Cymorth Llyfrgell i fyfyrwyr Aber Ar-lein

Os ydych chi'n astudio un o gyrsiau Aber Ar-lein, mae gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â defnyddio'r Llyfrgell ar gael yn eich modiwl Ymgyfarwyddo â Canvas.

Dysgir eich cyrsiau'n gyfan gwbl ar-lein ac mae'r cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau yn cael eu darparu ar-lein hefyd. 

Gallwch:

  • Ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau Llyfrgell y Brifysgol ar-lein.
  • Darllen llyfrau ac e-gylchgronau ar-lein o Gatalog y Llyfrgell
  • Cael cymorth i ddefnyddio gwasanaethau ac adnoddau’r Llyfrgell gan eich llyfrgellydd pwnc drwy e-bost, ffôn a sgwrs ar-lein