*Cynghorir defnyddwyr sydd â phryderon yn ymwneud â symudedd i drefnu Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEP) gyda’r Swyddfa Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd (hse.office@aber.ac.uk), gan nad oes llwybr gwastad i fynd i mewn ac allan o’r ystafell hon.
Cyfarwyddiadau
O’r brif fynedfa trowch i’r chwith i mewn i Felin Drafod Llandinam, ewch yr holl ffordd i’r pen a thrwy’r drws i’r coridor. Ewch trwy’r drws ar y chwith a dringwch y grisiau i lawr G. Mae G3 ar ochr chwith y coridor.
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu’r canllaw hwn ynghylch defnyddio cyfarpar addysgu safonol yn yr ystafelloedd addysgu canolog – dilynwch y ddolen i lawrlwytho’r ffeil Microsoft Word: Canllaw Ystafelloedd Addysgu 2021-22