Mae Prifysgol Aberystwyth yn dal trwydded gan yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA), sy'n caniatáu i staff y llyfrgell ddigideiddio, neu sganio deunydd i ddibenion dysgu academaidd, yn amodol ar gael caniatâd deiliad yr hawlfraint, cyfyngiadau trwydded, a chronfeydd y ganolfan gostau. Ceir crynodeb o'r drwydded drwy fynd i'r dudalen we https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/digitisation/cla/
Mae'r llyfrgell yn darparu'r gwasanaeth digideiddio trwy'r system rhestrau darllen ar-lein, Aspire. Gan weithio o fewn i reoliadau hawlfraint, gellir sganio penodau o lyfrau ac erthyglau o gyfnodolion a'u cysylltu'n uniongyrchol i'r rhestr ddarllen berthnasol yn Aspire. Mae'r gwasanaeth digideiddio yn defnyddio Storfa Cynnwys Digidol y CLA i sicrhau cydymffurfio â hawlfraint ac i ddarparu'r detholiadau a gafodd eu digideiddio ar ffurf dolenni y gall myfyrwyr eu defnyddio i agor dogfennau PDF.
Mae staff y llyfrgell yn sicrhau cydymffurfio trwy:
- chwilio i weld a oes cyfyngiadau hawlfraint
- creu detholiadau digidol proffesiynol a safonol
- llwytho dolenni'n uniongyrchol i restr ddarllen y modiwl yn Aspire
- cadw cofnodion ac adroddiadau fel y mae'r drwydded yn mynnu
Yn ôl Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Drwyddedu Hawlfraint (Copyright Licensing Agency), mae'r terfynau canlynol yn berthnasol ar gyfer digideiddio deunydd ar gyfer modiwl:
- un pennod gyfan o lyfr
- un erthygl gyfan o rifyn cylchgrawn / cyfnodolyn
- un olygfa gyfan o ddrama
- un papur cyfan o set o drafodion cynhadledd
- un adroddiad cyfan o achos sengl o nifer o achos barnwrol
- un stori fer, cerdd neu ddrama (heb fod yn fwy na 10 tudalen o hyd) o flodeugerdd
neu 10% o gyfanswm y cyhoeddiad (pa un bynnag sydd fwyaf).
Manteision i fyfyrwyr - pam digideiddio deunydd ar restrau darllen?
- Mynediad 24/7 i bob myfyriwr, gan gynnwys dysgwyr pell ac defnyddwyr oddi ar y campws.
- Yn lleihau’r pwysau ar stoc benthyciadau ac yn datrys problemau eitemau ar goll neu wedi’u camleoli.
- Yn gwella argaeledd adnoddau, gan sicrhau bod deunyddiau’n diwallu anghenion myfyrwyr.
- Yn cefnogi cydymffurfiaeth hawlfraint o dan drwydded CLA, gan osgoi cosbau.
- Yn annog darllen ehangach drwy wneud adnoddau print yn unig yn hygyrch i fwy o fyfyrwyr.