Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)
Beth yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA)?
Gellir defnyddio’r lwfans i roi’r cymorth ychwanegol sy’n angenrheidiol i fyfyrwyr ag anableddau. Ei fwriad yw darparu cyllid ar gyfer eitemau a fydd yn gymorth i unioni unrhyw anfanteision a fo ar y myfyrwyr hynny.
Gwybodaeth pellach am LMA a sut i wneud cais
Beth y gellir ei ddarparu?
Pwrpas y LMA yw darparu cyllid i dalu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch cwrs AU, ac sy’n deillio’n uniongyrchol o’ch anabledd. Gall y LMA roi cymorth dynol, cyfarpar, a chymorth tuag at gostau eraill sy’n ymwneud ag anabledd, a theithio. Ni all gyllido: costau cysylltiedig ag anabledd a fyddai arnoch p’un a fyddech yn fyfyriwr neu beidio, a chostau astudio a allai fod ar bob myfyriwr.
Pwy all wneud cais am LMA?
Yn gyffredinol, gall unrhyw fyfyriwr mewn Addysg Uwch sydd ag anabledd wneud cais (yn cynnwys y rhai sydd ag Anawsterau Dysgu Penodol megis Dyslecsia).
Lle dylwn gychwyn?
Ewch i adran y Drefn Gwneud Ceisiadau am wybodaeth lawn. Yn y lle cyntaf, mae angen i’ch corff cyllido gael gwybod am eich bwriad i wneud cais am LMA, yn achos myfyrwyr Brifysgol Aberystwyth, gellwch gysylltu â’r Ymgynghorydd Hygyrchedd (hygyrchedd@aber.ac.uk).
Trefn Gwneud Cais
Canolfan Access Prifysgol Aberystwyth
Croeso i wefan y Ganolfan Access. Mae Canolfan Access Prifysgol Aberystwyth yn Ganolfan Allgymorth i Ganolfan Asessu Prifysgol Bangor. Yma, cewch wybodaeth am y gwasanaethau y mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a sut y gellwch eu defnyddio.
Rydym yn darparu Asesiadau Anghenion Astudio ar gyfer myfyrwyr sydd â hawl i dderbyn y LMA. Mae hyn yn golygu siarad â chi ynglyn â’ch anabledd a’r rhwystrau a gewch, ac yna argymell y strategaethau a’r cyfarpar ategol a fydd yn eich galluogi i gael addysg ar yr un lefel â’ch cyd-fyfyrwyr.
Lle mae’r Ganolfan ACCESS?
Pam dewis Canolfan Access Aberystwyth?
Cysylltu â'r Ganolfan
Cymorth Myfyrwyr |
Amseroedd agor: Dydd Llun i Ddydd Iau o 9y.b i 5.00y.p, Dydd Gwener o 9y.b i 4.00y.p heblaw am Wyliau Banc.