Llety Haf
Angen rhywle i fyw yn ystod yr haf (Mehefin - Medi)? Os byddwch yn fyfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yna does dim angen edrych ymhellach gan ein bod yn darparu llety Prifysgol Aberystwyth yn ystod y cyfnod hwn. Felly p'un ai eich bod yn byw mewn neuadd ar hyn o bryd ac eisiau ymestyn eich cyfnod yma neu yn byw mewn tŷ sector preifat ar hyn o bryd, mae llety haf ar gael i chi!
Disgwylir i geisiadau am lety haf agor am 10.00yb ar dydd Mawrth 14 Ebrill 2026.
Os ydych yn llety'r Brifysgol gyda ni ar hyn o bryd, byddwch yn gallu aros yn eich llety presennol hyd nes y gallwn eich symud i'ch llety haf. Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gallwn ofyn i chi symud yn gynt.
Mae'n rhaid i chi fod yn Aberystwyth pryd hyn i symud.
Mae'r costau wythnosol yn cynnwys ynni, rhyngrwyd/WiFi, lefel uchel o yswiriant cynnwys personol, ac Aelodaeth Platinwm o’r Ganolfan Chwaraeon AM DDIM ar gyfer eich iechyd a'ch lles.
Mae llety haf y Brifysgol ar gael i fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth yn unig.
