Cytundeb ar Weithdrefn UCATT

Cytundeb ar Weithdrefn rhwng Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac UCATT

  1. Diben y cytundeb hwn yw darparu peirianwaith ar gyfer negodi ac ymgynghori rhwng Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac Undeb y Gweithwyr Adeiladu, Masnachau Cysylltiedig a Thechnegwyr (UCATT) mewn perthynas â phob gradd o grefftwyr/ grefftwragedd a gyflogir gan y Brifysgol.
  2. O dan y peirianwaith hwn y daw pob cwestiwn ynghylch cyflogau ac amodau gwasanaeth ac eithrio’r rhai a negodir yn genedlaethol rhwng UCATT a Chymdeithas Cyflogwyr y Prifysgolion a’r Colegau, y cyfeirir ati wedi hyn fel “CCPC”. Daw cymhwyso unrhyw gytundeb o’r fath ac unrhyw fater sy’n codi ohono o dan y weithdrefn hon. Mae’r cytundeb hwn yn cadw i’r Brifysgol hawliau arferol y cyflogwr o ran penodi, talu a dyrchafu crefftwyr/crefftwragedd unigol.
  3. Rhaid i faterion unigol o fewn telerau paragraff 2 uchod gael eu codi gan yr unigolyn gyda’i r(h)eolwr llinell yn y lle cyntaf, ac yna gyda’r Cyfarwyddwr Ystadau, yng nghwmni, os dymunir, Gynrychiolydd o Undeb Llafur.
  4. Gall UCATT godi materion cyfunol gyda’r Cyfarwyddwr Ystadau, ac at y diben hwnnw rhaid iddynt enwebu un person i gynrychioli buddiannau eu haelodau.
  5. Os na ellir setlo’r mater o dan baragraff 4, gall cynrychiolydd enwebedig yr Undeb Llafur ei godi gyda gweinyddiaeth y Brifysgol.
  6. Os na setlir y mater ar ôl i’r gweithdrefnau a amlinellwyd uchod gael eu dihysbyddu, bydd y Brifysgol ac UCATT naill ai’n cyfarfod cyn pen 14 diwrnod i ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio’r peirianwaith cymodi sydd ar gael yn lleol (e.e. gwasanaethau’r Adran Gyflogi) neu’n cyd-gytuno i ddefnyddio peirianwaith y Cyngor Canolog fel y’i nodir isod.
  7. Os na ddatrysir mater o dan (3) a (4) uchod ar ôl i’r holl weithdrefnau lleol ddod i ben, gellir ei gyfeirio i sylw Cyd-Ysgrifenyddion y Cyd-Bwyllgor ar gyfer Staff Gwaith Corfforol ac Ategol y Cyngor Canolog ar gyfer Staffiau sydd heb fod yn Addysgu yn y Prifysgolion ac, os bydd y naill barti a’r llall yn cytuno, i sylw trefn gyflafareddu ar ôl cyfeirio’r mater i sylw’r Cyd-Bwyllgor priodol.
  8. Rhaid i unrhyw atal gwaith rhannol neu gyffredinol beidio â chychwyn tan i’r holl weithdrefnau a nodwyd gael eu cyflawni.
  9. Rhoir cyfleusterau digonol i Gynrychiolwyr enwebedig yr Undeb Llafur iddynt gysylltu â staff sy’n dymuno cael cyngor ynghylch materion sy’n ymwneud â’u cyflogaeth. Rhaid i gynrychiolwyr sy’n dymuno gadael eu man gweithio yn ystod eu horiau gwaith arferol at y diben hwnnw gael caniatâd y Cyfarwyddwr Ystadau neu ei (h)enwebai ymlaen llaw: ni wrthodir yn afresymol â rhoi’r caniatâd hwnnw.
  10. Bydd hysbysfyrddau mewn mannau priodol ar gael i UCATT er mwyn iddynt arddangos llenyddiaeth sy’n dderbyniol i’r Brifysgol.
  11. Trefnir i ystafelloedd fod ar gael i gynnal cyfarfodydd bona fide o’r undeb ynddynt y tu allan i’r oriau gwaith arferol.
  12. Nid yw’r cytundeb hwn yn rhagfarnu hawliau unrhyw weithiwr cyflog unigol i godi unrhyw fater sy’n effeithio arno neu arni gyda’r Brifysgol.
  13. Daeth y cytundeb hwn i rym ar 1 Mai 1977. Gellir adolygu ei delerau os rhoir tri mis o rybudd ysgrifenedig. Os yw’r naill barti neu’r llall yn dymuno amrywio telerau’r cytundeb hwn, neu ei derfynu, dylid rhoi tri mis o rybudd ysgrifenedig.
  14. Mae’r naill barti a’r llall yn derbyn bod y cytundeb hwn yn eu rhwymo mewn anrhydedd ond mae pob un ohonynt yn cytuno’n benodol na fwriedir iddo fod yn gytundeb cyfreithiol-orfodadwy rhyngddynt.

Fersiwn V190307