Rhwymo

Mae’r gwasanaeth ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.

Gallwn argraffu a rhwymo, rhwymiad caled neu rwymiad meddal o gopîau personol o'ch traethawd hir neu draethawd ymchwil.

Pan fydd eich gwaith rhwymol yn barod, gallwch eu casglu o'r ddesg ymholiadau Llyfrgell Hugh Owen, neu gallwn anfon y gwaith rhwymol atoch.

Sut mae'r gwasanaeth yma yn gweithio:

  • Cwblhewch y ffurflen isod ac atodwch PDF o'ch gwaith
  •  Ar ôl derbyn eich PDF, byddwn yn cyfrifo'r gost am
    • Argraffu
    • Rhwymo
    • Labeli meingefn (os yn berthnasol)
    • Postio a phacio (os yn berthnasol)
  • Byddwn yn anfon e-bost atoch:
    •  Rhif y swydd
    • Y pris
    • Manylion sut i wneud taliad ar-lein gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd trwy ein gwefan.
  • Noder  -  Ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes bydd y taliad wedi'i dderbyn
  • Caniatewch 7 diwrnod gwaith i'ch gwaith gael ei rwymo

 Mae'r opsiynau rhwymo fel a ganlyn:

Rhwymiad meddal
£3.00
Dyma nodweddion y rhwymiadau yma:
  • meingefn dur caled
  • asetad clir ar y blaen a'r cefn
  • cerdyn graen lledr du wedi'i osod y tu ôl i'ch dogfen
  • y tudalennau wedi'u glynu wrth feingefn y rhwymiad gyda glud
Labeli meingefn £1.00
Ar gael ble mae'r ddogfen yn 100 o ddalennau neu fwy  ‌
Rhwymiad caled
£12.00
  • Mae gan y rhwymiadau hyn glawr caled [Du yn unig]
  • Labeli meingefn yn dod yn safonol
  • Noder: Dim ond gwaith o 100 dalen a throsodd gall gael ei rhwymo mewn rhwymiad caled
     Bydd gwaith sydd a dros 325 o dudalennau yn cael eu rhwymo mewn dwy gyfrol
 

 Gwnewch eich cais rhwymo

Pa fath o rwymo sydd angen arnoch? Dim ond gwaith sy'n cynnwys dros 100 o ddalennau y gellir ei rwymo'n galed. Fel arfer caiff gwaith ei argraffu un ochr ar bapur 80gsm.
Ydych chi eisiau iddo gael ei argraffu mewn du a gwyn neu liw. Os dewiswch liw, dim ond ar gyfer y tudalennau gwirioneddol sydd â lliw y codir tâl arnoch am argraffu lliw, codir tâl ar bopeth arall fel du a gwyn.
Mae labeli meingefn yn dod ar rwymiadau caled. Os yw eich rhwymiad meddal yn fwy na 100 tudalen gallwch gynnwys label meingefn. Cadarnhewch os oes angen

Darparwch y manylion chi eisiau ymddangos ar y meingefn:

A fyddwch chi'n casglu'ch gwaith neu a fyddech chi'n hoffi iddo gael ei bostio (bydd costau postio a phacio yn berthnasol)

Er mwyn i ni bostio eich gwaith mi fydd angen i chi gynnwys: