2400 Ebost: gg@aber.ac.uk