Clicio a Chasglu o Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth

Clicio a chasglu

  • Gall defnyddwyr wneud cais am eitemau o Lyfrgelloedd y Brifysgol drwy Primo - catalog y llyfrgell.
  • Gallwch wneud cais am eitemau o Lyfrgell Hugh Owen, Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol ac o’r Storfa Allanol.
  • Mae'r gwasanaeth clicio a chasglu ar gael ar gyfer eitemau nad ydynt ar gael ar-lein yn unig.
  • Bydd staff y llyfrgell yn casglu'r eitemau y gofynnir amdanynt o’r silffoedd a'u gosod ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen i chi eu casglu.
  • Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd eich eitem yn barod.
  • Bydd llyfrau yn cael eu cadw ar eich cyfer am 3 diwrnod.
  • Gall Myfyrwyr a Staff wneud cais at hyd at 10 eitem ar unrhyw adeg.
  • Bydd angen i chi ddod â'ch Cerdyn Aber gyda chi er mwyn cael mynediad i'r adeilad ac i ddefnyddio'r peiriant hunan-fenthyca ac i ddefnyddio'r loceri casglu.

 

 Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ddefnyddio’r Gwasanaeth hwn ar ein Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.

Eich Diogelwch

I amddiffyn eich hun ac eraill gofynnwn i chi:

  • Defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn, ac yn rheolaidd wrth ddefnyddio'r Llyfrgell.
  • Defnyddio'ch Cerdyn Aber eich hun i gael mynediad i mewn ac allan o'r llyfrgell.
  • Peidio â dod i’r Llyfrgell os ydych chi'n sâl.

Byddwn yn sicrhau:

  • Bod staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir.
  • Bod glanhau rheolaidd yn cael eu gwneud.
  • Bod gorsaf diheintio dwylo ar gael wrth y fynedfa
  • Bod cadachau diheintio ar gael i chi sychu arwynebau yn ôl yr angen