Clicio a Chasglu o Lyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth
Noder:
Mae’r Gwasanaeth Clicio a Chasglu yn gweithredu:
Dydd Llun - Ddydd Gwener: 08.30 - 20.30
Dydd Sadwrn - Dydd Sul - 08.30 - 17.30
Clicio a chasglu
- Gall defnyddwyr wneud cais am eitemau o Lyfrgelloedd y Brifysgol drwy Primo - catalog y llyfrgell.
- Gallwch wneud cais am eitemau o Lyfrgell Hugh Owen, Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol, Ystafell Darllen Campws Gogerddan ac o’r Storfa Allanol.
- Bydd staff y llyfrgell yn casglu'r eitemau y gofynnir amdanynt o’r silffoedd a'u gosod ar Lefel D Llyfrgell Hugh Owen i chi eu casglu.
- Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd eich eitemau yn barod gyda gwybodaeth ar sut i archebu slot amser i gasglu eich eitemau.
- Bydd llyfrau yn cael eu cadw i chi am 5 diwrnod.
- Gall Myfyrwyr a Staff wneud cais at hyd at 10 o eitemau ar unrhyw adeg. Gall Darllenwyr categorïau eraill wneud hyd at 5 cais ar unrhyw adeg.
- Gallwch ddychwelyd eich benthyciadau llyfrgell pan fyddwch yn casglu eich ceisiadau.
- Bydd angen i chi ddod a’ch Cerdyn Aber gyda chi er mwyn cael mynediad i’r adeilad ac i ddefnyddio’r peiriant hunan-fenthyca.
Mae mwy o wybodaeth am ddefnyddio’r Gwasanaeth hwn ar ein Cwestiynau Cyffredin Clicio a Chasglu.
Gwasanaethau sydd ar gael
- Clicio a Chasglu - trwy archebu slot ymlaen llaw yn unig
- Casglu benthyciadau offer - trwy archebu slot ymlaen llaw yn unig
- Dychwelyd benthyciadau llyfrgell – llyfrau ac offer - unrhyw amser yn ystod yr oriau agor a hysbysebir
- Argraffu, llungopïo a sganio - unrhyw amser yn ystod yr oriau agor a hysbysebir
- Casglu Cardiau Aber - unrhyw amser yn ystod yr oriau agor a hysbysebir
- Casglu laniard eithrio gorchydd gwyneb - ar unrhyw adeg yn ystod yr oriau a hysbysebir
- Ymgynghori â eitemau nad ydynt ar gael i’w benthyg - drwy drefniant ymlaen llaw
- Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau - trwy archebu slot ymlaen llaw yn unig
- Cyfleusterau gwylio DVD - trwy archebu slot ymlaen llaw yn unig
- Gwasanaeth ymholiadau wyneb yn wyneb
- Gwerthiant papurach a defnyddiau traul
Darperir mynediad i fannau astudio, cyfleusterau cyfrifiadurol ac ystafelloedd astudio unigol trwy archebu slotiau yn Ystafell Iris De Freitas
Gwasanaethau nad ydynt ar gael ar hyn o bryd
- Rhwymo
- Pori’r casgliadau
- Rhoddion i’r Llyfrgell heblaw rhai sydd wedi eu trefnu o flaen llaw
- Lamineiddio
- Loceri
- Papurau Newydd
- OPAC’s
- Ymgynghori Llyfrau Anghyffredin a dogfennau archifdy
Eich Diogelwch
- Gofynnwn i ddefnyddwyr ymweld â’r Llyfrgell yn ystod eu slot amser penodol yn unig
- Gofynnwn i bob defnyddiwr defnyddio hylif glanweithiol cyn dod i mewn i’r Llyfrgell. Mi fydd orsaf hylif lanweithiol wrth y fynedfa.
- Gofynnwn i bob defnyddiwr ddilyn y rheolau o gadw pellter Cymdeithasol 2 fedr.
- Dim ond defnyddwyr sydd yn casglu ei eitem/au cais a ddylir dod i mewn i’r Llyfrgell
- Rhaid i bob defnyddiwr ddefnyddio Cerdyn Aber i gael mynediad i’r Llyfrgell
- Rhaid i bob defnyddiwr ddefnyddio cerdyn Aber i gael gadael y Llyfrgell
- Gofynnwn i bob defnyddiwr gydymffurfio a’r system unffordd
- Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb tu fewn i adeiladau'r Brifysgol.
- Mi fydd nifer cyfyngedig o ddefnyddwyr yn y Llyfrgell ar yr un pryd.
- Mi fydd staff sydd yn gweithio yn y Llyfrgell yn dilyn arferion hylendid a argymhellir
- Peidiwch ddod i’r Llyfrgell os ydych yn sâl. Y brîf symptomau o COVID-19 yw:
- Peswch newydd parhaus
- Tymheredd uchel
- Newid neu golled i’ch gallu i flasu ac arogli yn arferol (anosmia)