Lleoliadau Ymchwil Nuffield

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig Lleoliadau Ymchwil Nuffield a gyllidir gan Sefydliad Nuffield. Maent yn brosiectau ymchwil difyr, ymarferol, lle gall myfyrwyr wneud cyfraniad ystyrlon i waith y sefydliad.

Mae’n gyfle gwych i fyfyrwyr i addasu galluoedd a gwybodaeth a ddysgwyd yn yr ysgol, a gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant er mwyn:

  • Datblygu dealltwriaeth o’r pwnc ynghyd â sgiliau ymchwil a meintiol i gynyddu rhagolygon gyrfa.
  • Dysgu mwy am addysg uwch a gwahanol lwybrau gyrfa.
  • Cyfoethogi eu datganiadau personol UCAS a cheisiadau i brifysgol. 
  • Gwneud cais am Wobr Aur CREST neu'r Cystadleuaeth Big Bang

Meini prawf cymhwyster 

I fod yn gymwys, rhaid i fyfyrwyr:

  • Fod dros 16 oed ac ym Mlwyddyn 12 neu S5 yn yr Alban.
  • Bod mewn addysg amser llawn a gyllidir gan y wladwriaeth yn y DU.
  • Meddu ar o leiaf 5 TGAU ar Lefel 6/Gradd B neu uwch NEU Gymhwyster Cenedlaethol yr Alban ar Lefel B neu uwch, gan gynnwys mathemateg, pwnc gwyddonol, a Saesneg (neu bwnc arall yn y dyniaethau).
  • Astudio am un neu fwy o gymwysterau Safon Uwch neu Gymhwyster Uwch yr Alban (neu gyfwerth) mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, economeg, daearyddiaeth, seicoleg, cyfrifiadura, ystadegau, neu fathemateg.
  • Bod ar gael am 2-3 wythnos yn olynol ym mis Gorffennaf a/neu Awst i gydweithio â Darparwr y Lleoliad. (Dyddiadau i'w cadarnhau).

Rhaid i fyfyrwyr hefyd gwrdd ag o leiaf un o'r meini prawf canlynol:

  • Bod yn byw, neu wedi byw, yng ngofal yr awdurdod lleol.
  • Dod o deulu ag incwm cartref cyfunol yn is na £30,000 y flwyddyn (cyn treth).
  • Bod â hawl i ginio ysgol am ddim, naill ai nawr neu ar unrhyw adeg yn y chwe mlynedd ddiwethaf.
  • Yn derbyn, neu â hawl i dderbyn, taliadau dewisol yn yr ysgol/coleg (e.e., LCA, Cronfa Bwrsariaeth 16-19).
  • Y cyntaf yn eich teulu agos i fynd mlaen i addysg uwch (heb gynnwys unrhyw frodyr a chwiorydd hŷn). Mae hyn yn golygu nad yw’r naill na’r llall o’ch rhieni/gofalwyr wedi bod mewn addysg uwch, naill ai yn y DU nac mewn gwlad arall. Os yw eich brodyr a chwiorydd wedi mynd i addysg uwch, ond nad yw eich rhieni/gofalwyr wedi bod, rydych yn dal i fod yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sefydliad Nuffield.